Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd (Gorffennaff 2003 - Mawrth 2005)
Yr ail adroddiad: Tai Fforddiadwy a Chymunedau Cynaliadwy yng Ngogledd Cymru NWR(2)-03 (r 2)
Cyflwyniad1.1 Un o bedwar pwyllgor rhanbarth y Cynulliad yw Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd. Mae’n cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn, Wrecsam a’r rhan o Wynedd sy’n cynnwys hen ddosbarthau Arfon a Dwyfor.1.2 Rôl y pwyllgorau rhanbarth, fel y’i diffinnir gan Reol Sefydlog 10.2, yw cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch materion sy’n effeithio ar y rhanbarthau, effaith polisïau’r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny a gwaith y cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau. 1.3 Yn ystod ei gyfarfod, a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2003, ystyriodd y Pwyllgor yr agweddau hynny ar gynllunio sy’n gysylltiedig â darparu tai fforddiadwy a materion yn ymwneud â chymunedau cynaliadwy sy’n efeithio ar y rhanbarth. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r pwyntiau a godwyd. Tai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy yng Ngogledd Cymru1.4 Mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i agweddau ar gynllunio sy’n gysylltiedig â darparu tai fforddiadwy a materion yn ymwneud â chymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad. Dyma gylch gwaith yr ymchwiliad: ystyried i ba raddau y mae’r polisïau cynllunio cyfredol yn effeithiol wrth gynnal y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymunedau cynaliadwy yng nghefn gwlad a gwneud argymhellion i ddatblygu polisi yn y maes hwn. Estynnwyd gwahoddiad i bwyllgorau rhanbarth gasglu sylwadau pobl yn eu hardaloedd, er mwyn asesu a oes angen gwahanol atebion mewn gwahanol rannau o Gymru.Negeseuon allweddol1.5 Dyma’r prif negeseuon a glywyd yn ystod y cyfarfod:- Cymunedau cynaliadwy - yr angen i sicrhau cymunedau cytbwys a pharhad yr iaith yn y cymunedau Cymraeg, drwy integreiddio tai fforddiadwy (preifat a chymdeithasol) a thai a werthir yn ôl gwerth y farchnad. Pwysleisiwyd mai dim ond un ffordd o fynd i’r afael â’r materion hyn oedd yr agwedd gynllunio, mewn partneriaeth â thai a datblygu economaidd;
- Perchnogaeth - potensial y system gynllunio i gynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu marchnad tai fforddiadwy i alluogi’r rheini na fedrant dalu’r prisiau tai presennol i brynu eiddo, a’r posibilrwydd o ddefnyddio’r amodau cynllunio presennol i sicrhau tai fforddiadwy i bobl leol;
- Rhentu - pryder ynghylch y dirywiad yn stoc y tai cymdeithasol a chymorth i ddarparu adnoddau i ddatblygu marchnad tai rhent fforddiadwy.
- Cymuned - yn amlinellu sut y gallai’r system gynllunio hybu cynaliadwyedd cymunedau cymysg, lle mae rhan hanfodol i’r iaith Gymraeg (gweler Atodiad 1);
- Ffederasiwn Cymdeithasau Tai (Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri) - yn amlinellu ffyrdd o fynd i’r afael â’r angen am dai rhent fforddiadwy o ganlyniad i ddirywiad yn stoc dai awdurdodau lleol (gweler Atodiad 2);
- Sefydliad Tai Siartredig Cymru - yn amlinellu ffyrdd o nodi anghenion tai ac o fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael a hybu’r sector hwnnw (gweler Atodiad 3).
