Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Adroddiad i’r Cynulliad 2005/06

1. Cyflwyniad1.1 Yn ôl Rheol Sefydlog 9.9, mae'n ofynnol i'r Pwyllgorau Pwnc gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar hynt y gwaith a wnaethant o ran cyflawni eu blaenraglenni gwaith. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a 31 Mawrth 2006.2. Yr Aelodau2.1.Yn ystod y flwyddyn, yr aelodau oedd
Adroddiad Blynyddol 2005-06
Janice Gregory (Cadeirydd) -
Mick Bates O 07.06.05
Peter Black Tan 07.06.05
William Graham Tan 17.05.05
Edwina Hart (Gweinidog) -
Mark Isherwood -
Laura Anne Jones O 17.05.05
Huw Lewis (Dirprwy Weinidog) -
Sandy Mewies -
Catherine Thomas Tan 01.01.06
Rhodri Glyn Thomas Tan 01.01.06
Leanne Wood Roedd Jocelyn Davies yn dirprwyo yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth Leanne Wood rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2005
3. Cyfarfodydd3.1 Yn ystod y cyfnod, cyfarfu’r Pwyllgor yn ffurfiol yn gyhoeddus ar 18 achlysur. Cynhaliwyd dau o’r cyfarfodydd hyn y tu allan i Gaerdydd, yn Abertawe a Bae Colwyn. 4. Ymweliadau4.1 Ymwelodd y Pwyllgor â Corus Living Solutions a Dangerpoint yng Ngogledd Cymru. Bu Aelodau’r Pwyllgor hefyd yn ymweld â Chasnewydd mewn cysylltiad â’i adolygiad o gamddefnyddio sylweddau. Roedd hyn yn cloi’r rhaglen o ymweliadau a ddechreuwyd yn ystod tymor y gwanwyn 2005. 5. Cylch Gwaith a Chyfrifoldebau5.1 Mae cylch gwaith y Pwyllgor wedi’i seilio ar bortffolio’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, sy’n canolbwyntio ar raglen y llywodraeth ar gyfer adfywio cymunedau yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd fwyaf difreintiedig.. Mae’n cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, mentrau yn erbyn tlodi, yr economi cymdeithasol, y sector gwirfoddol, diogelwch cymunedol a chysylltiadau â’r heddlu, y gwasanaeth tân, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, cyfiawnder ieuenctid a thai. Rhestrir cyfrifoldebau’r pwyllgorau pwnc yn y Rheolau Sefydlog, ac maent wedi’u cynnwys yn Atodiad 1. 6. Nodau ac Amcanion 6.1 Amlinellodd y Pwyllgor ei nodau yn y Blaenraglen Waith Strategol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mehefin 2005 a mis Rhagfyr 2006, ac fe’i cymeradwywyd yn dilyn y cyfarfod ar 18 Mai 2005. Y nod oedd mynd i’r afael â’r agenda yn erbyn tlodi a sicrhau llywodraeth well a symlach. Mae’r Pwyllgor yn credu bod materion yn ymwneud â thai yn allweddol i’r agenda hon. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai, wrth adolygu a datblygu polisi, yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle y bydd yn ategu yn hytrach na dyblygu polisïau a ddatblygir gan y Gweinidog. 7. Hynt y Gwaith7.1 Mae’r Pwyllgor wedi canolbwyntio ar ei adolygiadau polisi ac ar gyflwyniadau rheolaidd gan gyrff â diddordeb o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a chymunedol er mwyn gwella’i ddealltwriaeth o’r holl faterion sy’n rhan o’i gylch gwaith. Gan fod ganddo gylch gwaith mor eang, mae’r Pwyllgor wedi datblygu dulliau strategol o weithio sef, lle y bo’n bosibl, canolbwyntio ar un thema ar gyfer pob cyfarfod sy’n ategu’r adroddiadau rheolaidd gan y Gweinidog ar flaenoriaethau a amlinellir yn y Flaenraglen Waith Strategol.8. Datblygu ac Adolygu Polisi (Rheol Sefydlog 9.7)Tai ar gyfer Pobl Hy^n 8.1 Eglurodd y Gweinidog y sefyllfa ddiweddaraf i’r Pwyllgor o ran gweithredu argymhellion Adroddiad y Pwyllgor (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2004) ar 12 Ionawr 2005.Camddefnyddio Sylweddau8.2 Yng ngwanwyn 2004 dechreuodd y Pwyllgor ymchwiliad i gamddefnyddio sylweddau ac ar ôl derbyn cyflwyniadau