Ymgynghoriad cyhoeddus y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth gan ofyn barn gan bawb sydd â diddordeb, ar y cynigion a gynhwysir yn y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007 (ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff).
Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau a gellir cael mynediad i’r ymatebion a dderbyniwyd yn: rhestr o ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mae gwybodaeth bellach a manylion am yr alwad am dystiolaeth yn gynwysedig yn y llythyr ar yr ymgynghoriad.
