Pwyllgor Rhanbarth Y Gogledd
Adroddiad I Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2006-2007
Cyflwyniad 1.
Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yw un o bum Pwyllgor Rhanbarth y Cynulliad a sefydlwyd o dan adran 61 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 10. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy, Caernarfon, Clwyd, Conwy, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.2.
Yn ôl Rheol Sefydlog 10.2 "Rhaid i'r Pwyllgorau Rhanbarth gynghori'r Cynulliad ynglyn â materion sy'n effeithio ar eu rhanbarthau, effaith polisïau'r
Cynulliad yn y rhanbarthau hynny a gwaith cyrff cyhoeddus yno. Rhaid i bob Pwyllgor gyfarfod yn ei ranbarth o leiaf ddwywaith bob blwyddyn."3.
Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau:
Adroddiad Blynyddol 2006-2007
| Eleanor Burnham |
Gogledd Cymru |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
| Mark Isherwood |
Gogledd Cymru |
Ceidwadwyr |
| Alun Ffred Jones |
Caernarfon |
Plaid Cymru |
| Ann Jones |
Dyffryn Clwyd |
Llafur |
| Denise Idris Jones |
Conwy |
Llafur |
| Ieuan Wyn Jones |
Ynys Môn |
Plaid Cymru |
| John Marek |
Wrecsam |
Cymru Ymlaen |
| Sandy Mewies |
Delyn |
Llafur |
| Alun Pugh |
Gorllewin Clwyd |
Llafur |
| Janet Ryder |
Gogledd Cymru |
Plaid Cymru |
| Carl Sergeant |
Alun a Glannau Dyfrdwy |
Llafur |
| Karen Sinclair |
De Clwyd |
Llafur |
| Brynle Williams |
Gogledd Cymru |
Ceidwadwyr |
4. Etholwyd Brynle Williams yn Gadeirydd o fis Mai 2006.
Cyfarfodydd5. Cyfarfu’r
Pwyllgor chwe gwaith rhwng Mai 2006 a Mawrth 2007. Gweler y manylion yn Atodiad 1.
Dull o weithio 6.
Rôl y pwyllgorau rhanbarth, fel y'i diffinnir yn Rheol Sefydlog 10.2, yw rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am faterion sy'n effeithio ar eu rhanbarthau, effaith polisïau'r Cynulliad arnynt a gwaith y cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau hynny.7.
Yn gyffredinol, canolbwyntiodd y Pwyllgor ar drefnu cyfarfodydd ar thema arbennig gyda phwyslais cryf ar y cyhoedd yn cymryd rhan drwy'r cyfarfod cyfan. Ar ôl pob cyfarfod, cynhyrchwyd adroddiad gan y Pwyllgor yn crynhoi'r sylwadau a fynegwyd gan bobl
y Gogledd a chyflwynwyd y rhain i'r Gweinidog priodol i roi sylwadau arnynt.
Lleoliadau’r
cyfarfodydd8. Mae'r Pwyllgor wedi parhau'n ymrwymedig i ddull cynhwysol o weithio. Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfodydd yn Llandudno, Llaneurgain,
Amlwch, Cei Connah, Llangollen a Chaernarfon.
Y
Materion dan Sylw9. Mae'r Pwyllgor wedi mynd i'r afael â gwahanol faterion sy'n ymwneud â phob agwedd ar gyfrifoldebau'r Cynulliad.
Darpariaeth
Gwasanaeth Tân yng Ngogledd Cymru10. Trafododd y Pwyllgor y ddarpariaeth Gwasanaeth Tân yng Ngogledd Cymru
yn ei gyfarfod ar 19eg Mai. Rhoddodd y cyfarfod gyfle i sefydliadau lleol preifat a chyhoeddus, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd i leisio eu barn wrth y Pwyllgor, a throsglwyddwyd y safbwyntiau hefyd i’r Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus Sue Essex AC.
Atal
Troseddau ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol11. Ym mis Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor Atal Troseddau ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol.
Clywodd y Pwyllgor oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru a sefydliadau gwirfoddol lleol. Cafodd y safbwyntiau a gyflwynwyd eu trosglwyddo i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart AC.
