Pwllgor Rhanbarth Gogledd Cymru
NWRC(2) 01-06
Adroddiad ar Fynediad Agored i Gefn Gwlad
1.
Cyflwyniad
Mae Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru yn un o bum Pwyllgor Rhanbarth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cynrychioli rhanbarth etholaethol Gogledd Cymru.Rôl
y Pwyllgorau Rhanbarth, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 10.2, yw cynghori’r Cynulliad ar faterion sy’n effeithio ar eu rhanbarthau, effaith polisïau’r Cynulliad yn y rhanbarthau hynny a gwaith y cyrff cyhoeddus yno. Yn
ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2006 yng Nghanolfan Gymunedol Cae Cymro, Clawddnewydd, Rhuthun, clywodd y Pwyllgor safbwyntiau pobl Gogledd Cymru ar Fynediad Agored i Gefn Gwlad. Mae’r pwyntiau a wnaethpwyd gan y gwahanol gyflwynwyr ac a godwyd gan y cyhoedd
wedi’u crynhoi yn yr adroddiad hwn.
2.
Cyflwyniadau ar Fynediad Agored i Gefn Gwlad - Rhan I
Clywodd y Pwyllgor gyflwyniadau byr gan amrywiol siaradwyr. Mae’r rhain wedi’u crynhoi
isod:
Gwnaeth Mr Richard Ninnes, Uwch-swyddog Hamdden a Mynediad yn cynrychioli Cyngor Cefn Gwlad Cymru, gyflwyniad
llafar oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Mae’r
Cyngor Cefn Gwlad yn Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ac mae ganddo gyfrifoldeb i helpu pob agwedd o hamdden a mynediad yng nghefn gwlad.Yn
Rhanbarth y Gogledd, mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT) wedi cynyddu arwynebedd yr ardaloedd sydd â hawliau mynediad bron i chwe gwaith drosodd.Mae
76 y cant o ymwelwyr rheolaidd â chefn gwlad wedi clywed am y Côd Cefn Gwlad. Cafodd adnodd newydd ar gyfer ysgolion ei lansio ym mis Medi;Cynhyrchodd
Cyngor Cefn Gwlad Cymru Arwyddion, a osodwyd gan awdurdodau lleol ac awdurdodau parc cenedlaethol. Bellach mae Arwyddion i’w gweld yn gyffredin yng nghefn gwlad. Mae
grantiau Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflwyno’r isadeiledd newydd mwyaf pwysicaf.Mae
CCGC wedi datblygu gwefan Mynediad i Gefn Gwlad Cymru sy’n cynnwys yr wybodaeth gyfredol am dir hygyrch, llwybrau a chyfyngiadau, gan gynnwys mynediad caniataol, er enghraifft ar ffermydd Tir Gofal. Mae
mapiau Arolwg Ordnans yn dangos yr holl dir hygyrch yn ôl statud, wedi’u prosesu a’u cyflenwi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.Mae
CCGC yn darparu hyfforddiant i weithwyr awdurdodau lleol ac awdurdod y parc cenedlaetholMae taflenni rhad ac am ddim y Cyngor Cefn
Gwlad yn cynnwys cyfarwyddyd ar reoli mynediad;Ymgyrch Swyn Naturiol - i annog pobl i ddod i gefn gwlad, fel y gallant elwa o ran
eu hiechyd ac ati.Fforymau Mynediad Lleol - i gynorthwyo i gynllunio rheolaeth mynediad.Mae
gweithwyr CCGC a’r awdurdodau lleol yn gysylltiadau i ffermwyr a thirfeddianwyr wneud unrhyw ymholiadau.Mae
gweithgareddau hamdden yng nghefn gwlad yn cyfrannu at dargedau Dringo’n Uwch. Mae iechyd pobl a thwristiaeth yn elwa.Mae
buddsoddiad mewn mynediad yn fuddsoddiad mewn iechyd a’r economi.
Fe wnaeth Mr Dafydd Jarrett, Cyngorydd Polisi NFU Cymru, gyflwyniad
llafar oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Mae
cyfleoedd i gael mynediad i gefn gwlad wedi cynyddu bum gwaith yn dilyn gweithredu’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ond nid oes yr un cynnydd wedi digwydd yn y gyllideb mynediad. Gan
fod y mynediad yn bennaf ar dir perchnogaeth/ddefnydd preifat, heb y cynnydd cyfatebol yn y gyllideb, mae’n rhaid i’r costau uwch gael eu talu’n bennaf gan y tirfeddianwyr a effeithiwyd gan ddynodi statudol neu ymrwymiad eu tir.
