Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd (Mehefin 1999 - Ebrill 2003)


Pwrpas y Pwyllgor Materion Ewropeaidd yw sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn mynd ati i ymdrin â materion Ewropeaidd mewn ffordd gydlynol a strategol. Nod y Pwyllgor yw sicrhau cysondeb wrth i bob un o'r pwyllgorau pwnc fynd i'r afael â chyfrifoldebau'r Cynulliad mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, nid ei rôl yw disodli pwyllgorau pwnc ond eu cefnogi a sicrhau nad ydynt yn gweithio yn annibynnol ar ei gilydd. Mae'r Pwyllgor yn ystyried goblygiadau Rhaglen Waith Flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd i Gymru a blaenoriaethau llywyddiaethau chwe mis yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rhydd ac yn gyson rhwng aelodau'r Cynulliad a chynrychiolwyr o Gymru yn y gwahanol sefydliadau Ewropeaidd, mae gwahoddiad i ASE Cymru, cynrychiolwyr o Gymru ar y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol (ECOSOC), cynrychiolwyr o Gymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, Cynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a Phennaeth Swyddfa'r Cynulliad ym Mrwsel i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor. Er mwyn helpu i gyflawni ei amcanion, mae'r Pwyllgor wedi cytuno y dylai'r Cynulliad fod yn aelod o Ganolfan Ewropeaidd Cymru ac mae wedi sefydlu Swyddfa'r Cynulliad ym Mrwsel. Mae hefyd wedi sefydlu Fforwm Ewropeaidd Cymru sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i godi materion Ewropeaidd o ddiddordeb i'r gymuned fusnes yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod ddwywaith y tymor (chwe gwaith y flwyddyn). Gellir cael gwybodaeth ar ddyddiadau'r cyfarfodydd drwy glicio ar y penawdau ar yr ochr chwith.

Partneriaid a Help