Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Roedd cylchwaith eang iawn gan y Pwyllgor, wedi'i seilio ar bortffolio y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, a oedd yn cynnwys:
  • yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy;
  • cynllunio gwlad a thref;
  • materion cefn gwlad a chadwraeth; ac
  • amaethyddiaeth a datblygu gwledig, yn cynnwys coedwigaeth a chynhyrchu bwyd.
Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.

Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio

Roedd aelodau’r pwyllgor yn eistedd ar Banel Penderfyniadau Cynllunio y Cynulliad.

Partneriaid a Help