Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Ymateb Ysgrifenedig i Adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ar Wasanaethau Addasu a Chynnal a Chadw Cartrefi i Bobl Hyn yng Nghymru gan Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai
14 Medi 2009
Mae anghenion tai pobl hyn wastad wedi bod, ac yn parhau i fod, yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth y Cynulliad a dyna pam fy mod wedi comisiynu strategaeth ar y pwnc hwn. Disgwylir y bydd y strategaeth yn cael ei chwblhau’n derfynol yn y dyfodol agos. Felly, mae adroddiad y Pwyllgor yn amserol iawn wrth ddarparu dimensiwn penodol, un a fydd yn ein helpu ymhellach i ganolbwyntio a miniogi ein polisïau yn y maes eang ac amrywiol hwn.
Yn wir, mae anghenion pobl hyn yn niferus ac yn amrywiol, a’r unlle’n fwy felly nag ym maes addasu a chynnal a chadw cartrefi. Mae’r ddemograffeg drawiadol yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio yn wybyddus i bawb ac nid oes angen ymhelaethu arnynt. Wrth i bobl hyn fyw’n hirach a’u bod yn dymuno aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud yn siwr bod y polisïau a’r seilwaith cywir mewn grym i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol, yn gyson ac yn unol â dymuniadau pobl hyn, a lle bo hynny’n briodol, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Er bod llawer wedi’i gyflawni yn y meysydd polisi hyn, mae’r Pwyllgor wedi tynnu sylw, a hynny’n gwbl iawn, at nifer o ddiffygion a gwendidau systematig sy’n gyffredin yn y trefniadau gweinyddol a chyllidol presennol ar gyfer addasu cartrefi. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddatrys a dileu’r gwendidau hyn a’r gwendidau eraill a ddisgrifir gan y Pwyllgor. Nid yw amrywiadau yn y gwasanaeth a ddarperir er budd neb, yn enwedig y person hyn sydd â hawl i ddisgwyl cael yr un driniaeth a’r un safon uchel o wasanaeth p’un ai os yw’n byw yng Nghaergybi neu yng Nghas-gwent.
Yr hyn sy’n hanfodol i lwyddiant y polisïau a’r cynlluniau yn y maes hwn yw gweithio corfforaethol effeithiol, o fewn awdurdodau lleol a rhwng awdurdodau a’u partneriaid. Dyna oedd y neges allweddol yn yr adroddiad ar addasiadau i dai yn 2005, adroddiad a ganolbwyntiodd y Pwyllgor yn fanwl arno, ac mae’r neges honno’n wir hyd heddiw. Dyna pam fod rhaid i awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel y cyfryngau darparu, sicrhau cysondeb a chydraddoldeb inter alia
o ran dadansoddi deddfwriaethol, agwedd weinyddol, lledaenu gwybodaeth a chyflenwi gwasanaeth. Wrth roi’r argymhellion ar waith byddwn yn gweithio’n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau partner er mwyn cyflawni’r dyheadau hyn a’r dyheadau eraill a bennwyd gan y Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr i bobl hyn gan dynnu sylw at y problemau a wynebant wrth geisio cael addasiadau i’w cartrefi. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu llwyfan cadarn er mwyn mynd i’r afael â’r materion y tynnwyd sylw atynt a hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am ei ddiwydrwydd a’i ymrwymiad.
Nodir f’ymatebion i argymhellion unigol yr Adroddiad isod.