ysgrifenedig i’r ymgynghoriad, penderfynodd ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar driniaeth a’r gwasanaethau triniaeth. Paratowyd adroddiad interim ar driniaeth a’r gwasanaethau triniaeth ac fe’i trafodwyd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2005. Yn dilyn y drafodaeth honno, gwnaed newidiadau a dosbarthwyd adroddiad diwygiedig i Aelodau cyn y toriad ym mis Gorffennaf. Yn ystod y cyfarfod ym mis Mehefin penderfynodd Aelodau eu bod yn dymuno edrych ar y Rhwystrau i Wasanaethau Triniaeth fel rhan o’r Adolygiad a chasglwyd tystiolaeth lafar yn y cyfarfod ar 6 Hydref 2005. Ystyriwyd adroddiad terfynol ar 25 Ionawr 2006 ac ar ôl diwygiadau a newidiadau pellach cymeradwywyd yr Adroddiad ac fe’i cyflwynwyd ar 24 Mawrth 2006. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal ail gam yr adolygiad o gamddefnyddio sylweddau gan edrych yn benodol ar sut i’w atal.Ailstrwythuro’r Heddlu 8.3 Ym mis Medi 2005, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cartref at y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i roi gwybod iddi bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cymeradwyo casgliadau’r Adroddiad gan Denis O’Connor CBE QPM, o Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi Cau’r Bwlch, sef arolwg o ba mor addas yw strwythur presennol yr heddlu yng Nghymru ac yn Lloegr at y diben. Yn dilyn hynny, gofynnodd y Gweinidog i’r Pwyllgor gynnal adolygiad o gasgliadau’r adroddiad, gan gasglu tystiolaeth ac ystyried ffyrdd gwahanol y gellid cyflawni nodau’r Ysgrifennydd Cartref yng Nghymru. Yn ystod mis Hydref a dechrau mis Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chymerodd dystiolaeth lafar. Cyhoeddwyd ei Adroddiad ar 23 Tachwedd ac fe’i trafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd. 8.4 Yn ystod mis Chwefror 2006, gofynnodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i’r Pwyllgor gynnal adolygiad arall o’r broses o ailstrwythuro’r heddlu ac i edrych yn benodol ar strwythurau democrataidd ar gyfer y dyfodol. Yn yr un modd â’r adolygiad blaenorol, dim ond cyfnod byr sydd gan y Pwyllgor i gynnal yr adolygiad hwn a’i nod yw cyflwyno adroddiad erbyn diwedd mis Mehefin 2006. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Mawrth a chynhaliwyd y sesiwn tystiolaeth lafar gyntaf ar 30 Mawrth. Materion eraill yn ymwneud â datblygu ac adolygu polisi8.5 Yn ogystal â’i adolygiadau polisi ei hun, mae’r Pwyllgor wedi cyfrannu at y prif ddatblygiadau polisi sy’n cael eu rhoi ar waith gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio. O’r cychwyn, mae’r Pwyllgor wedi nodi mai’r elfen allweddol yn agenda gyfan Cyfiawnder Cymdeithasol yw "tai". Mae wedi blaenoriaethu’r materion hynny sy’n ymwneud â thai yn Strategaeth Tai Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â digartrefedd, y stoc tai sy’n heneiddio, effeithlonrwydd ynni, strategaethau tai lleol a phroblemau arbennig ardaloedd gwledig. Mae’r Pwyllgor wedi bod yn goruchwylio CAFCASS yn dilyn y trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Ebrill 2005. 8.6 Mae’r Pwyllgor hefyd yn cydnabod y rhan y mae menter Cymunedau yn Gyntaf yn ei chwarae wrth geisio adfer y sefyllfa drwy helpu i adfywio’r cymunedau tlotaf yng Nghymru. Mae’n cael adroddiadau rheolaidd ar hynt y gwaith. 