Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Y Pwyllgor Ariannu Ysgolion

Daeth y Pwyllgor i ben ar 14 Mehefin 2006.

Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd i:

  • adolygu holl ffynonellau incwm (refeniw a chyfalaf), pa fodd bynnag y caiff ei gynhyrchu, sy'n creu cyllid ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion);
  • adolygu'r modd y caiff arian ei ddosbarthu rhwng ysgolion a gynhelir - cynradd ac uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion;
  • ystyried effaith cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y DU ar gyllid ysgolion;
  • gwneud argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol ynghylch symleiddio'r system a'i gwneud yn gliriach.
  • archwilio ac adolygu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno system ariannu dair blynedd ar gyfer ysgolion.
  • paratoi adroddiad ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol 12 mis fan bellaf ar ôl dyddiad y cyfarfod cyntaf.