Nodir Ymatebion Manwl i argymhellion yr adroddiad isod:
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal adolygiad trwyadl, wedi’i seilio ar dystiolaeth, o’r camau sydd wedi’u cymryd i weithredu argymhellion adolygiad 2005 o’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a dylid ystyried pa gynnydd a wnaed.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddaf yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu canfod i gynnal yr adolygiad hwn, naill ai’n allanol neu fel aseiniad mewnol. Byddwn hefyd yn hysbysu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a holl awdurdodau lleol Cymru am yr adolygiad ac yn pwyso ar CLlLC i roi blaenoriaeth i'r mater.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno adroddiadau’n flynyddol i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal ar y cynnydd a wnaed ochr yn ochr ag argymhellion adolygiad 2005 a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn. Dylai’r adroddiad blynyddol fod wedi’i seilio ar ddata a gasglwyd drwy’r dangosydd perfformiad, a dylai hyn fod yn ymrwymiad yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Darparwyd gwybodaeth yn ymwneud â’r cynnydd yn erbyn pob un o argymhellion adolygiad 2005 yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor. Caiff hyn ei ffurfioli’n awr yn unol â’r argymhelliad. Byddaf yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol er mwyn nodi bod angen i hyn fod yn ymrwymiad yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu a chydgysylltu rhaglen werthuso ac ymchwilio i ganfod beth sy’n gweithio’n dda, a hynny fel sail i roi canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol. Dylid seilio’r cyfan ar farn y bobl hyn eu hunain.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â CLlLC i lunio rhaglen werthuso ac ymchwil yn unol â’r hyn a awgrymwyd. Ceir tystiolaeth eisoes o lawer o arfer da yn y maes sy’n deillio o gyflwyno Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Fodd bynnag, byddwn yn adeiladu ar hyn ac yn mynd y tu hwnt iddo, gan goleddu safbwyntiau mudiadau eraill sy’n cynrychioli pobl hyn a defnyddwyr gwasanaeth.
Goblygiadau Ariannol – dim i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod. Bydd rhaid cynnal trafodaethau pellach gyda CLlLC o ran eu cyfraniad at y gyllideb ymchwil.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymchwilio i’r meysydd lle nad oes llawer o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd, sy’n golygu ei bod yn anodd asesu perfformiad a bylchau posibl mewn gwasanaethau. Dylai’r gwaith ymchwil hwn gynnwys:
gwybodaeth am yr holl ddeiliadaethau;
gwybodaeth am bobl hyn sydd ag anghenion ychwanegol; a
gwybodaeth sy’n ymwneud â phobl o wahanol oedrannau.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Gallai’r ymchwil hwn gael ei gynnwys yn yr hyn a nodwyd yn Argymhelliad 1 a gellid creu cysylltiad rhyngddynt. Unwaith eto, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol o'r sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol, yn ogystal â'r bobl hyn eu hunain.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar sail yr hyn sy’n deillio o argymhellion 3 a 4 ac wrth gydweithio â phartneriaid allweddol, fabwysiadu dull strategol o fonitro perfformiad awdurdodau lleol wrth ddarparu addasiadau i dai, gan roi cymorth pan ganfyddir arferion gwael a datblygu dull parhaol o rannu arferion da.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i ganfod dulliau mwy priodol o fonitro perfformiad awdurdodau lleol o ran cyflawni addasiadau i dai. Fel cyfryngau darparu, a drwy weithio’n gorfforaethol, bydd awdurdodau lleol yn hanfodol i lwyddiant y broses hon, yn ogystal ag ymrwymiad ac arweiniad CLlLC a’r flaenoriaeth a roddant i’r mater.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod. Bydd angen ystyried ymhellach unrhyw gostau ychwanegol a fydd yn syrthio ar awdurdodau lleol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru addasu’r dangosydd perfformiad presennol i sicrhau ei fod yn rhoi darlun cliriach o berfformiad. Byddai’r wybodaeth sy’n ymwneud â rheoli perfformiad yn fwy ystyrlon pe bai gwybodaeth ar gael am y canlynol:
yr amseroedd aros y cytunwyd arnynt ar gyfer mathau gwahanol o addasiadau;
yr amser y mae pob cam yn y broses addasu yn ei gymryd;
cyfran yr addasiadau a gwblhawyd o fewn nifer penodol o ddyddiau;
gwahanol grwpiau oedran.