Dim
ond ychydig o’r rhai gyda thir y mae mynediad iddo sy’n gallu cael budd ariannol o fwy o gyfleoedd i bobl gael mynediad i’w tir.Nid
yw’r dyraniad ariannol mwy gan y Cynulliad i awdurdodau lleol wedi’i neilltuo’n benodol a 'does dim rheidrwydd nac yn wir oruchwyliaeth ar awdurdodau lleol i wario’r arian hwn ar fynediad o gwbl.Mae’r
mwyafrif o gerddwyr eisiau llwybrau unionlin gydag arwyddion da yn ddigon pell oddi wrth anheddau a buarthau fferm, yn hytrach na mynediad i bob modfedd sgwâr o gefn gwlad. (Dylid cofio hyn wrth ystyried unrhyw estyniad posibl i fynediad.) Mae
llawer o broblemau, er enghraifft llwybrau cyfochrog a llwybrau sy’n arwain i unman penodol a llwybrau trwy fuarthau ffermydd prysur yn cael eu hachosi gan rwydwaith hawl tramwy hen ffasiwn. Gellir
datrys y broblem trwy’r Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy CGHT. Mae Mynediad yn ôl y ddeddf CGHT i dir agored ar gyfer mwynhad
tawel wrth gerdded; Ni ddylai tir Mynediad CGHT gael ei ddefnyddio fel man i ymarfer cwn a dylai cwn bob amser fod ar dennyn byr
a bod wedi cael meddyginiaeth rhag llyngyr.Mae NFU Cymru yn gefnogol
iawn i fforymau mynediad lleol a’r Ymgyrch Côd Cefn Gwlad. Fodd bynnag, mae rhai cerddwyr yn defnyddio’r esgus fod ganddynt hawl mynediad i unrhyw dir.Dylai’r
Cynulliad Cenedlaethol ddarparu fframwaith gydag arian digonol i alluogi i gydbwysedd ddigwydd rhwng ffermio, cadwraeth a mynediad i dir perchnogaeth preifat. Wedi’r cyfan ffermydd yw’r mannau ble mae ffermwyr yn gwneud eu bywoliaeth. Mae
mynediad agored i gefn gwlad yn fater pwysig i aelodau NFU Cymru.Mae pobl eisiau un neu ddau lwybr diogel a ddynodwyd yn hytrach na llawer o lwybrau nad
oes defnydd ohonynt mwyach: Mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn gyfle ardderchog trwy gynlluniau gwella hawliau tramwy i foderneiddio a symleiddio ein mynediad er mwyn ateb anghenion hamdden heddiw.
Rhoddodd
Mr Gareth Wyn Jones, Swyddog Gweithredol Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint, gyflwyniad llafar oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Mae
UAC yn croesawu trafodaeth o Ran 1 y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Mae’r Ddeddf CGHT yn rhoi i’r cyhoedd hawl statudol
i gerdded ar draws gwlad agored a gafodd ei mapio.Yng Nghymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru oedd â’r
cyfrifoldeb o fapio’r ardaloedd mynediad. Cred UAC, er ei bod yn dal yn rhy gynnar i weld effaith
lawn mynediad agored ar dirfeddianwyr, mae nifer o faterion pryder i gofio amdanynt. Mae’r
UAC yn sylweddoli pwysigrwydd hamdden yn yr awyr agored i bawb, ac mae’n gweithio i sicrhau fod cydbwysedd teg rhwng cefn gwlad fel gweithle i ffermwyr ac fel lle i ddarparu ar gyfer anghenion ymwelwyr.Y
prif faterion pryder a godir yn gyson gan aelodau’r Undeb yw costau yswiriant ffermwyr, cwn yng nghefn gwlad, tresmasu, a diffyg gwybodaeth ac addysg gan y cyhoedd weithiau ar y mannau y cânt fynediad iddynt.Dylai’r
Cynulliad Cenedlaethol hybu mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus am faint o hawliau mynediad sydd gan y cyhoedd dan y Ddeddf. Byddai
presenoldeb gwasanaeth warden cyd-drefnus yn rhoi sicrwydd i berchnogion tir fod deddfwriaeth mynediad yn cydbwyso anghenion ffermio. Cred
UAC fod ymgyrch wybodaeth ac addysg i’r cyhoedd yn ffactor bwysig i ostwng gwrthdaro posibl. Mae cwn
yng nghefn gwlad yn parhau i fod yn broblem fawr i dirfeddianwyr.Mae mater ariannu o bryder mawr i UAC: gan nad yw arian y Cynulliad Cenedlaethol
wedi’i neilltuo, fe all awdurdodau lleol, gyda’r holl bwysau cyllidebol sydd arnynt o wahanol gyfeiriadau ystyried fod mynediad yn isel ar eu rhestr blaenoriaethau gwariant.Nes
bod ariannu digonol i ateb gofynion cyfredol CGHT, dylai unrhyw gamau i gynyddu’r ddarpariaeth mynediad i ardaloedd arfordirol gael eu gwrthwynebu’n frwd.Dylai
Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd astudio effaith mynediad anghyfreithlon i gerbydau ar diroedd comin neu dir arall.