- Gofynnodd Wyn Roberts, Ysgrifennydd Cyfeillion Llyn, am ddiffiniad o "fforddiadwy" a "chefn gwlad";
- Dywedodd Cynghorydd Cyngor Tref Llandudno fod angen rhagor o arian ar gyfer Cymdeithasau Tai, e.e. i ddatblygu cynlluniau rhannu perchnogaeth, ac awgrymodd y dylai awdurdodau lleol neilltuo tir ar gyfer tai fforddiadwy;
- Dywedodd Eifryn Davies, Cyngor Ynys Môn, fod y term "tai fforddiadwy" yn anodd i’w ddiffinio gan ei fod yn amrywio o ardal i ardal, a bod angen i awdurdodau lleol sicrhau bod datblygwyr yn cynnwys tai fforddiadwy mewn datblygiadau newydd;
- Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Efans, Cyngor Cymuned Bethesda, fod angen dod â gwaith a chyflogau teg i’r ardal. Teimlai hefyd na ddylid dyrannu arian ar gyfer tai cymdeithasol Hawl i Brynu, ond yn hytrach, dylid ei dargedu at gymunedau lleol;
- Soniodd Gareth Winston, Cyngor Ynys Môn, am yr angen i greu gwaith, ac awgrymodd fod awdurdodau lleol yn rhyddhau eu tir eu hunain ar gyfer tai fforddiadwy;
- Teimlai Merfyn Jones y dylai tai fforddiadwy fod ar gael i bawb yn y gymuned, ac ni ddylid eu cyfyngu ar sail iaith;
- Mynegodd Nicky Griffiths, myfyrwraig yng Ngholeg Meirion Dwyfor, bryder am ddirywiad yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl ddi-Gymraeg wedi symud o ardaloedd eraill;
- Awgrymodd Sian Davies, Cyngor Cymuned Cwm Cydnant, y dylid osgoi datblygiadu ar ffiniau aneddiadau, ac ailddatblygu adeiladau gwag neu adfeiliedig yn y trefi a’r pentrefi, e.e. drwy orchmynion prynu gorfodol;
- Dywedodd Gareth Hobson, pensaer, nad oedd cydraddoldeb cymdeithasol pan all rhai fforddio ail gartrefi er na all eraill fforddio eu cartref cyntaf, ac roedd yn cefnogi gosod cyfyngiadau ar ail gartrefi;
- Dywedodd Geraint Roberts, Cyngor Dinas Bangor, fod cyflogau yn is yng Ngogledd Cymru nag yn Lloegr, a chan hynny, roedd pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith a oedd yn talu’n well. Awgrymodd y dylid adolygu fformiwla Barnett i unioni anghysonderau economaidd;
- Pwysleisiodd John Nicholson yr angen i adfywio economïau lleol, a theimlai mai dewis personol oedd yr iaith a siaradai mewnfudwyr i gymunedau Cymraeg;
- Nododd Alun Griffith, Cyngor y Deillion, Caerdydd, fod llawer o’r rhai a oedd yn symud i ardaloedd newydd yn bensiynwyr ac nad oeddynt yn cyfrannu at dwf economaidd cymunedau lleol;
- Dywedodd John Charlton, Cyngor Ynys Môn, ei bod yn anodd dylanwadu ar brisiau tai, a’u bod yn dibynnu nid yn unig ar bris tir, ond hefyd ar gost datblygu;
- Awgrymodd Seimon Glyn, Cymuned, y gellid defnyddio Cytundebau Adran 106 ar rai mathau o dai newydd, i ddatblygu marchnad wahanol ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol;
- Soniodd y Cynghorydd Eve Butler, Cyngor Dinas Bangor, ei bod yn anodd diffinio "cymuned" a dywedodd fod ail gartrefi a landlordiaid absennol yn creu problemau;
- Cyfeiriodd y Cynghorydd William Arthur Evans, Cyngor Gwynedd, at y trafferthion sy’n wynebu’r rheini sy’n chwilio am forgeisi ar gyfer eiddo a oedd yn rhwym wrth Gytundebau Adran 106. Awgrymodd fod y Cynulliad yn sefydlu fforwm i ymdrin â’r amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd cymunedau lleol;
- Dywedodd Huw Edwards, Cyngor Sir Caernarfon, ei fod yn gobeithio y byddai’r Cynulliad yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad;
- Awgrymodd Ivan Plumming, Coleg Meirion Dwyfor, y dylai’r ymchwiliad edrych ar y polisïau a fabwysiadwyd yn Ardal y Llynnoedd, lle roedd problemau tebyg;
- Pwysleisiodd y Cynghorydd Bob Barton, Cyngor Cymuned Llanarmon-yn-Ial, fod angen datblygu sector tai rhent fforddiadwy, yn ogystal â thai fforddiadwy i’w prynu. Dywedodd y dylid rhoi mwy o gymorth i fewnfudwyr ddysgu Cymraeg;
- Dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, Arweinydd Cyngor Gwynedd, fod mwy o botensial i awdurdodau lleol ddefnyddio’u tir eu hunain ar gyfer tai fforddiadwy, e.e. drwy ymddiriedolaethau elusennol. Gobeithiai y byddai’r Cynulliad yn ymateb yn gadarnhaol i adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad;
- Awgrymodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Cyngor Ynys Môn, y dylai awdurdodau lleol drosglwyddo’u stoc dai i gwmnïau a gyfyngwyd gan warant i aros yn y farchnad tai cymdeithasol a fforddiadwy;
- Dywedodd Dyfed Robert o Ddyffryn Nantlle fod angen cynnwys yr iaith Gymraeg fel ffactor yn y system gynllunio. Roedd yn cefnogi cyfyngu ar y cynllun Hawl i Brynu mewn ardaloedd lle roedd prinder tai fforddiadwy, ac roedd yn amau’r camau ymarferol yr oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â materion tai;
- Dywedodd Eric Wyn Roberts o Bwllheli fod y cynllun Hawl i Brynu yn cael effaith andwyol ar y sector rhentu. Dylai tai rhent fforddiadwy fod ar gael, yn ogystal â thai fforddiadwy i’w prynu;
- Nododd Janet Williams o Borthmadog fod prinder tai i blant yng ngofal awdurdod lleol;
- Mynegodd Meirion Llewellyn o Gaernarfon bryder am gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, gan i’r cyfrifiad diweddar gofnodi dim ond wyth cymuned yn yr ardal lle’r oedd dros saith deg y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg;
- Roedd y Cynghorydd Meurig Davies, Meirionydd, yn cefnogi’r cyfyngiadau ar ailwerthu tai cyngor a brynwyd yn unol â’r cynllun Hawl i Brynu;
- Dywedodd Peter Ogden, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, fod bwlch cynyddol rhwng incwm bobl leol a phrisiau tai, a bod prisiau tai ar waelod y farchnad yn gynyddol anfforddiadwy. Roedd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bolisi o gyfyngu’r tir a ryddheir ar gyfer codi tai newydd i bobl leol sy’n gallu dangos bod angen tai arnynt;
- Awgrymwyd y dylid anfon neges yn ôl i’r Cynulliad yn gofyn am ddod â’r cynllun gwerthu tai cyngor i ben;
- Sylwodd nifer o bobl ar absenoldeb Aelodau’r Grp Llafur yn y cyfarfod, a phwysleisiwyd bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd.
- Gofynnodd Pam Corry, Mencap Cymru, pa gynlluniau a oedd ar y gweill ar gyfer pobl ag anableddau dysgu nad oeddynt yn gallu fforddio prynu eiddo. Roedd yn pryderu bod llawer o swyddi yn yr ardal yn cael eu hysbysebu yn Gymraeg yn unig yn hytrach na’n ddwyieithog;
- Roedd y Cynghorydd Rhiannon Efans yn pryderu am brinder cartrefi fforddiadwy i bobl ifanc, y polisi o werthu tai cyngor, a’r diffyg arian ar gyfer y cynllun cymorth i brynu. Sylwodd hefyd ar absenoldeb Aelodau’r Grp Llafur yn y cyfarfod.
- Dywedodd Merfyn Jones y dylid darparu cyfleusterau ar gyfer pobl awtistig yn y Gogledd a’r De, ac y dylai tenantiaid tai cymdeithasol a phensiynwyr gael cymorth i dalu eu biliau rhent.
- Pwysleisiodd John Nicholson nad oedd prinder tai fforddiadwy’n unigryw i Ogledd Cymru, ac roedd angen mynd i’r afael â’r broblem drwy wella’r economi leol, nid drwy’r system gynllunio’n unig. Roedd yn pryderu am bolisïau dwyieithog gwasanaethau cyhoeddus Gwynedd ac agwedd y rheini nad oeddynt yn siarad Cymraeg, ac ymatebodd i rai o’r pwyntiau a wnaed gan Cymuned yn y cyfarfod;
- Dywedodd S. Ratcliffe, Achub y Plant, yng nghyswllt cymunedau cynaliadwy, nad oedd llawer o bobl a anwyd, a fagwyd ac a oedd yn gweithio yng Ngogledd Cymru yn siarad Cymraeg. Teimlai fod gan bobl yr hawl i ddewis ym mha iaith yr oeddynt yn cyfathrebu ac ni ddylid eu gorfodi i siarad Cymraeg, ac y dylai’r Cynulliad hybu dealltwriaeth a chydraddoldeb, yn hytrach na pharhau i greu rhaniad rhwng cymunedau Cymraeg a chymunedau Seisnig.
