Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth (Gorffennaff 2003 - Mawrth 2005)
Roedd Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth yn cynnwys Ceredigion a Phowys a'r rhan o Wynedd sy'n cynnwys ardal Meirionydd. Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar:- faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth;
- effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth;
- gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.