Fe
wnaeth Mr Richard Siddons, Rheolwr Ardal Coedwigaeth, Comisiwn Coedwigaeth Cymru (FC), gyflwyniad llafar oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Cafodd
300 hectar o ystâd y Comisiwn ei fapio gan CCGC fel tir a gofrestrwyd. Gweundir a rhostir mynyddig neu iseldiroedd ydyw’r tir yn bennaf. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi canolbwyntio’n bennaf ar neilltuo tir yn wirfoddol
(yn hytrach nag yn orfodol) - mae 91.5 hectar o dir agored wedi’i neilltuo fel tir mynediad agored. Mae’r
Comisiwn Coedwigaeth wedi neilltuo’r mwyafrif o’i ystâd rhydd-ddeiliad yng Nghymru, oedd yn golygu datblygu prosesau newydd i sicrhau diogelwch y cyhoedd trwy eithrio ffurfiol: tra bod cerdded bellach yn hawl ar yr ystâd
gyhoeddus, mae hawl i feicwyr a rhai sy’n marchogaeth dim ond trwy ganiatâd.Mae
gwaharddiad llawn y cyhoedd wedi’i gytuno dim ond pan fydd gwaith cynaeafu coed ar raddfa fawr yn digwydd ac ar gyfer campau modur peryglus yn arbennig ral?o. Bydd
rheolwyr lleol yn penderfynu eithrio’r cyhoedd ai peidio o goedydd ble mae gweithgareddau eraill yn digwydd. Gwneir y penderfyniad hwn ar sail asesiad risg. O
fewn cyfnod rhwng 28 Mai a 28 Tachwedd 2005 am gyfnod o 6 mis hyd yma yr oedd 298 gwaharddiad; mae’r mwyafrif am dorri coed - 256, neu 85 y cant, mae campau moduro wedi bod tua 13 y cant, rhai digwyddiadau peirianneg sifil bach, digwyddiadau beicio
mynydd ac un am ddyfais oedd heb ffrwydro <pid:3801>.Mae
gan y Comisiwn Coedwigaeth ei statws awdurdod perthnasol ei hun sy’n golygu ei fod yn rheoli ei waharddiadau ei hun mewn tiroedd coediog.
3.
Safbwyntiau a fynegwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ac Aelodau’r Cyhoedd - Rhan I
Nododd Ieuan Wyn Jones
AC nad yw gwybodaeth ddigonol ar gael i’r cyhoedd gyda golwg ar beth yw mynediad a beth yw’r cyfyngiadau/ hawliau. Gofynnodd a oedd CCGC yn ystyried fod gwybodaeth/addysg i’r cyhoedd yn rhan o’u cyfrifoldeb hwy neu a oedd
yn fater ehangach. Esboniodd
Richard Ninnes fod gwybodaeth/addysg i’r cyhoedd o fewn cyfrifoldebau Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Fodd bynnag, i’r Cyngor mae gwybodaeth/addysg i’r cyhoedd yn fater o bartneriaeth gydag awdurdodau eraill, megis awdurdodau lleol a’r
Comisiwn Coedwigaeth. Ychwanegodd
Dafydd Jarrett ei fod yn cytuno gyda’r hyn ddywedodd Mr Ninnes a dywedodd fod NFU Cymru wedi helpu i ffurfio’r côd. Fodd bynnag tra’r oedd y mwyafrif o bobl yn dilyn y côd, yr oedd lleiafrif o bobl oedd yn dal
i gymryd mantais.Cefnogodd
Bob Barton, Cynghorydd Sir Ddinbych y pwyntiau a wnaethpwyd ynglyn ag ariannu. Mynegodd farn, pryd bynnag y bo deddfwriaeth newydd yn creu arian newydd, y dylai’r arian hwn gael ei neilltuo - hynny yw y dylai gael ei ddefnyddio i’r pwrpas
y’i rhoddwyd. Mynegodd farn ei bod yn gwbl hanfodol fod gwir gost arwyddion yn cael ei gyfrif o’r dechrau un. Cefnogodd
Brynle Williams AC safbwynt Mr Barton y dylai arian gael ei neilltuo yn benodol. Dywedodd fod diffyg arian ar gyfer plismona yn broblem. Hefyd yr oedd angen i lwybrau gael eu symleiddio: yn lle llawer o lwybrau o safon amrywiol yn arwain i’r un lle
y dylai fod llai o lwybrau wedi’u graddio’n rhesymol. Dywedodd
Alan Pugh AC fod cael mwy o rannau o Gymru ar gael ar gyfer mynediad agored yn bwysig iawn ac o edrych ar y mater yn gytbwys yr oedd y ddeddfwriaeth mynediad agored yn beth da. Fe allai iechyd pobl Cymru gael ei wella trwy newid agweddau at ysmygu, diet ac ymarfer
corff. Fodd bynnag dylai pob mynediad i gefn gwlad fod yn ddiogel a chyfrifol.Dywedodd
Brynle Williams AC fod gan bawb o’r asiantaethau (UAC, NFU, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru) gyfrifoldeb am ddarpariaeth mynediad diogel a phwysleisiodd bwysigrwydd brechu cwn. Gofynnodd
Karen Sinclair AC a oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad fod costau yswiriant i ffermwyr wedi codi yn dilyn cyflwyno’r ddeddf CGHT.Nododd
Gareth Wyn Jones un achos ble’r oedd aelod o’r UAC wedi wynebu costau yswiriant uwch a chynigiodd gysylltu â’r cwmni yswiriant i gael ymateb cyffredinol ganddynt a oedd mynediad agored wedi effeithio ar gostau yswiriant.