- Roedd Chris Ruane AS yn pryderu am nifer y tai amlfeddiannaeth yng nghymunedau glan môr Gogledd Cymru. Nid oedd gan y rhan fwyaf ohonynt unrhyw ran yn y diwydiant twristiaid erbyn hyn ac roeddynt yn eiddo i landlordiaid absennol nad oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn y dref na’r gymuned; eu hunig ddiddordeb oedd gwneud arian.
Cadeirydd y PwyllgorMae copi o’r adroddiad hwn ar gael ar wefan y Cynulliad www.wales.gov.uk Os hoffech gopi caled, ebostiwch NWales.regcomm@wales.gsi.gov.uk neu cysylltwch â Silvia Ricondo ar 029 2089 8018.AtodiadauCyflwyniadauCymuned (Atodiad 1)Ffederasiwn Cymdeithas Tai Cymru (Cymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd) (Atodiad 2)Sefydliad Tai Rhestredig Cymru (Atodiad 3) Sylwadau ysgrifenedig (copïau caled yn unig) Pam Corry, Mencap Cymru (Atodiad 4)Y Cynghorydd Rhiannon Efans (Atodiad 5)Merfyn Jones (Atodiad 6)John Nicholson (Atodiad 7)S Ratcliffe, Achub y Plant (Atodiad 8)Chris Ruane AS (Atodiad 9)
Atodiad 1a
Cyflwyniad Llafar CymunedFe gofiwch chi fod ein cyflwyniad ysgrifenedig wedi datgan ein barn ni fod cynnal yr amgylchedd ieithyddol yn rhan annatod o ddatblygu cynaliadwy — a’n barn nad ydi parhad marchnad rydd ddilyffethair yn y maes tai yng Nghymru yn gydnaws â pharhad yr iaith Gymraeg, nac â sefydlogrwydd cymdeithas yn gyffredinol.Fe gofiwch chi hefyd i ni awgrymu y dylid ystwytho darpariaethau’r ddogfen Polisi Cynllunio Cymru mewn nifer o ffyrdd, er mwyn hwyluso creu marchnad dai gymunedol, a fyddai ar wahân i’r farchnad rydd. Ac fe gofiwch i mi awgrymu bod yna dueddiadau yn y maes cynllunio yng Nghymru, ar hyn o bryd, tuag at gefnu ar yr egwyddor, sy’n cael ei datgan yn Polisi Cynllunio Cymru, y dylai datblygiadau tai fod yn ddatblygiadau deiliadaeth gymysg. Y canlyniad ydi fod yna berygl y bydd pobl ar lefelau incwm is yn cael eu getoeiddio oddi mewn i’w cymunedau.Mi ddylai’r perygl o dyndra cymdeithasol, mewn sefyllfa o’r fath, fod yn amlwg. Dydi cymuned fechan lle mae ’na wahaniad llwyr o ran lleoliad rhwng pobol gefnog a phobol sydd ar incwm is, gyda chyfleoedd llai mewn bywyd, ddim yn debygol o fod yn gymuned iach.Hefyd, rhaid cofio bod y sefyllfa bresennol — fel y mae ymchwil cymdeithasegol wedi dangos — yn un lle mae ’na duedd eisoes, yn y cymunedau Cymraeg, i siaradwyr Cymraeg lenwi swyddi is eu cyflog a’u statws, ac i’r swyddi gwell, yn enwedig yn y sector preifat, gael eu llenwi gan bobl ddi-Gymraeg o’r tu allan i’r gymuned.Y canlyniad ydi bod cyfran gymharol uchel o dai fforddiadwy mewn cymunedau Cymraeg yn debygol o fod yn gartrefi i Gymry Cymraeg. O alltudio tai fforddiadwy i ystadau ar wahân, y canlyniad fyddai dwysáu’r duedd i Gymreictod gael ei gysylltu — ym meddyliau pobl ddi-Gymraeg a phobl Gymraeg fel ei gilydd — efo tlodi a chyfleoedd cyfyngedig. Mi fuasai mudiad Cymuned yn gwaredu’n chwyrn at unrhyw dueddiadau o’r fath.Rheswm arall pam y mae hi’n hanfodol glynu wrth yr egwyddor o sicrhau bod pob datblygiad tai newydd yn ddatblygiad deiliadaeth gymysg ydi mai dyna’r ffordd orau o sicrhau bod mewnfudwyr yn