Pwyllgor Rhanbarth y De-Ddwyrain (Gorffennaff 2003 - Mawrth 2005)
Sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bedwar pwyllgor rhanbarth ym 1999. Roedd Pwyllgor Rhanbarth y De-ddwyrain yn cwmpasu Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Tor-faen a Bro Morgannwg.
Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar:
- faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth;
- effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth;
- gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.
Mae
Rheol Sefydlog 10 y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu manylion llawn o gylch gwaith y pwyllgor.