Gweithredu: Mr Gareth Wyn Jones / ClercMynegodd
Stewart Davies, Cynghorydd Sir dros Langollen ofn fod yr Hostel Ieuenctid (YHA) yn Llangollen yn wynebu cael ei gau, ond ei fod yn gyfleuster defnyddiol iawn.Cefnogodd
Eleanor Burnham AC, y Cadeirydd Mr Davies, gan ddweud fod y YHA yn gorff pwysig iawn sy’n darparu mynediad i gefn gwlad i lawer iawn o bobl. Holodd
Denise Idris Jones AC ynglyn â dosbarthiad gwybodaeth am y Côd Cefn Gwlad i blant ysgol. Atebodd
Richard Ninnes fod gan y CCGC wahanol adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag i grwpiau awyr agored, y sgowtiaid ac ati. Gofynnodd
Michael Skuse, ymgyrchydd diogelu Cymru wledig a fyddai gwaharddiad ar y cyhoedd rhag cael mynediad i dir y Comisiwn Coedwigaeth yn dilyn gosod tyrbinau ynni gwynt 140 megawat.Atebodd
Richard Siddons na fyddai gwaharddiad o unrhyw fath i’r tir, ar wahân i’r ardal o amgylch y tyrbinau tra’r oeddent yn cael ei gosod. Dywedodd fod y cwestiwn a oedd tyrbinau i’w gosod yn dal i gael ei benderfynu.
Gofynnodd
Janet Ryder AC a oedd unrhyw dystiolaeth o arallgyfeirio i helpu i gynyddu incwm ffermwyr ac incwm grwpiau eraill a gysylltir gydag ardaloedd cefn gwlad. Esboniodd
Dafydd Jarrett Er bod y cynnydd mewn mynediad yn helpu’r economi leol, nid oedd pawb yn cael budd gan fod y mater yn golygu nifer o gostau cudd i ffermwyr. Awgrymodd
Brynle Williams AC y dylai’r Ddeddf CGHT fynd law yn llaw gyda chynllunio, gan y byddai gwahanol brosiectau yn dod ag arian i gefn gwlad Cymru ac yn cadw’r arian yno. Holodd
Mark Isherwood AC i ba raddau y gallai’r grwpiau defnyddwyr cyfrifol gyfrannu at sicrhau fod mynediad rheoledig yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r asiantaethau a’r tirfeddianwyr.Atebodd
Gareth Wyn Jones fod UAC wedi cefnogi’n frwd y fforymau mynediad lleol o fewn yr awdurdodau lleol yn ogystal â fforymau mynediad eraill.Dywedodd
Sandy Mewies AC fod y cyflwyniadau wedi bod yn gytbwys iawn ac wedi dangos fod hawliau a chyfrifoldebau ar bawb dan sylw. O gofio fod y Ddeddf CGHT yn gymharol newydd yr oedd yn meddwl tybed a oedd unrhyw waith oedd yn digwydd gan yr undebau ac awdurdodau lleol
a Llywodraeth y Cynulliad i weld beth oedd y goblygiadau ariannol. Atebodd
Richard Ninnes fod rhywfaint o waith o’r fath ar y gweill, ond yr oedd ychydig yn fuan i wneud astudiaeth fanwl o’r buddion economaidd yn awr.Dywedodd
Carl Sargeant AC ei fod yn cefnogi cyflwyno’r Ddeddf CGHT gan ei fod wedi cael cwynion, yn cynnwys rhai gan aelodau o Gymdeithas y Cerddwyr oedd wedi cael problemau croesi tir yr oedd ganddynt hawl i’w groesi. Er ei fod yn gwerthfawrogi y
dylai mynediad fod yn gyfrifol ac na ddylai’r Ddeddf CGHT roi hawl i bobl grwydro i bob man, pwysleisiodd y dylai’r holl lwybrau a ddynodwyd fod yn agored gan eu bod yn rhan o’r hen drefniadau cefn gwlad ac felly nid oeddent yn
perthyn i unrhyw berson penodol - yr oeddent yn perthyn i bawb. Cytunodd
Adrian Davies, o Gyngor Sir Ynys Môn a Howard White o Sir y Fflint gyda’r pwynt a wnaeth Brynle Williams fod gormod o lwybrau yn arwain i’r un lle yn ddiangen ac y byddai’n well cael llai o lwybrau a’u bod yn
fwy diogel. Ychwanegodd
Gareth Wyn Jones, os oedd sail i’w dadl, y gallai ffermwyr ailgyfeirio llwybr. I wneud hyn, byddai’n rhaid iddynt ddilyn proses ymgynghori briodol gydag asiantaethau perthnasol a’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, gan fod y broses gyfan
yn costio oddeutu £1500, byddai’n fanteisiol pe gellid gostwng costau’r broses hon. Holodd
Karen Sinclair AC beth oedd CCGC yn ei wneud i wneud yn siwr fod categori pob llwybr yn amlwg fel na fyddai pobl yn canfod eu hunain yn torri’r gyfraith heb yn wybod iddynt. Atebodd
Richard Ninnes fod CCGC yn cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar y safonau gorau o ran marcio ffyrdd i gerdded gan ddefnyddio’r lliwiau safonol fel bo’n briodol.Cytunodd
Dafydd Jarrett gyda Brynle Williams fod ffermwyr wedi agor eu llwybrau caniataol a bod y system yn mynd law yn llaw gyda’r llwybrau cyhoeddus. Cynghorau sy’n gyfrifol am yr arwynebedd ar y llwybrau, ond rhaid iddynt fod yn realistig ynglyn
â pha lwybrau i’w cadw’n agored.