8.7 Mae’r Pwyllgor wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau Llywodraeth y Cynulliad ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac addasu tai, Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar gyfer Cymru, y Pecyn CymorthTai Fforddiadwy a menter gymdeithasol.8.8 Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan nifer o gyrff gwahanol y mae eu gwaith yn berthnasol i waith y Pwyllgor. Ymhlith y rhain mae Cyngor ar Bopeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, y Rhwydwaith yn erbyn Tlodi, Cyngor Defnyddwyr Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Prosiect Dyn, y Gwasanaethau Tân ac Achub, Cymorth Cymru, Prosiect Llwybrau Newydd, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gofalwyr Cymru, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall a sefydliadau sy’n gysylltiedig â phrosiectau mentrau cymdeithasol. Adroddiad y Gweinidog8.9 Drwy edrych ar ei hadroddiadau cyson mae’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog ym mhob cyfarfod. Yn dilyn ailstrwythuro amserlen y Pwyllgor o fis Ionawr 2006, mae’r Gweinidog yn mynychu pob yn ail gyfarfod. 9. Adolygu’r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (Rheol Sefydlog 9.7(iii))9.1 Dim ond un Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor, sef y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau. Fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, panel cynghori yw hwn yn unig; nid oes ganddo gyfrifoldeb ariannol ac nid yw’r Pwyllgor wedi craffu ar ei waith.10. Craffu ar Ddeddfwriaeth (Rheol Sefydlog 9.8(i)).Is-ddeddfwriaeth 10.1 Ym mis Mehefin 2003, cytunodd y Pwyllgor ar brotocol ar gyfer ymdrin ag is-ddeddfwriaeth. Cafodd y Pwyllgor amserlen fanwl o’r is-ddeddfwriaeth arfaethedig sydd ym mhortffolio’r Gweinidog ym mhob cyfarfod. Yn unol â’r weithdrefn y cytunwyd arni, ystyriwyd yr eitemau canlynol gan y Pwyllgor.
  • Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru
  • Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006
Deddfwriaeth Ewropeaidd10.2. Ar ôl i Banel y Cadeiryddion gymeradwyo cynigion y Pwyllgor Materion Allanol ac Ewropeaidd ar gyfer system o gael pwyllgorau pwnc i graffu ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd mewn ffordd fwy rhagweithiol, mae papurau wedi’u paratoi sy’n rhoi manylion yr holl ddogfennau perthnasol yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ac adfywio a osodwyd gerbron Senedd Ewrop. Rhoddir y cyfle i’r Aelodau nodi’r eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol. Hyd yma, nid oes unrhyw eitemau wedi’u nodi. 10.3 Yn dilyn cyhoeddi Rhaglen Waith Flynyddol y Comisiwn ym mis Ionawr 2006, cytunodd y Pwyllgor i ganolbwyntio ar Hawliau’r Plentyn, Polisi Cyffuriau, Troseddau sy’n gysylltiedig ag Alcohol a’r Gwasanaethau Post.Deddfwriaeth Sylfaenol10.4 Yn sgil Araith y Frenhines, penderfynodd y Cyfarfod Llawn y dylid cyfeirio’r Mesur Elusennau a’r Mesur Plant a Mabwysiadu i’w hystyried gan y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio. Ystyriwyd y ddau Fesur ac ni chynigiwyd unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, roedd Aelodau’n dymuno cefnogi’r newidiadau a gynigiwyd gan yr NSPCC a Chymorth i Fenywod o ran Cyswllt â Phlant yn y Mesur Plant a Mabwysiadu. Roedd y cynigion hyn yn ymwneud â phryderon a fynegwyd ynghylch bylchau yn y ddeddfwriaeth a bod llysoedd weithiau’n gwneud gorchmynion cyswllt yn amhriodol lle ceir achosion posibl o gam-drin yn y cartref. Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Gwladol dros Blant a Theuluoedd yn mynegi’r pryderon hyn. 11. Penodiadau (Rheol Sefydlog 9.8)11.1 Janice Gregory, William Graham (tan 17.05.05) a Mark Isherwood (o 06.07.06) oedd enwebeion y Pwyllgor ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Roedd y penodiadau a wnaed yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2005 tan 31 Mawrth 2006, lle yr ymgynghorwyd ag enwebeion y pwyllgor pwnc, fel a ganlyn:
  • Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl: Penodi Aelod Syrfëwr Meintiau Arbenigol (06.07.05)
  • Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau: Ail-benodi Cadeirydd/Aelodau (20.09.05)
  • Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl: Penodi Llywydd (14.11.05)
  • Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau: Penodi Aelodau (01.03.06)
12. Cyllideb ( Rheol Sefydlog 9.8)12.1 Ystyriodd y Pwyllgor gyllideb arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2005-2006 a gwnaeth sylwadau arni. Ceir llythyr y Cadeirydd yn nodi argymhellion y Pwyllgor yn Atodiad 2.13. Materion Trawsbynciol/Gweithio ar y Cyd 13.1 Ar 13 Mawrth 2006, roedd y Comisiynwyr Plant Cynorthwyol yn bresennol mewn cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal, i drafod Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant ar gyfer 2004-05.14. Y Cynlluniau Statudol 14.1 Mae’r Pwyllgor wedi ystyried cynlluniau statudol y Cynulliad Cenedlaethol o ran cysylltiadau â’r sector gwirfoddol, ac o ran y cynllun datblygu cynaliadwy yn ystod ei waith. Yn yr un modd, mae wedi ystyried gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Derbyniodd y Pwyllgor bapur ym mis Chwefror 2006 ar sut y mae’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn bodloni gofynion Adroddiad Cyfle Cyfartal 2004-05.14.2 Caiff materion sy’n ymwneud â Chydraddoldeb eu prif ffrydio i waith arferol y Pwyllgor. Fel rhan o’i raglen waith ar gyfer 2005-06, ystyriodd y Pwyllgor materion fel:
  • Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fynd i’r Afael â Cham-drin yn y Cartref. Derbyniwyd adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran gweithredu strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ionawr. Clywodd y Pwyllgor hefyd gyflwyniadau gan Brosiect Dyn, cynllun i helpu dynion sy’n dioddef trais yn y cartref a bu’r Comisiynydd Plant mewn Pwyllgor i drafod effaith cam-drin yn y cartref ar blant.
  • Derbyniodd y Pwyllgor bapur ar sut y mae’r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
  • Ystyriwyd Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac addasiadau tai drwy gydol y flwyddyn a chyhoeddodd y Gweinidog adolygiad o bob agwedd yn ystod tymor y gwanwyn 2005. Mae hwn y fater y mae’r Gweinidog a’r Pwyllgor wedi mynd yn ôl ato sawl gwaith.
  • Ystyriodd y Pwyllgor ymgynghoriad y Swyddfa Gartref ar Fasnachu mewn Pobl.
14.3 O ran datblygu cynaliadwy, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yng nghyfarfod mis Chwefror 2006 ar sut y mae’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn prif ffrydio datblygu cynaliadwy.15.Y Rhaglen ar gyfer y Dyfodol15.1 rhestrir blaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfergyfer 2006-2007 yn y Flaenraglen Waith Strategol. Mae’r pynciau allweddol yn cynnwys:
  • Tai
  • Camddefnyddio Sylweddau ac Alcohol
  • Trais yn y Cartref
  • Trosedd ac Anhrefn
  • Agenda’r Mentrau yn erbyn Tlodi - gan gynnwys adfywio cymunedau
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Y Gwasanaethau Tân a’r Heddlu
  • CAFCASS
  • Craffu ar is-ddeddfwriaeth, yn enwedig is-ddeddfwriaeth sydd yn ymwneud â’r Ddeddf Tai yng Nghymru
  • Craffu ar Ddeddfwriaeth Ewropeaidd
  • Craffu ar Ddeddfwriaeth Sylfaenol a gafodd ei chynnwys yn Araith y Frenhines a’i chyfeirio i’w thrafod yn y Pwyllgor gan y Cyfarfod Llawn.
Janice Gregory
Cadeirydd
Atodiad 1Cyfrifoldebau’r Pwyllgorau Pwnc Mae Rheol Sefydlog 9.7 a 9.8 yn rhestru cyfrifoldebau’r Pwyllgorau Pwnc. Cyfrifoldebau 9.7 Rhaid i bob Pwyllgor Pwnc:(i) gyfrannu at ddatblygu polisïau’r Cynulliad o fewn y meysydd y mae’r Gweinidog perthnasol yn atebol i’r Cynulliad amdanynt.