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ac, yn sicr, yr wyf yn cytuno y dylai data perfformiad ddarparu darlun clir o berfformiad. Ond, rhaid inni bob amser fod yn ofalus nad ydym yn creu baich diangen o ran casglu data, nac yn cynhyrchu data perfformiad nad yw, am wahanol resymau, yn mesur yn gywir ansawdd gwasanaethau awdurdodau lleol na phrofiad dinasyddion ohonynt. Er enghraifft, dylai fod yn eithaf syml didoli’r data rhwng addasiadau a ddarparwyd i blant ac addasiadau a ddarparwyd i oedolion. Fodd bynnag, byddai mesur canran y gwaith sydd wedi’i gwblhau o fewn cyfnod penodol yn hynod o gamarweiniol, yn enwedig pan mae’n arferol cael cyfnod eang o amser i gwblhau gwaith.
Cyn bo hir, byddwn yn ymgynghori ar fframwaith mesur perfformiad llywodraeth leol ar gyfer 2010-11 drwyddo draw, a bydd cynigion y pwyllgor sy’n ymddangos yn ymarferol bosibl o safbwynt rheoli perfformiad ehangach yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwnnw.
Goblygiadau Ariannol – nid oes rhai wedi eu nodi ar hyn o bryd, ond bydd angen ystyried hyn yn fanylach.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu canllawiau i egluro’r fframwaith deddfwriaethol cymhleth a dryslyd sy’n ymwneud â phwy sy’n berchen ar offer ac addasiadau ac yn gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddwn yn ailedrych ar y canllawiau presennol yng Nghylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20/02 ac yn eu diweddaru a’u hegluro yn ôl y gofyn.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymchwilio i’r posibilrwydd o gael un gofrestr sengl o’r tai a addaswyd ym mhob deiliadaeth, a dylai’r gofrestr honno fod ar gael i’r cyhoedd.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn lle mae tai yn y sector cyhoeddus yn y cwestiwn. Byddwn yn trafod y mater hwn ymhellach gyda CLlLC. Mae Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20/02 eisoes yn datgan y manteision o gael un gofrestr o dai a addaswyd yng nghyd-destun tai cymdeithasol. Mae’r sefyllfa yn y sector preifat yn fwy cymhleth oherwydd gallai llawer o dai fod wedi cael eu haddasu heb gymorth grant ac ni fydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r addasiadau. Fodd bynnag, byddwn yn trafod hyn gyda CLlLC.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymgynghori gyda phobl hyn i ddatblygu canllawiau ar gyfer sut i roi gwybodaeth i bobl hyn am wasanaethau addasu a chynnal a chadw cartrefi. Dylai hyn gynnwys canllawiau am y canlynol:
Yr hyn y dylai’r wybodaeth ei gynnwys;
Ffurf/iaith y wybodaeth i’w gwneud yn hygyrch; a,
Lledaenu gwybodaeth i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddwn yn trafod y cynigion hyn ymhellach gyda Gofal a Thrwsio Cymru yng ngoleuni astudiaeth beilot asiantaeth Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn y maes hwn. Mae’r cynigion hefyd yn cyd-fynd â gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, dan arweiniad y Gyfarwyddiaeth Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd - yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel rhan o’r Fframwaith cynhwysfawr ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol i bobl Hyn, ac mae’r maes tai wedi’i gynrychioli ar y grwp llywio.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru bennu ym mha awdurdodau lleol y gellid gwella gwaith partneriaeth, a dylai weithio gyda’r ardaloedd hynny i ymchwilio i’r potensial y gallai Byrddau Gwasanaethau Lleol gyfrannu at wella gwaith partneriaeth.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddaf yn codi’r mater hwn gyda’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn gweithio i’r perwyl hwn.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol er mwyn rhoi hwb i’r diwydiant adeiladu drwy ddefnyddio contractwyr i wneud addasiadau.