4.
Cyflwyniadau ar Fynediad Agored i Gefn Gwlad - Rhan II
Gwnaeth y Rhingyll Pete Charleston, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol, Heddlu Gogledd Cymru'r
pwyntiau canlynol yn ei gyflwyniad llafar:
Ychydig o effaith mae
cyflwyno darpariaethau mynediad dan y Ddeddf CGHT wedi’i gael ar Heddlu Gogledd Cymru, oherwydd er bod y Ddeddf wedi gosod cyfyngiadau ar y defnydd o dir mynediad agored, os nad oedd unrhyw droseddau’n cael eu cyflawni, yr oedd cydymffurfio
gyda gofynion y Ddeddf CGHT yn syml yn fater sifil ac nid yn fater i Heddlu Gogledd Cymru. Nid
oedd y defnydd o gerbydau modur yn fater mynediad agored dan y Ddeddf CGHT, ond yn fater dan y Ddeddf Traffig y Ffordd.Mae
gan yr heddlu lawer o bwerau i ddelio gyda defnydd anghyfreithlon o gerbydau modur, a gallant:- yn syml adrodd am y troseddwyr
am amrywiaeth o droseddau; - roi iddynt hysbysiad cost benodol;- eu rhybuddio ar ddisgresiwn
y swyddog dan sylw;- eu dwyn i’r llys.Hefyd mae gan yr heddlu bwerau ehangach, sy’n
cynnwys:- y grym i gymryd cerbydau ble y mae rhybuddion wedi’u hanwybyddu.Mae
gan lysoedd y cyfle i wahardd troseddwyr. siantaethau eraill, sefydliadau ac unigolion yn rheolaidd yn nodi trafferthion gyda defnydd anghyfreithlon o gerbydau modur oddi ar
y ffordd, nid yw Heddlu Gogledd Cymru yn ystyried hwn fel blaenoriaeth o’u safbwynt hwy.Mae
blaenoriaethau’r heddlu wedi’u dynodi mewn nifer o ffyrdd, yn aml trwy’r llywodraeth ond gan gymunedau lleol hefyd ac mae’n amlwg nad yw gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn flaenoriaeth i unrhyw rai o’r
grwpiau hynny. Serch
hynny mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dangos ymrwymiad i roi sylw i broblemau pan ddigwyddant: am y flwyddyn ddiwethaf maent wedi bod yn gweithio mewn cydweithrediad gyda nifer o sefydliadau, sef awdurdodau lleol, y Comisiwn Coedwigaeth, undebau’r ffermwyr
a’r CCGC, er mwyn addysgu pobl gyda golwg ar ddefnyddio cerbydau modur oddi ar y ffordd; maent yn gweithredu’n frwd trwy Gymru gyda grwpiau beiciau modur oddi ar y ffordd, ac yn cydnabod fod darparu safleoedd cyfreithlon yn angenrheidiol
er mwyn gwneud yn siwr fod yr orfodaeth yn effeithiol.Mae
llawer o droseddwyr yn dod o’r tu allan i Gymru ac mae llawer o bobl yn troseddu am eu bod heb wybod beth yw’r gyfraith.