(ii) cadw llygad ar y gwariant a’r weinyddiaeth sy’n gysylltiedig â’u gweithredu; a
(iii) cadw llygad ar waith cyflawni’r swyddogaethau cyhoeddus yn y meysydd hynny gan gyrff cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.9.8 O fewn y meysydd perthnasol, rhaid i bob Pwyllgor Pwnc hefyd: (i) gynghori ar ddeddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaethol a deddfwriaeth Ewropeaidd arfaethedig a fydd yn effeithio ar Gymru, gan gynnwys cyflawni ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 24;
(ii) rhoi cyngor i Gabinet y Cynulliad ar faterion sy’n ymwneud â dyrannu cyllideb y Cynulliad yn unol â Rheol Sefydlog 21;
(iii) cyflawni ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 23 (cwynion);
(iv) cyflawni unrhyw swyddogaethau a neilltuir iddo o dan y Cod Ymarfer ar Weithdrefn Penodiadau Cyhoeddus a wneir gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22; a
(v) ystyried materion y bydd y Cynulliad yn eu cyfeirio ato o fewn ei feysyddAtodiad 2Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog yn cyfleu argymhellion y Pwyllgor o ran cyllideb arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2005-06 (dyddiedig 25.05.05)Cylch Cynllunio Cyllideb 2005Ysgrifennaf i gofnodi’n ffurfiol barn y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ar eich papur ar gylch cynllunio cyllideb 2005 a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Mai 2005. I gychwyn hoffwn nodi gwerthfawrogiad y Pwyllgor o’r papur, sy’n adlewyrchu’r polisïau y mae eisoes wedi’u hyrwyddo a’u blaenoriaethu ar gyfer y 12 - 18 mis nesaf. Mae’r Pwyllgor unwaith eto’n unfrydol yn ei farn bod tai yn ganolog i’r agenda Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae’n amlwg eu bod am weld mwy o adnoddau yn cael eu dyrannu pe bai hynny’n bosibl. Nodwyd y bydd y gostyngiad yn y gyllideb Cefnogi Pobl yn cael effaith ar eich cyllideb ac er mwyn parhau i gefnogi pobl sy’n agored iawn i niwed, bydd yn rhaid i chi gyllido prosiectau o’ch cyllideb eich hun i wneud iawn am y gostyngiad hwn. O ran camddefnyddio sylweddau, roedd Aelodau yn gwerthfawrogi’r ffaith fod y swm o arian a ddyrannwyd i hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac mae effaith buddsoddiad bach wedi darparu gwerth rhagorol am arian. Teimlai Aelodau’r Pwyllgor fod y gyllideb, nid yn unig yn gorfod talu’r gost o ddiddym’r prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl, ond hefyd bod rhaid dechrau lleihau’r diffyg ariannol sydd wedi digwydd oherwydd bod rhywfaint o’r arian a wariwyd ar y grantiau hyn gynt wedi ei wario ar y lwfans atgyweiriadau mawr. Pwysleisiodd yr Aelodau pa mor bwysig yw’r grant hwn a gofynnwyd bod y system yn sicrhau hyblygrwydd er mwyn galluogi awdurdodau i ddarparu’r cyfleusterau sydd eu hangen ar bobl anabl. Nodwyd bod y grant cyfleusterau i’r anabl yn effeithio ar y gyllideb ehangach ac o ystyried y cyfyngiadau ariannol, mae’n hanfodol sicrhau’r gwerth gorau am arian.Mae tai fforddiadwy yn destun pryder i Aelodau ac awgrymwyd y dylid sicrhau rhagor o arian o’r gyllideb ganolog er mwyn galluogi i’ch gwaith ar dai fforddiadwy barhau a datblygu ymhellach. O ran digartrefedd, gwely a brecwast/llety dros dro, gofynnwyd i chi faint o’r grant tai cymdeithasol a fyddai’n cael ei wario ar lety dros dro mewn perthynas â digartrefedd. Nodwyd y byddai cost i awdurdodau lleol oherwydd y ddeddfwriaeth ynghylch llety gwely a brecwast y mae’n rhaid i’ch cyllideb ei gynnwys. Roedd y pwynt arall a godwyd mewn perthynas â’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. Cydnabuwyd pa mor boblogaidd a llwyddiannus y bu’r rhaglen hon a’r gwerth rhagorol am arian a gafwyd hyd yn hyn. Awgrymwyd y dylid sefydlu cronfa debyg i’r rhaglen hon ar gyfer cyfleusterau ieuenctid, maes a drafodwyd gan y Pwyllgor sawl gwaith a’r broses anghyson o ddosbarthu cyfleusterau o’r fath ledled Cymru. Cafwyd awgrym defnyddiol gennych eich bod yn ystyried creu rhestr o’r holl gyfleusterau cymunedol sy’n bodoli. Cafodd y pwynt hwn dderbyniad da iawn gan y Pwyllgor. Gobeithio y bydd barn y Pwyllgor yn ddefnyddiol ar gyfer eich trafodaethau gyda’ch cydweithwyr yn y Cabinet ar gyllideb 2005-06. Rwy’n copïo’r llythyr hwn i holl Aelodau’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help