Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cyllid

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am graffu'n briodol ar gyllideb a gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hyn a’r gwahanol Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyrff y Gwasanaeth Iechyd.

Yn gyffredinol mae gan y Pwyllgor dair prif swyddogaeth:

  • Ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb y Cynulliad, a chyflwyno adroddiad arnynt;
  • Ystyried y wybodaeth ariannol a gyflwynir gyda Mesurau Cynulliad, a lle bo’n briodol, cyflwyno adroddiad arni;
  • Ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant y Llywodraeth neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar y gwariant hwnnw.

Mae Rheol Sefydlog 14 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi manylion llawn am weithdrefnau'r pwyllgor ac mae Rheol Sefydlog 27 yn nodi’r amserlen ar gyfer trefnu cyfarfodydd gyda golwg ar y broses gyllid.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Ganllawiau ar wybodaeth i gyd-fynd â Mesur Cynulliad arfaethedig ym mis Ionawr 2009.

Newyddion Diweddaraf

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi Adroddiad ar y Cynnig ynghylch y Gyllideb Atodol 2009-10 (23 Chwefror) (PDF, 695KB)

Aelodau'r Pwyllgor a'r staff

Gellir gweld manylion cyswllt Aelodau’r Cynulliad a staff y Pwyllgor yma

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gellir gweld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yn yr adran hon

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar Ddydd Mercher 24 Mawrth 2010

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar fore Mercher

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol (gallent newid)

Adroddiadau ac Ymchwiliadau'r Pwyllgor

Ymchwiliadau cyfredol:

Gellir gweld manylion yr ymchwiliadau a gwblhawyd yma

Gellir gweld manylion yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yma