Pwyllgor Busnes (Mai 1999 - Ebrill 2003)
Ar 6 Mehefin 2000, yn yr ysbryd agored a chynhwysol sydd ohoni, cyhoeddodd Pwyllgor Busnes y Cynulliad Cenedlaethol y byddai'n cyhoeddi
cofnodion ei gyfarfodydd yn y dyfodol, chwe wythnos ar ôl pob cyfarfod. Mae'r Pwyllgor Busnes yn cyfarfod bob wythnos ar ddydd Mawrth pan fydd y Cynulliad yn cwrdd. Y Dirprwy Lywydd yw'r cadeirydd ac mae'r Trefnydd a Rheolwyr Busnes y tair plaid arall
hefyd yn bresennol. Mae'r Pwyllgor yn rhoi cyngor ynghylch y ffordd y caiff busnes y Cynulliad ei reoli ac arferion cyffredinol ynghylch gweithdrefnau'r Cynulliad. Mae Rheol Sefydlog 13 y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu manylion llawn ynghylch cylch gwaith
y Pwyllgor.Mae'r
termau canlynol yn cael eu defnyddio ar gyfer y broses arfaethedig o ran eitemau is-ddeddfwriaeth unigol:
- Y weithdrefn
estynedig (pwyllgor pwnc a dadl mewn cyfarfod llawn)
- Y weithdrefn safonol (penderfyniad mewn cyfarfod llawn gyda dadl)
- Y
weithdrefn gyflymach (penderfyniad mewn cyfarfod llawn heb ddadl)
- Y weithdrefn weithredol (gweithdrefnau penodol wedi'u datgymhwyso drwy gytundeb Cabinet y Cynulliad)