Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Roedd cylch gwaith eang y Pwyllgor yn seiliedig ar bortffolio Gweinidog y Cynulliad dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio. Roedd y portffolio yn ymwneud â rhaglen y llywodraeth i adfywio cymunedau Cymru, yn enwedig y rheini sy'n dioddef yr anfanteision mwyaf. Roedd yn cynnwys:
- Cymunedau yn Gyntaf;
- mentrau gwrth-dlodi;
- yr economi gymdeithasol;
- y sector gwirfoddol;
- diogelwch cymunedol a chysylltiadau â'r heddlu;
- y gwasanaeth tân;
- camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; a
- cyfiawnder ieuenctid a thai.
Prif swyddogaethau’r pwyllgorau pwnc, fel y'u nodir yn
Rheol Sefydlog rhif 9, oedd: datblygu polisi; craffu ar Weinidogion a chyrff a noddir gan y Cynulliad; a chraffu ar ddeddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar ddyrannu cyllidebau.