Y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

Mesur Drafft Trafnidiaeth (Cymru) - Craffu ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Cymreig

Rhagarweiniad

Mae'r Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth wedi craffu ar Fesur Drafft Trafnidiaeth (Cymru) ar y cyd â Phwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin. Aed ati i wneud hyn yn dilyn yr argymhelliad a wnaed yn adroddiad Pwyllgor Gweithdrefnau Ty'r Cyffredin: "Joint Activities with the National Assembly for Wales." Er mwyn gwneud hyn, aeth Ty'r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ati i ddiwygio'u Rheolau Sefydlog er mwyn i'r naill Bwyllgor a'r llall fedru mynd i gyfarfodydd ei gilydd. Cymerwyd tystiolaeth ar y cyd yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ac yn Nhy'r Cyffredin. Yn yr adroddiad hwn, cyflwynir canfyddiadau Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n seiliedig ar y dystiolaeth hon ac ar y trafodaethau y mae'r Pwyllgor wedi'u cynnal gyda'r Pwyllgor Materion Cymreig. Er bod llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn cytuno â'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ynghylch y Mesur drafft, adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ydyw, serch hynny.

Y Dogfennau Allweddol

Dyma'r dogfennau allweddol.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Pwyllgorau y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
  4. Pwyllgorau Blaenorol y Cynulliad
  5. Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
  6. Adolygiadau polisi
  7. Mesur Trafnidiaeth (Cymru) drafft - Craffu ar y cyd r Pwyllgor Materion Cymreig

Partneriaid a Help