Ynni
Adnewyddadwy a Defnyddio Ynni’n Effeithlon 12. Trafododd y Pwyllgor Ynni Adnewyddadwy a Defnyddio Ynni’n
Effeithlon yn ei gyfarfod mis Hydref. Rhoddwyd cyflwyniadau gan Gyngor Sir Gwynedd a darparwyr ynni lleol. Cafodd y farn a gyflwynwyd yn y cyfarfod ei throsglwyddo i’r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, Andrew Davies AC a’r Gweinidog
dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Carwyn Jones AC.
Digartrefedd
Ymhlith Pobl Ifanc 13. Trafododd y Pwyllgor Ddigartrefedd Ymhlith Pobl ifanc yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd. Clywodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan
Gyngor Sir Ddinbych a sefydliadau eraill yng Ngogledd Cymru sy’n delio gyda’r mater hwn. Cafodd y safbwyntiau a fynegwyd gan yr aelodau, y cyflwynwyr a’r cyhoedd eu cyfleu wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina
Hart AC a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Janice Gregory AC.
Twristiaeth13.
Yn ei gyfarfod ym mis Chwefror, bu’r Pwyllgor yn trafod Twristiaeth. Daeth cynrychiolwyr o gwmnïau a sefydliadau sy’n delio gyda Thwristiaeth yng Ngogledd Cymru i roi eu barn yn y cyfarfod. Cafodd y farn a fynegwyd ei throsglwyddo
i’r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, Andrew Davies AC.
Iechyd
Meddwl14. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, edrychodd y Pwyllgor ar Iechyd Meddwl. Cafwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau, gan y cyflwynwyr a’r cyhoedd, a throsglwyddwyd
y cyfan i’r Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons AC.
Casgliad
15. Rhoddodd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd gyfle i aelodau’r Cynulliad ymgysylltu’n ffurfiol mewn dialog gyda ac i gyfleu barn pobl y rhanbarth a wnaethpwyd
yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod dan sylw.
Brynle
WilliamsCadeirydd y PwyllgorATODIAD 1
PWYLLGOR
RHANBARTH Y GOGLEDD
AMSERLEN Y CYFARFODYDD
Mai 2006 hyd Fawrth 2007
Adroddiad Blynyddol 2006-2007
Dyddiad |
Lleoliad |
Agenda |
19 Mai 2006 |
Canolfan Gymuned Craig-y-Don, Llandudno |
Darpariaeth Gwasanaeth Tân yng Ngogledd Cymru ·1 Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru·2
Undeb y Frigâd Dân·3 Cyngor sir Ddinbych ·4 Age Concern Canol Gogledd
Cymru |
7 Gorffennaf 2006 |
Coleg Garddwriaeth Cymru, Ffordd Treffynnon, Yr Wyddgrug,Sir y Fflint |
Atal Troseddu ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol ·1 Heddlu Gogledd Cymru·2 Cymdeithas Gwarchod
Cymdogaeth Sir y Fflint·3 Cyswllt yr Henoed Cymru ·4 NACRO |
6 Hydref 2006 |
Neuadd Goffa Amlwch, Stryd y Farchnad, Amlwch, Ynys Môn, LL68 9ET |
Ynni Adnewyddadwy a Defnyddio Ynni’n Effeithlon ·1 Canolfan Gynghori ar Ddefnyddio Ynni’n Effeithlon Gogledd Cymru (EEAC)·2
Ymddiriedolaeth Carbon Cymru ·3 Cyngor Sir Gwynedd ·4 Prifysgol Cymru, Bangor |
17 Tachwedd 2006 |
Y Neuadd Ddinesig, Cyngor Tref Cei Connah, Swyddfeydd y Cyngor Tref, Greenacre 14 Wepre Drive, Cei Connah, Sir y
Fflint, CH5 4HB |
Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc ·1 Cyngor Sir Ddinbych ·2 Wrexham Foyer (Cymdeithas Tai Clwyd Alun)·3
Shelter Cymru·4 Cymdeithas Tai Hafan |
9 Chwefror 2007 |
Y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Ffordd yr Abaty, Llangollen, LL20 8SW |
Twristiaeth ·1 Yr Adran Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau·2 Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru·3
Cymdeithas Lletygarwch Prydain ·4 Y Clwb Carafannwyr |
23 Mawrth 2007 |
Stiwdio Barcud Derwen, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD |
Iechyd Meddwl ·1 Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir Gwynedd ·2 Ymddiriedolaeth GIG Gogledd
Orllewin Cymru ·3 Adran Meddygaeth Seicolegol, Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd·4
MIND Aberconwy |