dod i gysylltiad dyddiol efo’r iaith Gymraeg ac efo pobol Gymraeg. Fel arall, mi fydd pob datblygiad o dai moethus yn geto di-Gymraeg, lle mae mwyafrif y trigolion mewn ymneilltuad parhaus a hunan-fodlon rhag diwylliant cynhenid y gymuned y maen nhw wedi dod i fyw ynddi hi. Ni all unrhyw gymuned Gymraeg barhau’n gynaliadwy, mewn termau ieithyddol, dan amgylchiadau o’r fath. Ac os am wireddu dymuniad Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y mae hwnnw wedi ei ddatgan yn y ddogfen Iaith Pawb, o weld cynnydd cyson yn nifer a chanran y bobl sy’n siarad Cymraeg, a sicrhau cydbwysedd yng nghyfansoddiad cymdeithasol ac ieithyddol cymunedau, mae hi’n hanfodol fod Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio holl rym deddfwriaeth a pholisïau cynllunio i sicrhau bod cymunedau gwledig yng Nghymru — yn enwedig cymunedau mwyafrifol Gymraeg — yn datblygu’n gymunedau unedig ac iach.Atodiad 1b
Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd NWR(2)-02-03(p1)
| Dyddiad: | Dydd Gwener 3 Hydref 2003 |
| Amser: | 10.00am tan 12.30pm |
| Lleoliad: | Neuadd Dwyfor, Pwllheli |
Atodiad 2
Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd NWR(2)-02-03 (p3)| Dyddiad: | Dydd Gwener 3 Hydref 2003 |
| Amser: | 10.00am tan 12.30pm |
| Lleoliad: | Neuadd Dwyfor, Pwllheli |
- Lefelau isel o gymhorthdal cyhoeddus (nid yw lefelau Grant Tai Cymdeithasol yng Nghymru ond yn gorchuddio 58% o gostau datblygu, o gymharu gyda 68% yn Lloegr a 70% yn yr Alban, sydd yn galw am lefelau uwch o gyllid preifat yng Nghymru na mannau eraill), lefelau Canllawiau Cost Derbyniol afrealistig (sy’n rheoli faint y gall cymdeithasau tai ei wario ar bob cynllun newydd a ddatblygant) a phrisiau tir uchel. Ni fu newid yn y gyllideb Grant Tai Cymdeithasol ers creu’r Cynulliad ac felly mae adnoddau ar gyfer cartrefi newydd cymdeithasau wedi gostwng mewn termau gwirioneddol ers 1999. Dim ond 1,465 o gartrefi newydd a gwblhawyd gan gymdeithasau yn 2002. Mae hyn yn cymharu gyda 2,629 yn 1992.
- Fawr ddim ymgyfraniad wrth ddatblygu strategaethau cynllunio.
- Defnydd aneffeithiol o fudd cynllunio a dyfeisiau eraill i sicrhau tai fforddiadwy h.y. safleoedd eithriad.
- Prinder tir datblygu addas ar gyfer tai fforddiadwy oherwydd cyfyngiadau amgylcheddol, prisiau marchnad uchel, prisiau tir sbeciannol, biwrocratiaeth caniatâd cynllunio a gohiriadau cysylltiedig.
- Hawl i Brynu/Hawl i Gaffael a gafodd effaith ddifrifol ar argaeledd tai ar rent fforddiadwy yng Nghymru. Ni chaiff dychweliadau ar eiddo a werthir ar gymhorthdal eu cyfateb gan grant ac incwm buddsoddi arall, gan olygu na fedrir sicrhau stoc tai fforddiadwy newydd i gymryd i le. Rhwng 1980 a 2001 gwerthwyd bron 117,000 o gartrefi yng Nghymru dan Hawl i Brynu. Yn y degawd diwethaf, rhwng 1990 a 2001, gwerthwyd 38,811 cartref tra mai dim ond 26,156 o gartrefi a adeiladwyd gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol - colled net o dros 12,000 o gartrefi, llawer mewn ardaloedd gwledig a dinasoedd lle bu’r cynnydd mwyaf mewn prisiau tir ac eiddo mewn blynyddoedd diweddar.
