Y Pwyllgor ar Fesur Llywodraeth Cymru
Diben Mesur Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2005, oedd rhoi’r cynigion a amlinellwyd yn y Papur Gwyn, Trefn Lywodraethu Well i Gymru, a gyhoeddwyd fis Mehefin 2005, ar waith. Ymysg materion eraill, roedd y Mesur yn darparu ar gyfer newid strwythur, pwerau deddfu a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bwyllgor arbennig, o dan Reol Sefydlog 8.1, i ystyried darpariaethau’r Mesur. Bu’r Pwyllgor yn adrodd ar ei argymhellion pan yn briodol, a pheidiodd y Pwyllgor â bod ar y dyddiad y cafodd y Mesur Gydsyniad Brenhinol. Cylch gwaith y pwyllgor oedd:- Ystyried y cynigion a nodwyd yn y Mesur;
- Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n codi o’r Mesur a bennir gan y Pwyllgor.
