Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Darparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl (Ionawr 2004 - Ionawr 2007)

Mae'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn cynnal adolygiad polisi o Ddarparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl yng Nghymru. Efallai yr hoffech ddarllen cylch gorchwyl a chwmpas llawn yr adolygiad. Fel rhan o'r adolygiad, byddwn yn ystyried y materion sy'n deillio o 'Rights into Action', y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar gyfer Pobl Ifanc Anabl. Trefnwyd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn Abertawe yn 2003, gan bobl ifanc anabl. Creodd y bobl ifanc anabl oedd yn rhan o'r Gynhadledd Ryngwladol slogan - 'nothing about us without us', ac felly, bydd grwp cyfeirio o bobl ifanc anabl o Gymru yn cynghori ac yn arwain y Pwyllgor yn ystod yr adolygiad. Mae cwmpas posibl yr adolygiad yn enfawr, felly er mwyn sicrhau y bydd modd i'r Pwyllgor gyflawni'r gwaith, bydd yn canolbwyntio ar y problemau mwyaf sylweddol neu sylfaenol, a'r rhai hynny lle gall Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wneud gwahaniaeth. Bydd 3 thema allweddol yn ategu'r adolygiad:
  • Hyrwyddo a chynnal annibyniaeth a hunan gynhaliaeth pobl ifanc.
  • Darparu gwasanaethau ymatebol, cydlynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Cymorth a gwasanaethau sy'n briodol i oedran.
O fewn y themâu trosfwaol hyn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yn benodol yr wyth maes canlynol:
  • addysg, hyfforddiant a gwaith
  • hamdden
  • tai
  • cludiant
  • cyfarpar
  • trosglwyddo i fod yn oedolyn
  • mynediad i wybodaeth
  • tlodi
Nod yr Adolygiad yw gwneud argymhellion ynghylch yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl yng Nghymru. Oherwydd bod nifer fawr o feysydd pwysig wedi eu nodi, rydym y disgwyl y bydd yr adolygiad yn para tua dwy flynedd, (tan Tachwedd 2006) cyn adroddi.

Dogfennau Pwysig

NAfW-Committees-First Assembly-EOC-Adolygiadau polisi

Date

Document

Reference

8 Ionawr 2007 Adroddiad terfynol: Darparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl - "Pam bod pobl ifanc anabl bob tro'n cael eu hystyried olaf?" (PDF 427.2KB)  
15 Chwefror 2006 Adroddiad interim drafft (PDF, 215kb) EOC(2) 02-06(p2)
18 Ionawr 2006 Adolygiad o weithgarwch y grwp cyfeirio a chamau nesaf EOC(2) 01-06(p5)
22 Medi 2005 Hunan gyflogaeth a phobl ifanc anabl EOC(2) 07-05(p4)
  Cydraddoldeb i Bobl Anabl - Rhoi'r Model Cymdeithasol Anabledd ar waith EOC(2) 07-05(p5)
  Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Anabledd EOC(2) 07-05(p6)
  Adroddiad o Ymweliad y 'Shaw Trust' EOC(2) 07-05(p7)
26 Mai 2005 Ymateb Grwp Mynediad Arfon (Saesneg yn unig) (PDF, 228kb) EOC(2) 05-05(p3)
17 Mawrth 2005 Ymateb NUT Cymru i'r ymgynghoriad (Saesneg yn unig) (PDF, 228kb) EOC(2) 03-05(p.5)
  Ymateb Careers Wales i'r ymgynghoriad (Saesneg yn unig) EOC(2) 03-05(p6)
  Skills - Ymateb i'r ymgynghoriad (Saesneg yn unig) EOC(2) 03-05(p7)
10 Chwefror 2005 Ymateb ELWa i'r ymgynghoriad (Saesneg yn unig) (PDF, 20kb) EOC(2) 02-05(p02)
  Ymateb Estyn i'r ymgynghoriad (Saesneg yn unig) EOC(2) 02-05(p03)
  Barnardo's Cymru - hwylusydd ar gyfer grwp cyfeirio o bobl ifanc anabl EOC(2) 02-05(p5)
13 Ionawr 2005 Llythyr o Scope (Saesneg yn unig) (PDF, 150kb) EOC(2) 01-05 (p6)
25 Tachwedd 2004 Ymateb i'r ymgynghoriad a chamau nesaf am yr adolygiad EOC(2) 09-04(p5)
  Addysg EOC(2) 09-04(p5)
  Ymarfer da EOC(2) 09-04(p5)
  Tai EOC(2) 09-04(p5)
  Trawsnewidiad EOC(2) 09-04(p5)
  Cludiant EOC(2) 09-04(p5)
  Cyfarpar EOC(2) 09-04(p5)
  Gwybodaeth EOC(2) 09-04(p5)
  Cyd Gweithio EOC(2) 09-04(p5)
  Hamdden EOC(2) 09-04(p5)
  Sylwadau Eraill EOC(2) 09-04(p5)
23 Medi 2004 Adolygiad Polisi - Papur Sefyllfa EOC(2) 07-04(p6)
  Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth (Saesneg yn unig) EOC(2) 07-04(p6 - atodiad A)
15 Gorffennaf 2004 Y Broses Ymgynghori Ysgrifenedig EOC(2) 06-04(p9)
  Hwyluso Grwp Cyfeirio o Bobl Ifanc Anabl EOC(2) 06-04(p10)
  Cofnodion y Cyfarfod EOC(2) 06-04(mins)
17 Mehefin 2004 Cylch Gorchwyl a Rhaglen Waith Amlinellol EOC(2) 05-04(p3)
  Cofnodion y Cyfarfod EOC(2) 05-04(mins)
1 Ebrill 2004 Papur Trafod ar gyfer Adolygiad Polisi ar y Gwasanaeth a Ddarperir ar gyfer Pobl Ifanc Anabl EOC(2)03-04(p8)
  Cofnodion y Cyfarfod EOC(2) 03-04(mins)
2 Hydref 2003 Cyngres Ryngwladol Rights Into Action EOC(2) 03-03(p1)
  Cofnodion y Cyfarfod EOC(2) 03-03(mins)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help