- Adolygiad o’r Grant Tai Cenedlaethol o ran lefel, cylchoedd rhaglen a gweithdrefnau rheolaeth i ddatblygu strategaeth buddsoddiad tai fforddiadwy a realistig, gan adlewyrchu amrywiadau mewn costau tir a llafur ledled Cymru, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd eraill y mae argaeledd tir a chyfyngiadau cynllunio yn effeithio arnynt. Ystyriaeth mesurau i lesteirio bancio tir sbeciannol, yn cynnwys isafswm cyfnodau ar gyfer ailwerthu tir.
- Cynnydd yn y cyllid ar gyfer y cynllun Cymorth Prynu. Fodd bynnag, er y byddem yn cefnogi mwy o gyllid ar gyfer cynlluniau Cymorth Prynu drwy ddyraniadau cyllideb y Grant Tai Cymdeithasol, ni ddylai hyn fod ar draul buddsoddiad mewn cartrefi ar rent. Mae llawer o bobl yn methu cyrchu cynlluniau perchnogaeth cost isel ac mae angen parhaol i fuddsoddi mewn darparu cartrefi newydd ar rent. Mae’r Cynulliad wrthi’n ystyried adolygiad dechreuol o’r cynllun Cymorth Prynu - byddwn wrth gwrs yn ceisio cyfranogiad llawn gan ein haelodau i sicrhau fod adolygiad llawn o’r fath wedi ei seilio ar wybodaeth lawn.
- Mwy o anogaeth gan y Cynulliad i ddarbwyllo awdurdodau lleol i ddefnyddio’r pwerau a ddatganolwyd iddynt i gynllunio ar gyfer tai fforddiadwy, yn cynnwys defnydd budd cynllunio ac amodau tai, cytundeban Adran 106 a safleoedd eithriad.
- Cwotâu tai fforddiadwy ar gyfer pob datblygiad tai newydd, yn cynnwys tai ar rent a rhan-berchnogaeth (e.e. Cynllun Cymorth Prynu) os na all y datblygwyr ddangos nad oes angen tai o’r fath
- Gofynion y Cynulliad ar awdurdodau lleol i arddangos ymgyfraniad effeithlon a gweithredol Cymdeithasau Tai a sefydliadau tenant mewn strategaethau gofodol, datblygu economaidd, adfywio cymunedol a thai lleol.
- Gostyngiad sylweddol yn y disgownt sydd ar gael dan yr Hawl i Brynu/Hawl i Gaffael ac yn y tymor hir werthusiad o’i effaith ar gyflenwad o dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol
- Lobïo gan y Cynulliad i gael eithriad o Dreth Enillion Cyfalaf ar gyfer perchnogion tir sy’n darparu tir ar gyfer tai fforddiadwy
- Cyfyngiadau ar ddynodiad ardaloedd datblygu tai moethus ac annog cymunedau cymysg ym mhob ardal i gynnwys tai fforddiadwy, datblygiadau llai a cartrefi cyntaf.
- Dileu TAW ar adnewyddu tai gan gymdeithasau. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol wedi eu heithrio rhag TAW ar adfywio. Fodd bynnag, mewn penderfyniad dadleuol, penderfynodd Cyllid y Wlad nad yw cyrff trosglwyddo stoc anelusennol wedi eu heithrio rhag taliadau TAW ar atgyweiriadau. Bydd y penderfyniad hwn yn golygu cynnydd sylweddol yn y gost o wella cartrefi rhent ledled Cymru. Byddem yn annog y Cynulliad i alw’r Gweinidog perthnasol i gyfrif a cheisio dileu TAW ar adnewyddu pob tai cymdeithasol.
- Asesiadau
anghenion tai mwy helaeth yn cynnwys y gymuned gyfan. Mae’r Ffederasiwn wedi sicrhau cyllid i gefnogi’r Galluogydd Tai Gwledig cyntaf yng Nghymru eleni. Ynghyd â chymdeithasau, awdurdodau lleol, y Cynulliad a nifer o bartneriaid
eraill mae’r cynllun peilot yn Ne Powys a Gogledd Sir Fynwy yn anelu i:
- cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
- dynodi a chodi ymwybyddiaeth o anghenion tai gwledig drwy gefnogi a darparu cyngor i gymunedau gwledig, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill
- gydag arolygon anghenion tai ac ymarferiadau mapio i ddynodi ffeithiau tai allweddol
- dynodi safleoedd addas ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy
- darparu cyngor i awdurdodau tai a chynllunio ac asiantaethau eraill i helpu i ddatblygu strategaethau a pholisïau mwy cydlynus
- adeiladu gwell proffiliau o gymunedau gwledig drwy gasglu data a chymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil
- sicrhau y caiff safleoedd eithriadau gwledig eu defnyddio’n llwyddiannus.