Gwnaeth
Mr Eryl Williams, Cynghorydd, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd yn cynrychioli Cyngor Sir Ddinbych, gyflwyniad llafar oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Sir
Ddinbych oedd y cyngor cyntaf i ddatblygu mynediad agored yng Nghymru. Mae wedi ymwneud yn y treial cychwynnol cau a chyfyngiadau ar fynediad agored ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Y sir oedd y gyntaf i benodi Warden Mynediad penodedig. Mae
gwasanaeth cefn gwlad y sir yn berchen ar ac yn rheoli ardal ucheldir fawr gan gynnwys Parc Gwledig Moel Famau. Ardal uchaf y Sir yw'r Berwyn, a ystyriwyd fel lleoliad delfrydol i roi treial ar y diffiniad mynediad agored, a sut y gallai tir gael ei adnabod
a’i reoli.Mae’n
bwysig fod y cyngor yn sicrhau fod tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am ofalu am y tirwedd yn hyderus fod eu hanghenion wedi’u hateb er mwyn effeithio cyn lleied ag sy’n bosibl ar eu bywoliaeth.Fe
allai llawer sy’n byw yng nghefn gwlad gael budd o’r mynediad newydd hwn fel mantais ar gyfer datblygu busnesau newydd allai fod yn llewyrchus oherwydd y cyfle a ddeuai gyda defnyddwyr newydd.Yr
oedd y cyfrifoldeb am ddiffinio a chofnodi ardaloedd mynediad ar dir uchel a thir comin yn nwylo Comisiwn Cefn Gwlad Cymru. Mae gwir weithredu’r mynediad yn y maes, fodd bynnag, wedi bod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol (yn Sir Ddinbych o ganlyniad
i’r Ddeddf CGHT bellach mae 12,252 hectar o dir mynediad, y mae 2000 hectar ohono o fewn Bryniau Clwyd). Cafodd
dau adroddiad manwl yn sôn am y sir yn gyfan eu paratoi yn ystod y prosiect peilot i gael eu hastudio gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Gwaith
y tîm mynediad fu sicrhau fod yr ymwelwyr yn cael y budd mwyaf o’r hawliau newydd a ddarperir gan y ddeddfwriaeth, wrth sicrhau fod sylw’n cael ei roi i unrhyw bryderon gan dirfeddianwyr neu reolwyr tir. Un
o’r pwyntiau allweddol a wnaethpwyd gan lawer o berchnogion tir oedd pwysigrwydd cael digon o wardeiniaid effeithiol yn y maes.Mae’r
cyngor yn gobeithio gallu darparu warden parhaol yn y dyfodol ond mae hyn yn ddibynnol ar gael arian yn ogystal â gweithredu’r camau a amlinellwyd yn y ddau adroddiad astudiaeth gwreiddiol. Gosododd
y cyngor gatiau a chamfeydd gyda help y tirfeddianwyr ble maent wedi adnabod y bydd pwysau’n bodoli i fynd ar y tir ac wedi gosod y symbolau mynediad a’r arwyddion arbennig. Mae
byrddau gwybodaeth wedi’u gosod mewn nifer o leoliadau poblogaidd; mae’r llwybrau mwyaf defnyddiol wedi’u hadnabod trwy’r tir mynediad ac mae llawer o’r rhain wedi’u nodi gydag arwyddbyst. Mae’r
tîm mynediad yn hyrwyddo’r codau mynediad i gefn gwlad yn y mannau mynediad ac yn uniongyrchol gyda defnyddwyr. Mae’r
Cyngor yn monitro mynediad yn ofalus. Hyd yn hyn nid oes unrhyw anhawster wedi bod i ddefnyddwyr na thirfeddianwyr.
Gwnaeth
Mr Martin Dowson, Swyddog Gwarchod Cefn Gwlad yn cynrychioli Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru, gyflwyniad llafar oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Mae
Cerddwyr Cymru yn rhan o Gymdeithas y Cerddwyr trwy Brydain.Mae Cerddwyr Cymru yn brysur ym mywyd Cymru, yn trefnu teithiau i bobl gael archwilio eu hardaloedd
lleol, yn ymgyrchu i wella hawliau cerddwyr a hyrwyddo manteision ehangach cerdded (yr oedd cynllun "Lonc a Chlonc" yn un o’r prosiectau cerdded cyntaf ym Mhrydain). Ymgyrch
barhaus Cerddwyr Cymru i sicrhau gwell mynediad i gefn gwlad oedd y sbardun ar gyfer datblygu’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) a agorodd dros 350,000 hectar o dir newydd ar gyfer cerddwyr. Mae’n
hanfodol adnabod pwysigrwydd a sicrhau ansawdd y mynediad a gafwyd dan y Ddeddf CGHT gan ei bod yn rhoi cyfle i bawb fwynhau cefn gwlad. Mae’r
ffigurau diweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos fod dros 60y cant o’r rhwydwaith hawl tramwy yn dal mewn cyflwr na ellir eu defnyddio, sy’n dangos gostyngiad sylweddol yn ôl ffigurau’r flwyddyn ddiwethaf ac mae’n
awgrymu nad yw awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldeb cyfreithlon ac yn taclo’r broblem mewn modd cyd-drefnus. Yn sicr bydd twristiaeth cerdded, a amcangyfrifir sy’n creu tua £548 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, yn dirywio
o ganlyniad. Mae
dros 22 y cant o arwynebedd tir Cymru wedi’i ddynodi ar gyfer mynediad agored i gefn gwlad dan y Ddeddf CGHT y llynedd. Gall niferoedd mawr o bobl gael budd o gyfleoedd cerdded iach. Mae
Cerddwyr Cymru yn cymeradwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru am eu gwaith mapio a’r Comisiwn Coedwigaeth am eu gwaith yn neilltuo tir ar gyfer mynediad i’r cyhoedd.Yn
y dyfodol bydd Cerddwyr Cymru- yn annog pobl i gerdded a cheisio mynediad i wlad agored arall e.e. glannau dyfroedd, coedwigoedd ac ati;-
pwysleisio’r angen am gynllun gweithredu ar y cyd (Llywodraeth Cynulliad Cymru, CCW, WLGA a defnyddwyr) i fuddsoddi i gael llwybrau clir ac i gwmpasu ymchwilio i lwybrau nas cofnodwyd; -
annog datblygiad mynediad i arfordiroedd sy’n gyson â Deddf CGHT 2000 (gan ddefnyddio adran 3); -
yn mynegi pryder y gallai cael mynediad agored i gefn gwlad agored fod mewn perygl gan amlder tyrbinau gwynt yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol;-
yn gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i gyflawni goliau cyffredinol ac i ddatblygu gwirfoddolwyr a staff.