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Fodd bynnag, yr unig bryd y byddai’n briodol rhoi adnoddau ychwanegol yw petai’n amlwg bod awdurdodau lleol yn mynd i gynnal a chadw rhaglen sylfaenol y Grant Cyfleusterau i’r Anabl a defnyddio unrhyw gyllid o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol i gyflawni gwell rhaglen. Bydd angen ystyried hyn yng nghyd-destun y cylch ceisiadau rhyngadrannol i’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. Hefyd, bydd angen imi drafod y mater hwn gyda CLlLC i weld sut y gellid rhoi’r cynnig hwn ar waith ac er mwyn sicrhau y byddai chwistrelliad o gyllid y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol yn arwain at well rhaglen Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Goblygiadau Ariannol - bydd rhaid ystyried y rhain mewn trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ofyn i awdurdodau lleol sut y maent wedi buddsoddi mewn gwasanaethau therapyddion galwedigaethol dros y pedair blynedd diwethaf, er mwyn ymateb i’r galw cynyddol ymhlith pobl hyn am y gwasanaethau hynny.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Byddaf yn ystyried y materion hyn ar y cyd â CLlLC ac yn codi’r mater gyda’r Gweinidog dros Iechyd a’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Goblygiadau Ariannol – dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd camau i wneud iawn am y prinder presennol mewn therapyddion galwedigaethol, gan gynnwys sicrhau bod y broses o gynllunio’r gweithlu yn y maes hwnnw yn ystyried anghenion awdurdodau lleol yn y dyfodol.
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor oherwydd mai cyfrifoldeb y Gweinidog dros Iechyd yw’r mater hwn, a byddaf yn codi’r mater gyda’r Gweinidog.
Goblygiadau Ariannol - bydd rhaid ystyried y rhain mewn trafodaethau gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyflogi therapydd galwedigaethol yn yr Adran Dai er mwyn rhoi cyngor defnyddiol ynghylch anghenion pobl hyn a phobl anabl.
Ymateb: Gwrthod
Yr wyf yn gwrthod yr argymhelliad hwn. Caiff Therapyddion Galwedigaethol eu cyflogi’n bennaf gan awdurdodau lleol, y GIG neu'r sectorau preifat/annibynnol lle mae galw beunyddiol am eu sgiliau, yn uniongyrchol ac yn ymarferol, gan gleientiaid neu gleifion. Mae’r ffaith bod Gweithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon (NIHE) wedi cyflogi therapydd galwedigaethol, fel y nodir yng nghorff yr adroddiad, yn adlewyrchu safle arbennig NIHE fel darparwr tai uniongyrchol sy’n ymwneud â’r gwasanaethau hynny yng nghymuned Gogledd Iwerddon. Nid oes gweinyddiaeth lywodraethol genedlaethol arall mewn rhannau eraill o’r DU yn dilyn y patrwm hwn. Fodd bynnag, gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru ddarparu cyngor am anghenion pobl hyn o safbwynt therapyddion galwedigaethol.
Cynrychiolir Coleg y Therapyddion Galwedigaethol ar Is-grwp Grant Tai Cymdeithasol Ffrwd Waith Essex, fodd bynnag, byddwn yn fodlon cyfarfod yn ffurfiol â Choleg y Therapyddion Galwedigaethol bob tri mis neu bob chwe mis er mwyn trafod materion sy’n effeithio ar anghenion pobl hyn a phobl anabl.
Yn ogystal, byddwn yn annog Panel Technegol Penaethiaid Iechyd Amgylcheddol Cymru Gyfan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wahodd cynrychiolydd o Goleg y Therapyddion Galwedigaethol i fod yn aelod o’r Panel a chyfrannu o ran y mater hwn pan fydd hynny’n briodol. Mae swyddogion yng Nghyfarwyddiaeth Dai Llywodraeth y Cynulliad yn mynychu cyfarfodydd chwarterol y Panel.
Byddwn hefyd yn fodlon gwahodd Coleg y Therapyddion Galwedigaethol i fod yn aelod o’r Fforwm Ymgynghorol ar Dai sy’n cadeirio cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.
Goblygiadau Ariannol – dim.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Fel rhan o’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu’r gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi sydd ar gael a chanfod y safonau gofynnol y gall pobl eu disgwyl yn gyson mewn gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi ledled Cymru.
Ymateb: Derbyn
Yr wyf yn derbyn yr argymhelliad hwn. Gellir cyflawni hyn ar y cyd â’r cynnig yn Argymhelliad 9.
Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn dod o gyllidebau rhaglenni sy’n bodoli’n barod.
