Rheol Sefydlog 25: Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig
Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig ar Orchymyn drafft A40 Penblewin
Mae’r Pwyllgor wedi ei sefydlu yn unol â’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig fel y nodir yn Rheol Sefydlog 25.
Gwahoddir y pwyllgor i gytuno ar ei gylch gorchwyl arfaethedig, yn unol â’r cylch gwaith y cytunwyd arno gan y Cynulliad:
(i) ystyried deisebau a gyflwynwyd i’r Llywydd gan Gyngor Sir Penfro a Mr.K.Jones yn gwrthwynebu’r Gorchymyn drafft
(ii) cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad gydag argymhelliad i wneud y Gorchymyn drafft (heb ei ddiwygio) neu i beidio â’i wneud, yn unol â Rheol Sefydlog 25.21.
Bydd y pwyllgor yn dod i ben ar ôl iddo gyflwyno’i adroddiad.
Cafodd y Gorchymyn drafft ei osod gan Lywodraeth y Cynulliad ar 7 Fai 2008. Hwn yw’r cyntaf i fod yn gymwys i’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig. Gellir cael gwybodaeth bellach am Orchmynion Gweithdrefn Cynulliad
Arbennig ar dudalen Is-ddeddfwriaeth ein gwefan. Mae'r Llywydd wedi rhoi canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar y ffordd briodol o gynnal trafodion ynghlych Pwyllgorau Gweithdrefn Cynulliad Arbennig.