Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgorau Deddfwriaeth Parhaol

Yn ystod y trydydd Cynulliad, sefydlwyd pum Pwyllgor Deddfwriaeth parhaol. Mae 5 Aelod ym mhob pwyllgor, ynghyd â chadeirydd heb bleidlais.

Rôl Pwyllgor Deddfwriaeth yw trafod unrhyw eitemau o ddeddfwriaeth y bydd y Pwyllgor Busnes yn eu cyfeirio ato. Y Pwyllgor Busnes sydd hefyd yn trefnu’r amserlen ar gyfer gwaith y pwyllgorau.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol (cynt y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth) yn ystyried agweddau technegol ar yr holl offerynnau statudol neu’r offerynnau statudol drafft a wneir gan Weinidogion Cymru gan gyflwyno adroddiadau’n nodi a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i’r offeryn neu’r offeryn drafft ar unrhyw un o’r seiliau a restrir yn Rheol Sefydlog 15.2. Gall y Pwyllgor hefyd ymgymryd â waith craffu ar Mesurau’r Cynulliad ond ni chaiff gwestiynu’r polisi ei hun. Yn ogystal â hyn, gall y Pwyllgor gyflwyno adroddiadau’n ymwneud â’r materion a nodir yn Rheol Sefydlog 15.3 neu 15.6.

Aelodau’r Pwyllgor

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

Hafan Is-ddeddfwriaeth

Ad Hoc Committees

Cyn bod y penderfyniad wedi’i wneud i sefydlu pwyllgorau deddfwriaeth parhaol, cafodd pwyllgorau deddfwriaeth ad hoc eu sefydlu er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i gynnig deddfwriaethol penodol (sef Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol neu Fesur Cynulliad). Pan fydd pwyllgor deddfwriaeth ad hoc wedi gorffen trafod Gorchymyn neu Fesur Cynulliad, bydd y pwyllgor hwnnw’n dod i ben.

Mae modd gweld gwybodaeth am bwyllgorau sydd wedi’u diddymu yma

Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Diogelwch Tân Domestig