Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Adolygiad Polisi: Dawns yng Nghymru

Cylch Gorchwyl

Cynnal arolwg o ddawns yng Nghymru er mwyn gweld:

  • faint o gyfleoedd sydd ar gael, a faint o bobl sy'n cymryd rhan yn y gwahanol sectorau (gan gynnwys addysg) ac mewn gwahanol agweddau ar ddawns;
  • faint o gymorth sydd ar gael i hybu dawns;
  • lefel yr arweiniad strategol
  • argymhellion ar gyfer y camau y dylai'r Llywodraeth a chyrff allweddol eraill eu cymryd yn y dyfodol.

Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori'n eang â chyrff ac unigolion perthnasol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr adolygiad hwn gyflwyno'i sylwadau i'r Pwyllgor. Yn ogystal ag ymgyhori'n ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn gwahodd cyrff ac unigolion i gyflwyno'u sylwadau'n bersonol er mwyn medru eu holi'n fanylach a chynnal trafodaeth ar y materion a godir.

Dogfennau Allweddol

Dyma'r dogfennau allweddol.

Dogfen

Cyfeirnod

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: Dawns yng Nghymru: Adolygiad - Prif Adroddiad (pdf, 1.6mb) Rhagfyr 2005
Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: Dawns yng Nghymru: Adolygiad -Atodiad A i E (pdf, 600kb) Rhagfyr 2005
Llythyr ymgynghori (pdf, 29kb) Tachwedd 2004
Rhestr o'r ymgynghoreion (Saesneg yn ynig) Hydref 2004
Cylch gorchwyl y Pwyllgor CWLS2 10-04 (p3)
Dance Reference Group (Saesneg yn Unig) Ffurfiedig Tachwedd 2004
Submissions for the Dance in Wales Policy Review (Saesneg yn Unig) Ebrill 2005