- hyrwyddo cymdeithasau tai mewn modd cadarnhaol fel darparwyr ethegol anstatudol, dim-er-elw o dai fforddiadwy, cefnogaeth a gwasanaethau adfywio cymunedol
- ceisio datblygu fframwaith wleidyddol, rheoleiddiol ac ariannol sy’n cefnogi gweithgareddau cymdeithasau tai
- datblygu, cefnogi a lledaenu arfer da
- annog a galluogi aelodau i ddarparu cartrefi hygyrch mewn cymunedau cynaliadwy ledled Cymru
- gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff allweddol yng Nghymru
- egwyddorion perchnogaeth aelodau o agenda’r Ffederasiwn
- partneriaeth gyda thenantiaid a’u sefydliadau
- egwyddorion amlrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb ein gwaith
- ein cyfrifoldebau fel sefydliad Cymru-gyfan
Atodiad 3
Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd NWR(2)-02-03 (p2)| Dyddiad: | Dydd Gwener 3 Hydref 2003 |
| Amser: | 10.00am tan 12.30pm |
| Lleoliad: | Neuadd Dwyfor, Pwllheli |
- Mewnfudiad, yn enwedig cymudwyr a phobl sy’n symud i ardaloedd gwledig ar ôl ymddeol;
- allfudo, yn enwedig pobl ifanc; a
- newidiadau yn y boblogaeth sy’n rhoi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg dan fygythiad mewn rhai aneddiadau.
- lefelau uchel o ran gwerthiannau Hawl i Brynu (RTB);
- dim llawer o datblygiad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL);
- cyflenwad tai gwael, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol ar rent;
- prisiau tai yn codi’n gyflym;
- y gwarth sy’n gysylltiedig â thai cymdeithasol; a
- gwrthwynebiad mewn rhai aneddiadau i ddatblygiad pellach tai cymdeithasol.
- diffyg safleoedd addas ar gyfer eu datblygu; a
- phrisiau uchel ar dir.
- mae rhai aneddiadau’n dirywio ac, yn groes i’r pwysau cyffredinol sydd ar y diwydiant tai, gall tai cymdeithasol fod yn anodd i’w gosod;
- anghydbwysedd rhwng economïau lleol a chanddynt incwm isel a gwerth tai sy’n gymharol uchel; a
- chostau datblygu uchel yn sgîl gallu cynhyrchu isel y diwydiant adeiladu.
- mae cyflogau economi cefn gwlad yn aml yn annigonol i dalu am forgais;
- mae cyflogaeth yng nghefn gwlad yn aml yn dymhorol neu dros dro;
- ni all aelwydydd incwm-isel ac aelwydydd sy’n dibynnu ar fudd-daliadau gael na thalu am forgais; ac
- nid all y sector rhentu preifat lanw bylchau yn y ddarpariaeth. Mae safonau anaddasrwydd yn uwch yng nghefn gwlad Cymru ym mhob categori deiliadaeth gyda 23.2% o’r sector rhentu preifat wedi’u cael yn anaddas gan Arolwg o Gyflwr Tai 1998.
- Yn ôl cyfrifon Cyngor Sir Bro Morgannwg, os bydd nifer y tai a gollir
- Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi colli 120 o dai y flwyddyn ar gyfartaledd er 1996 oherwydd gwerthiannau RTB gyda chynnydd sylweddol yn hyn o beth yn ddiweddar (mae gwerthiannau chwarterol ar gyfartaledd wedi cynyddu o 33 ym mis Rhagfyr 2000 i 60 ym mis Rhagfyr 2002). Mae RTB wedi gweddnewid cydbwysedd cymunedau ac wedi tynnu rhai ystadau o’r sector tai cymdeithasol yn gyfan gwbl. Gyda phrisiau tai’n amrywio o £70 mil i dros £100 mil, maent nid yn unig wedi cael eu tynnu o’r sector ond maent yn mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i bobl leol.
