Pwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain (Gorffennaf 1999 - Ebrill 2003)

Croeso i Bwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain - oddi wrth Owen John Thomas, A.C. Cadeirydd Ym 1999 sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bedwar pwyllgor rhanbarth. Mae Pwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain yn ymdrin â Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Tor-faen a Bro Morgannwg. Rôl y pwyllgorau rhanbarth yw cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y canlynol:
- materion sy'n effeithio ar y rhanbarthau;
- effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny; a
- gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.
