Y Pwyllgor Diwylliant (Tachwedd 2000 - Ebrill 2003)
TELERAU’R PENDEFYNIAD A FABWYSIADWYD GAN Y CYFARFOD LLAWN AR 4 GORFENNAF 2000
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol:
1 Yn nodi'r ymrwymiad yn nogfen 'Gwell Cymru' i feithrin manteision dwyiethrwydd.
2 Yn cydnabod cyfraniad sefydlu S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Gymru, ac yn croesawu'r camau cadarnhaol eraill a ddeilliodd o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
3 Yn croesawu'r cynnydd pellach a wnaethpwyd o ran yr iaith Gymraeg ym mlwyddyn gyntaf datganoli, sydd wedi cynnwys:
- gweithredu'n llawn ofynion y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer Cymraeg yng nghyfnod allweddol 4 mewn ysgolion di-Gymraeg;
- Llywodraeth y DU yn llofnodi'r Siarter Ewropeaidd dros Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol;
- cynyddu adnoddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yng nghylch cyllideb 1999-2000.
4 Yn cadarnhau'r penderfyniad a wnaethpwyd yn y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar 16 Chwefror;
5 Yn galw ar y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ô-16 oed i neilltuo amser yn ei flaenraglen waith cyn gynted ag y bo modd i gynnal adolygiad cynhwysfawr o bolisi'r iaith Gymraeg er mwyn llunio strateggaeth ar gyfer y dyfodol; ac
6 yn croesawu'r cyfle a gynigir gan yr adolygiad arfaethedig, a gynhelir bob pum mlynedd, i ystyried yn fanwl weithgareddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'i ddull o weithredu.
7 Yn ymrwymo i fabwysiadu polisïau a fydd yn cynnal cymunedau Cymru ac yn sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg o fewn y cymunedau hynny.
8 Yn cadarnhau ei gred bod yr iaith Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu'n ddi-Gymraeg, ac yn ymrwymo i gydweithredu â chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i greu cymaint â phosibl o gyfleoedd I bobl ymhob rhan o Gymru gymryd rhan yn niwylliant a bywyd cyhoeddus dwyieithog Cymru: ac
9 Yn gresynu nad yw'r Adran Addysg a Chyflogaeth yn fodlon cymryd y camau angerheidiol i ddiogelu dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain, ac yn galw ar yr Adran honno i ailystyried ei phenderfyniad I beidio ag ariannu'r ysgol bwysig a gwerthfawr hon.