- Gwerthodd Cyngor Sir Powys 179 eiddo drwy RTB yn 2002. Roedd cyfanswm y gwerthiannau rhwng mis Ebrill a mis Awst 2003 yn 126 gan arwain at werthiant blynyddol amcanol o dros 300 am y flwyddyn bresennol.
- Yng Ngwynedd, dyrannwyd £2.5 miliwn SHG eleni ond nid yw’r awdurdod ond wedi gallu gwario £1.3 miliwn ac fe neilltuwyd y rhan fwyaf o hwn ar gyfer y cynllun Homebuy. Serch hynny, mae anawsterau megis dod o hyd i dai o fewn y terfynau costau ac achosion pan fo darpar brynwyr yn cael eu dal mewn cadwynau prynu tai yn cyfyngu ar yr hyn y gall y cynllun ei gyflawni. Er 2000 mae cyfartaledd y prisiau am dai a brynir drwy’r cynllun Homebuy wedi codi o £45,496 i £57,163 yn 2002-2003. Mae’r cyfartaledd o safbwynt lefel y cymorth hefyd wedi codi o £20,923 yn 2002-2003 i ffigwr amcanol o £24,533 yn 2003-2004. Ym marn Cymdeithas Tai Eryri, sy’n gweinyddu’r cynllun Homebuy yng Ngwynedd, os bydd prisiau tai yn parhau i godi fel ag y maent ar hyn o bryd mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd, hyd yn oed gyda chymorth o 50% gyda phrisiau prynu mae lefelau cyflogau yn annigonol o fewn yr ardal i allu talu am y morgais sy’n angenrheidiol.
- Ym Mhowys, cafodd rhan helaeth o’r gyllideb SHG yn 2002 ei defnyddio ar gyfer darparu tai â chymorth. Mae’n amlwg, tra bod cyflenwad tai cymdeithasol ar rent yn cael ei leihau drwy RTB ac o ystyried ffactorau eraill megis y pris uchel sydd ar dir, bod SHG yn methu â gwneud iawn.
- Mae Ynys Môn wedi colli 686 uned o’i stoc tai cymdeithasol ar rent drwy RTB er mis Ebrill 1997. O’i gyferbynnu, er 1996, nid yw SHG wedi darparu ond 133 o gartrefi i’w rhentu a 80 drwy Homebuy.
- Fe ddylai holl ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Cynulliad fod yn destun Archwiliad o Safbwynt Cefn Gwlad i weld a oes materion penodol yn ymwneud ag ardaloedd yng nghefn gwlad y mae angen eu hamlygu.
- Fe ddylai Cymru ystyried creu swydd Galluogwr Tai yng Nghefn Gwlad ym mhob awdurdod lleol yng nghefn gwlad yn seiliedig ar gynlluniau tebyg yn Lloegr a chan weithredu yn unol â’r gwersi a ddysgwyd o’r arbrawf ym Mhowys.
- Fe ddylai’r Cynulliad ystyried sefydlu corff tebyg i’r Asiantaeth Cefn Gwlad (Countryside Agency) yn Lloegr sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau bod tai fforddiadwy yn chwarae rôl lawn i gynnal cymunedau yng nghefn gwlad.
- adnabod anghenion tai
- canfod safleoedd
- dewis a darparu cymorth ar gyfer dulliau eraill
- trefnu i ddatblygu safleoedd
- Cysylltu cyflenwad tai fforddiadwy â hyfforddiant a chreu swyddi yn y diwydiant adeiladu ac mewn meysydd cysylltiedig. Awgrymwn fod y Cynulliad yn hyrwyddo ac yn cefnogi cynlluniau o’r fath.
- Fe ddylai’r Cynulliad ystyried cefnogi cynlluniau sy’n defnyddio pwerau cynllunio
- Fe ddylai’r Cynulliad annog awdurdodau lleol i sicrhau bod tir y maent yn berchen arno ar gael am lai na phris llawn y farchnad, efallai drwy roi iawndal.
- Gallai cynlluniau hunan-adeiladu drwy Homebuy ddarparu cymorth i rai aelwydydd, ond mae angen gwneud y canllawiau presennol yn fwy hyblyg.
- Fe ddylai’r Cynulliad, drwy ei Strategaeth Tai Gwag, sydd ar fin cael ei chyhoeddi, annog pobl i ailddefnyddio adeiladau gwag a segur er mwyn cynyddu’r cyflenwad tai fforddiadwy yng nghefn gwlad.
