Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth
Ymchwiliad i’r datblygiadau yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys yr Eithriadau i Faterion.
S5 5 - Cymru Yfory
Ionawr 2010
Tystiolaeth Cymru Yfory i Ymchwiliad Pwyllgor Isddeddfwriaeth ar Atodlen 5 ac Eithriadau Sefydlog a Chyfnewidiol
[Yn yr isod defnyddir 'sefydlog’ i gyfateb i’r Saesneg 'fixed
’ a 'cyfnewidiol’ i gyfateb i’r Saesneg 'floating
’]
1.Fe gyflwynir y memorandwm hwn gan Cymru Yfory (CY) i ymchwiliad Pwyllgor Isddeddfwriaeth y Cynulliad Ceneddlaethol ar Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a’r defnydd o eithriadau sefydlog a chyfenwidiol i’r Atodlen honno.
2.Yn ei dystiolaeth i Gonfesniwn Cymru Gyfan, fe restrodd CY bum egwyddor yr ydyn ni’n credu a ddylai fod yn sail i’r setliad datganoli:
sefydlogrwydd
effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd;
eglurdeb a thryloywedd;
y cyfranogiad mwyaf posibl;
ymreolaeth.
3. Mae CY o’r farn fod cyflwr presennol Atodlen 5 yn gweithio mewn ffordd sy’n groes i bob un o’r egwyddorion yna. Mae cynhwysion amrywiol a chawdelog Atodlen 5 yn tanseilio’i dealladwyedd a’i heglurder. Mae’n anodd, os nad yn amhosibl, i’r cyhoedd yn gyffredinol ddeall mewn ffordd syml pa faterion sy wedi, a heb, eu datganoli. Mae hyn yn ei dro yn golygu ei bod yn anodd i Atodlen 5 weithredu mewn ffordd effeithiol nac effeithlon, yn arbennig cyn belled ag y mae defnyddwyr deddfwriaeth (yn hytrach na llywodraethau) yn y cwestiwn. Mae hefyd yn golygu ei bod yn methu â sicrhau cyfranogiad eang (heb son am y mwyaf posibl) mewn llywodraeth ddatganoledig. Mae natur newidiol Atodlen 5, a’r prosesau cymylog sy’n aml yn gyrru pa faterion sy’n cael eu datganoli, a sut y mae rhain yn cael eu fframio, yn golygu ei bod yn ansefydlog yn ei hanfod. Mae’r ffaith fod yna gymaint o ddadlau ynghylch pun a ddylai materion gael eu datganoli neu beidio - yn enwedig parthed newidiadau a wneir gan bwerau fframwaith, nad ydyn nhw’n ddarostyngedig i gydsyniad y Cynulliad Cenbedlaethol - yn tanseilio ymreolaeth y Cynulliad.
4. Barn CY felly yw fod y ffordd y datblygodd Atodlen 5 yn groes i egwyddorion llywodraethu da (fe fanylon ni yn helaethach ar hyn yn ein cyflwyniad i Gonfensiwn Cymru Gyfan1).
5. O ran datblygu eithriadau sefydlog a chyfenwidiol, mae’n pryderon ni wedi’u gwreiddio mewn egwyddorion cyffelyb. Tra’n bod ni’n cyfaddef bod i ddefnyddio eithriadau 'cyfnewidiol’ rai manteision o ran eglurhau’r egwyddorion o’r hyn sy, a heb, ei ddatganoli, dyw’r ffordd y cafodd rhain eu gosod mewn geiriau ddim yn cyfrannu at sefydlogrwydd, cynyddu cyfranogiad y lliaws, na diogelu ymreolaeth y Cynulliad. Er engrhaifft, mae’r GCD Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff yn cynnwys eithriadau mewn meysydd nad sydd wedi eu datganoli hyd yn hyn. Fe all hyn achosi dryswch yn y dyfodol.
Notes
1.http://wales.gov.uk/docs/awc/publications/090217tomorrowswalescy.pdf
