Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA
3 Hydref 2003
Pwyllgor y Diwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon - Adolygiad Polisi: Cyfraniad y Celfyddydau a Chwaraeon at Adfywio Cymunedol Gwahoddiad i Gyfrannu Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn cynnal adolygiad polisi ar Cyfraniad y celfyddydau a chwaraeon at adfywio cymunedol. Bydd yr adolygiad yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Fe'ch gwahoddir i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Pwyllgor. Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad: Adolygu ac ystyried:- y cysylltiadau rhwng y polisïau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon ac adfywio cymunedol;
- sut y gall prosiectau lleol ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon gyfrannu at adfywio cymunedol;
- y dulliau cefnogi ar gyfer prosiectau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol;
- yr arferion gorau o ran prosiectau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol.
Cadeirydd y Pwyllgor Anfonwch eich sylwadau at: Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon,
Gwasanaethau'r Pwyllgorau ac Ymchwil yr Aelodau,
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd llawr,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1NA E-bost: culture.committee@wales.gsi.gov.uk Cyhoeddi Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n bwriadu cyhoeddi’r cyfraniadau a dderbynnir. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur gyda’r cyfraniad, gan fod hynny’n rhoi hygrededd i’r ymgynghoriad. Os nad ydych am gael eich enwi, a fyddech cystal â nodi hynny yn eich ymateb.
