Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Mesur arfaethedig i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau
Mae’r pwyllgor yn bwriadu cynnig Mesur Cynulliad i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau. Byddai hyn yn golygu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol fel corff gwarchod ar gyfer y ffordd y mae Aelodau’r Cynulliad yn cyflawni eu dyletswyddau.