5.
Safbwyntiau a fynegwyd gan Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau’r Cyhoedd - Rhan II
Dywedodd Janet
Ryder AC fod problem yrru oddi ar y ffordd yn gysylltiedig â mwy o fynediad, fel mae nifer cynyddol o geir yn dod i ardaloedd gwledig. Ar benwythnosau gall fod yn anodd gyrru ar rai ffyrdd cefn gwlad oherwydd y ceir sydd wedi parcio ar ochr y ffyrdd.
Gofynnodd a oedd hyn yn bod oherwydd diffyg lleoedd parcio neu oherwydd fod angen i bobl gael eu haddysgu. Atebodd
Pete Charleston fod taclo cerbydau sy’n mynd oddi ar y ffordd yn dibynnu ar faint y broblem a’r ardaloedd mae’n digwydd. Fel rheol, mae’r ardaloedd sy’n dioddef oherwydd cerbydau’n mynd oddi ar y ffordd
hefyd yn profi problemau gydag ymddygiadau gwrth gymdeithasol a difrod amgylcheddol. Er bod nifer y cerbydau yn eithaf bach, gallant wneud difrod mawr i dir sy’n sensitif yn amgylcheddol. Ar hyn o bryd mae Heddlu Gogledd Cymru yn penderfynu sut i oresgyn
y broblem. Un o’r awgrymiadau yw’r defnydd o dechnegau gwylio mwy soffistigedig. Nododd
Eryl Williams mai Sir Ddinbych oedd yr unig sir yng Ngogledd Cymru oedd â deddfwriaeth yn unol â hyn sy’n rhoi’r awdurdod iddi i roi llinellau melyn mewn rhai mannau gan orfodi pobl i barcio mewn mannau priodol gyda gwardeiniaid
a thocynnau. Gofynnodd
Ieuan Wyn Jones AC am farn y Cynghorydd Williams a ddylai arian a roir i Gynghorau gael ei neilltuo ai peidio. Nid oedd yn cytuno gyda neilltuo gan ei fod yn atal awdurdodau lleol rhag bod yn hyblyg gyda golwg ar eu harian. Atebodd
Eryl Williams ei bod yn iawn i’r arian gael ei neilltuo os oedd y swm yn iawn a’i fod wedi’i gostio allan yn briodol, gyda golwg ar chwyddiant, o’r dechrau. Yr oedd yn bwysig fod y Gweinidog yn deall y mater. Cefnogodd
Eleanor Burnham AC, y Cadeirydd y Cynghorydd Williams ac addawodd hysbysu’r Gweinidog gan bwysleisio pwysigrwydd y cyfrif ariannu cywir ar ei gyfer. Gweithredu: Cadeirydd/ClercMynegodd
y Cynghorydd Huw Evan ei bryder gyda golwg ar ddefnydd o gerbydau gyriant pedair olwyn ar diroedd ffermydd, llwybrau marchogaeth a llwybrau cyhoeddus. Gofynnodd a oedd unrhyw bolisi ar y mater.Atebodd
Pete Charleston nad oedd gan heddlu Gogledd Cymru unrhyw bolisi pendant gyda golwg ar y defnydd anghyfreithlon o gerbydau o’r math; yr oedd yn drosedd yr oedd yr heddlu’n delio gyda hi yn ôl gofyn pob sefyllfa unigol. Yn y mwyafrif
o achosion nid oedd gwybodaeth yn dangos angen am weithredu rhagweithiol ond ble’r oedd y dystiolaeth yn dod i’r golwg fe fyddai’r heddlu’n gwneud eu gorau i weithredu hynny.Dywedodd
Alun Pugh AC nad yw beicwyr a defnyddwyr cerbydau eraill ar y ffyrdd bob amser yn cyd-fodoli’n hapus ar ffyrdd gwledig. Yr oedd yn cofio fod cynllun rywbryd yn Sir Ddinbych i greu llwybr pellter hir a llwybr beicio o Lanelwy i Ruthun ar ffordd yr hen
reilffordd a gofynnodd fod y Cyngor yn edrych ar hyn unwaith eto gan y byddai’n adnodd gwerthfawr. Atebodd
Eryl Williams fod sir Ddinbych yn wir angen llwybrau beicio. Pwysleisiodd nad un llwybr o bwynt A i bwynt B oedd ei angen ond llwybr a fyddai’n mynd trwy’r pentrefi, fel y gallai pobl feicio i’r dafarn neu’r siop leol,
yn ogystal â theithio o Ddinbych i Ruthun er enghraifft. Cytunodd
Sandy Mewies AC fod llawer o grwpiau beiciau modur oddi ar y ffordd eisiau ymddwyn yn gyfrifol. Awgrymodd fod uned arbennig gan yr heddlu’n cael ei sefydlu fel bod gwyliadwriaeth mwy trylwyr ar ddefnyddwyr o’r math (yr oedd unedau o’r
