Y Pwyllgor Deisebau (2007 - 2011)

Rôl y Pwyllgor Deisebau oedd ystyried deisebau derbyniadwy a gyfeiriwyd gan y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 28.8.
|

Statws

|

Daeth y Pwyllgor i ben am hanner nôs ar 31 Mawrth 2011.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau lyfryn ar 29 Mawrth sy’n edrych yn ôl ar waith y Pwyllgor dros y pedair blynedd diwethaf ac ar sut mae’r broses ddeisebau wedi gweithio.

Cynhaliwyd cyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau cyn diddymu’r Cynulliad ar 29 Mawrth. Bydd deisebau sy’n dal ar agor ar 31 Mawrth yn parhau i'r Cynulliad nesaf. Fodd bynnag, gan na fydd yr un pwyllgor yn bodoli yn ystod y diddymiad, dim ond ar ôl penodi pwyllgor newydd y caiff deisebau eu hystyried eto.

Cysylltwch â’r tîm deisebau os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â hyn. I gael rhagor o wybodaeth am etholiad y Cynulliad, gwele yma.

Mae'r tîm Deisebau wedi paratoi fideo sy'n egluro'r broses Mae'r tîm Deisebau wedi paratoi fideo sy'n egluro'r brose e-ddeisebau:

Aelodau'r Pwyllgor a'r staff

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Trydydd Cynulliad yn yr adran hon..

e-Ddeisebau

Lansiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei system e-ddeisebu ar 15 Ebrill 2008. Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn golygu y bydd modd cyhoeddi deisebau ar wefan y Cynulliad ac y bydd yn bosibl i bobl eu llofnodi’n electronig.
Cliciwch yma i greu neu lofnodi e-Ddeiseb

Partneriaid a Help