Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc
Yn ystod hydref 2006, cytunodd y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i gynnal adolygiad o "ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc". Bydd yr Adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2007.
Bydd yr Adolygiad yn ystyried materion yn ymwneud â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, yn benodol:
- Y gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ddigartref a ddarperir gan awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol, gan gynnwys nodi arferion da;
- Rôl awdurdodau lleol o ran cymhwyso deddfwriaeth berthnasol i faterion yn ymwneud â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys nodi arferion da;
- Gwneud argymhellion.
Prif ddogfennau
Dyma brif ddogfennau’r Adolygiad :