Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin

Roedd Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin yn cwmpasu Brycheiniog a Sir Faesyfed; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro; Ceredigion; Llanelli; Meirionnydd Nant Conwy; Sir Drefaldwyn; a Phreseli Sir Benfro.

Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar:

  • faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth;
  • effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth;
  • gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Mae Rheol Sefydlog 10 y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu manylion llawn o gylch gwaith y pwyllgor.