
Mehefin 2008
Ymgynghoriad Cyhoeddus: Mesur Cynulliad I Sefydlu Rôl Statudol a Gyfer Comisiynydd Safonau - Gwahoddiad I Ymateb
Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cynnig Mesur Cynulliad i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau. Ysgrifennaf, ar ran y pwyllgor, i’ch gwahodd i gyflwyno tystiolaeth iddo.
Cefndir
Diben gwaith y pwyllgor yw sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn cynnal safonau ymddygiad priodol. Rôl anstatudol sydd i’r Comisiynydd Safonau ar hyn o bryd. Fel rhan o’r broses o ddatblygu Mesur arfaethedig, mae’r pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ar rai o’r cwestiynau sylfaenol ynghylch rôl ac annibyniaeth y Comisiynydd Safonau. Diben yr ymgynghoriad yw llywio ystyriaeth y pwyllgor o’r egwyddorion cyffredinol a’r gwaith o ddrafftio’r Mesur.
Mae’r pwyllgor wedi cytuno ar gwmpas ei waith gyda’r cwestiynau a ganlyn:
1. A oes angen Mesur Cynulliad i sefydlu rôl statudol ar gyfer Comisiynydd Safonau?
2. Beth ddylai fod rôl y Comisiynydd Safonau?
3. Pa egwyddorion sylfaenol ddylai fod yn sylfaen i’r swydd?
Yn ogystal â’r cwestiynau fframwaith a nodir uchod, mae’r pwyllgor wedi nodi nifer o gwestiynau manylach y mae’n bosibl y byddwch am eu hateb. Maent wedi’u nodi yn atodiad 1 i’r llythyr hwn.
Os hoffech gyfrannu at waith y pwyllgor, dylech anfon cyflwyniadau, yn electronig drwy e-bost neu ar ddisg os yn bosibl, neu ar ffurf copi caled fel arall at:
Lara Date
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
E-bost: Standards@wales.gsi.gov.uk. (Nodwch Ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad fel teitl i’r e-bost)
Mae’r pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod mis Gorffennaf i lywio gwaith drafftio cychwynnol ar y Mesur arfaethedig. Felly, byddai’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pe gallech gyflwyno unrhyw gyfraniadau erbyn dydd Gwener 4 Gorffennaf 2008. Bydd yr ymgynghoriad â’r cyhoedd yn parhau ar agor yn ystod yr haf.
Wrth lunio’ch cyflwyniad. Ystyriwch y canlynol:
Dylai eich ymateb fod mor gryno â phosibl. Defnyddiwch y teitl uchod fel cyfeirnod i’ch cyflwyniad;
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd graffu arnynt ac efallai y cânt eu trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb na’ch enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir ar eich cyflwyniad;
Nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn;
Nodwch a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth ar lafar i’r pwyllgor.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Lara Date, ail Glerc y pwyllgor ar 029 2089 1821 neu cysylltwch â Sulafa Halstead, Clerc y pwyllgor ar 029 2089 8238. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar wefan y Cynulliad yn www.cynulliadcymru.org
Yn gywir
Sulafa Halstead
Clerc y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Atodiad 1
Cwestiynau ymgynghori:
1. Mae’r Mesur arfaethedig yn ymwneud â sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau. A fyddai’n well bod y Cynulliad yn mynd i’r afael â’r mater mewn ffordd arall?
2. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gyrff gwarchod sy’n annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi’u sefydlu mewn cyfraith. A ddylid sefydlu statws cyfreithiol tebyg i’r Comisiynydd Safonau?
3. Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru eu penodi gan y Frenhines ar hyn o bryd, yn unol ag argymhelliad y Cynulliad. Sut y dylid penodi’r Comisiynydd Safonau?
4. Penodir y Comisiynydd Safonau am gyfnod o bedair blynedd ar hyn o bryd. Penodir Archwilydd Cyffredinol Cymru am bum mlynedd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am saith mlynedd. Penodir Comisiynydd Safonau’r Alban am chwe blynedd a’r Comisiynydd Safonau Seneddol am bum mlynedd. Am gyfnod o ba hyd y dylid penodi’r Comisiynydd Safonau?
5. Rhoddir tâl cadw blynyddol i’r Comisiynydd Safonau presennol a chaiff ffioedd eu talu iddo yn seiliedig ar nifer y diwrnodau a weithiwyd ganddo. Ariennir swyddi Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Gronfa Gyfunol Cymru. Sut y dylid ariannu swydd y Comisiynydd Safonau?
6. Caiff y Comisiynydd Safonau ei gynorthwyo gan staff Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad ar hyn o bryd. Nid chânt eu penodi’n uniongyrchol i’w gynorthwyo â’i waith. A ddylid cyflogi staff penodol i weithio’n uniongyrchol i’r Comisiynydd Safonau ac a ddylid rhoi’r gallu iddo/iddi gyflogi ei staff ei hun, neu a ddylai gael cymorth gan sefydliad arall fel swyddfa’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus?
7. A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau rôl i’w chwarae o ran hyrwyddo fframwaith ar gyfer safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus?
8. A ddylai fod y Comisiynydd Safonau yn gallu rhoi cyngor cyffredinol ar safonau ymddygiad?
9. A ddylai’r Comisiynydd Safonau gynghori Aelodau’r Cynulliad ar eu hymddygiad ynghyd ag ymchwilio i gwynion?
10. A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau y rhyddid i weithredu’n annibynnol drwy benderfynu a yw cwyn yn deilwng o ymchwiliad neu drwy gychwyn ymchwiliad?
11. A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau y pŵer i alw pobl i roi tystiolaeth ac i ofyn bod papurau a chofnodion yn cael eu darparu?
12. A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau y gallu i gyhoeddi casgliadau a phenderfyniadau?
13. A ddylai’r Comisiynydd Safonau fod yn atebol yn uniongyrchol i’r Cynulliad neu i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad?
14. A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau yn un rôl mewn perthynas â Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad eraill?
15. Beth fydd yr ystyriaethau ymarferol o ran gweithredu’r system a sut y dylai’r Mesur arfaethedig ddarparu ar gyfer y rhain?