fath yn bodoli mewn rhannau eraill o’r wlad). Er ei bod yn deall nad oedd gweithgareddau campau oddi ar y ffordd yn flaenoriaeth, gofynnodd a oedd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.Cadarnhaodd
Pete Charleston yn wir fod y mater yn cael ei adolygu’n gyson. Dywedodd, tra bod heddluoedd eraill yn y DG ag unedau 'gweithgareddau oddi ar y ffordd’ yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio cael hynny, yn bennaf am resymau iechyd
a diogelwch. Nododd
Anne Jones AC y gwaith da yr oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi’i wneud ar fynediad i gefn gwlad, ond gwnaeth sylw y dylai ardaloedd gwledig cyfagos i’r ardaloedd trefol gael eu datblygu hefyd. Soniodd
Eryl Williams fod Cyngor Sir Ddinbych yn darparu mannau hamdden ar gyfer cerdded yn agos i ardaloedd trefol. . Soniodd
Brynle Williams AC am y cwynion yr oedd wedi’u derbyn gyda golwg ar ddefnyddwyr beiciau a beiciau mynydd yn arbennig rhai oedd yn defnyddio llwybrau cyhoeddus. Yr oedd am dynnu sylw at broblem gynyddol buddiannau beicwyr mynydd, cerddwyr, pobl yn marchogaeth
a rhai’n defnyddio cerbydau campau modur. Fe
wnaeth Colin Antwis, Cynghorydd ar Fynediad i’r Anabl, Bwrdd Croeso Cymru ,dynnu sylw y dylid ystyried buddiannau cerddwyr anabl hefyd. -
dylai’r llwybrau addas gael eu categoreiddio a’u nodi gydag arwyddion priodol;- parcio ar gyfer pobl
anabl; Mae camfeydd yn rhwystr nid yn unig i’r rhai sy’n dod i mewn i gategori’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ond hefyd i rai gyda phroblem dros dro megis
wedi torri eu coes a chwn y deillion. Dywedodd
Howard Sutcliffe, Pennaeth Gwasanaeth Wardeiniaid Cyngor Sir Ddinbych, am bartneriaeth y Gwasanaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a’r Heddlu. Y wardeiniaid yn y maes a wnaeth ran helaeth o’r gwaith ar y prosiect gyda’r
sefydliadau uchod, gan gymell llawer o’r gwaith peilot. Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid yn derbyn grant gan Lywodraeth y Cynulliad trwy Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae 50 y cant o wardeiniaeth yn dibynnu arno, a byddai’r gwasanaeth yn
hoffi iddo barhau.Gofynnodd
Denise Idris Jones AC a oedd yn bosibl trin mynediad i’r arfordir yn yr un ffordd â mynediad i gefn gwlad. Nododd
Mark Isherwood AC er mwyn gwella mynediad ymhellach; y dylai cyrff cyhoeddus weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau gwirfoddol. Er enghraifft, mae rhai grwpiau defnyddwyr cerbydau modur yn cynnig fod yr heddlu yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau defnyddwyr
cyfrifol, i rannu dealltwriaeth fel bod digwyddiadau ymddygiad anghymdeithasol yn cael ei gofnodi. Dywedodd fod cyfarfodydd achlysurol gyda’r cyngor lleol yn annigonol. Atebodd
Pete Charleston fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu’r farn hon ac yn cydweithredu nid yn unig gyda’r gymuned gyrru oddi ar y ffordd gyfreithlon, ond hefyd gyda’r gymuned ehangach ac unigolion yn yr ardal.Dywedodd
Margaret Thomas o Gymdeithas Eryri am bwysigrwydd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd mannau gweithgareddau hamdden gwledig. Soniodd
Carl Sargeant AC er mwyn gwneud mynediad i gefn gwlad gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn ymarferol, yr oedd yn ddymunol fod ei ansawdd yn cael ei wella. Siaradodd hefyd am ei gefnogaeth i wella mynediad i’r anabl i gefn gwlad. Diolchodd
y Cadeirydd i bawb oedd wedi gwneud cyflwyniadau, i Aelodau’r Pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd am gymryd rhan yn y drafodaeth.