Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Hygyrchedd Gorsafoedd Rheilffordd
Ymchwilio i’r camau y gallai Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol eraill eu cymryd i wella hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:
a) Yr ystod o anawsterau y mae pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn eu cael o ganlyniad i:
Blatfformau ac ardaloedd eraill o’r orsaf sy’n anhygyrch
Cyfleusterau anhygyrch, fel toiledau neu wasanaethau gwybodaeth
Problemau wrth symud rhwng y trên a’r platfform
Gorsafoedd heb staff neu sydd â nifer gyfyngedig o staff;
b) Y trefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith gan Trenau Arriva Cymru (TAC) i helpu pobl i oresgyn yr anawsterau hyn;
c) Pa mor gyflym y mae hygyrchedd gorsafoedd yn gwella;
d) Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei wneud i wella hygyrchedd gorsafoedd yng Nghymru;
e) Awgrymiadau o ardaloedd lle gall Llywodraeth Cymru ac eraill ymyrryd ynddynt.
