BCC(3) 39
Mae Grŵp Barcud Derwen yn falch o’r cyfle hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Darlledu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cefndir
Grŵp o gwmnïau adnoddau teledu yw Barcud Derwen a ffurfiwyd, a gofrestrwyd, ac a berchenogir ac sydd wedi’i leoli i raddau helaeth yng Nghymru.
Yng Nghymru mae’r cwmni’n cynnwys: Barcud - stiwdio, adnoddau darlledu allanol, ac adnoddau ôl-gynhyrchu fideo a sain sydd wedi’u lleoli yng Nghaernarfon; Derwen - cwmni ôl-gynhyrchu fideo yng Nghaerdydd; Eclipse Creative - cwmni cynllunio graffeg a dylunio cynnwys ar gyfer y we yng Nghaerdydd; Safon - cwmni digwyddiadau yng Nghaerdydd; Awen - cwmni adnoddau addysgol amlgyfrwng yng Nghaerdydd; Omni - cwmni sy’n ymorol am ddarlledu allanol mewn manylder uwch yng Nghaerdydd; Cymru International - cwmni sy’n gydfenter ar gyfer dosbarthu rhaglenni; 422 - cwmi graffeg gyfrifiadurol ym Mryste; Burning Gold - cwmni cynhyrchu ym Mryste; Arc - cwmni ôl-gynhyrchu yn Glasgow a Chaeredin; Picardy - cwmni cynhyrchu corfforaethol yn Glasgow; The Farm - cwmni ôl-gynhyrchu fideo a sain yn Nulyn ac Aontel - cydfenter ar gyfer darlledu allanol yn Galway.
Mae Barcud Derwen hefyd yn gyfrifol am ddarlledu trafodion y Cynulliad Cenedlaethol a’i bwyllgorau ar y teledu ac ar y we.
Mae’r cwmni’n cyflogi ymron i 200 o staff llawn-amser ac mae’n gwmni pwysig o safbwynt cyflogi gweithwyr technegol llawrydd ym myd teledu. Tua £16m fydd trosiant y grŵp eleni. Mae’r cwmni’n eiddo i’w gyfranddalwyr, 233 i gyd - y bu i nifer ohonynt fuddsoddi yn y cwmni ym 1990 pan werthodd y cwmni gyfranddaliadau er mwyn cael cyllid i adeiladu stiwdio bwrpasol gwerth £2m, sef y stiwdio annibynnol fwyaf y tu allan i Lundain ar y pryd. Mae’r stiwdio wedi bod yn cael ei defnyddio’n bennaf i gynhyrchu rhaglenni i S4C, ond mae hefyd wedi cael ei defnyddio yn y gorffennol gan BBC Question Time ac eraill, yn ogystal ag yn ddiweddar i gynhyrchu cyfres i blant o oedran cyn-ysgol ar gyfer CiTV / ITV.
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus
Rydym ni o’r farn mai Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB) sydd o ansawdd uchel, a gyllidebir yn dda ac a amserlennir mewn ffordd gystadleuol sy’n tanategu ecoleg ddarlledu’r Deyrnas Unedig. Mae PSB gwirioneddol yn fwy na chyfres o raglenni hanner-awr; ar ei orau mae’n helaethach na chyfanswm y rhannau sy'n perthyn iddo. Mae S4C wedi rheoli’r rôl hon yn llwyddiannus, gan ddeall fod ganddi swyddogaeth sy’n fwy na chomisiynu a darlledu rhaglenni teledu yn unig. Mae ganddi swyddogaeth ddiwylliannol ychwanegol sy’n ymwneud â chefnogi, datblygu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Mae’r BBC hefyd yn cyflawni swyddogaeth ychwanegol. Yng Nghymru mae’n cyfrannu tuag at ddealltwriaeth am genedligrwydd Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae’n gwneud pobl yn ymwybodol o’r iaith Gymraeg a hanes Cymru. Afraid dweud bod ei swyddogaeth o ran ysgogi trafodaeth am wleidyddiaeth a materion cyfoes yn allweddol bwysig. Ledled y DU mae’r BBC hefyd yn ysgogi trafodaeth am faterion cyhoeddus a materion diwylliannol. Mae hyn oll yn ychwanegol at greu rhaglenni poblogaidd sy’n gosod meincnod (yn olygyddol ac yn dechnegol) y gellir ei ddefnyddio i fesur rhaglenni a darlledwyr eraill. Un ffordd amrwd o ddisgrifio’i swyddogaeth fyddai trwy ddweud "bod y BBC yn cadw’r darlledwyr eraill yn onest”. Gall wneud hyn oherwydd ei gyllid gwarantedig, ond mae’r cyllid hwnnw hefyd yn ei roi dan orfodaeth i gyflawni nifer o rwymedigaethau.
Ymddengys yn anochel y bydd pwysau masnachol a newid technolegol yn gweithio law yn llaw i sicrhau bod holl weddillion rhaglenni PSB yn diflannu oddi ar ITV ac, mwy na thebyg, oddi ar Channel 4 a Five. Erys y cwestiwn: a ddylai’r darlledwyr masnachol hyn dderbyn arian o bwrs y wlad i gynhyrchu rhaglenni? Os mai 'dylent’ yw’r ateb, am y dylai rhaglenni PSB gael eu gweld ar bob sianel - ac am fod y rhaglenni PSB gorau mewn gwirionedd yn difyrru, yn bywiogi ac yn herio, ac am na ddylai’r gwylwyr fod yn ymwybodol eu bod yn gwylio rhaglenni PSB - yna sut mae talu am y rhaglenni hyn?
Ymddengys y byddai brigdorri cyllid y BBC yn gosb annheg i’r BBC am sefyllfa nad yw’n gyfrifol am ei chreu. Ymddengys y byddai cynyddu ffi’r drwydded a defnyddio’r incwm ychwanegol i gyllido PSB yn gosb annheg i’r gwyliwr. Un awgrym yr hoffem ni ei hybu yw caniatáu i’r BBC ddangos hysbysebion yn ystod oriau brig cyfyngedig e.e. 19:00-21:00. Gellid rhannu’r incwm hwn wedyn rhwng y BBC - a’r cyllid hwnnw o bosib wedi’i neilltuo ar gyfer defnydd penodol - a chronfa a fyddai’n cael ei defnyddio i roi comisiynau i gynhyrchwyr a darlledwyr baratoi a throsglwyddo rhaglenni PSB yn ystod oriau brig.
Byddai caniatáu i’r BBC gadw rhywfaint o’r incwm yn ei annog i greu rhaglenni poblogaidd, a byddai darlledu’r rhain am 19:00 ar ôl y newyddion lleol yn helpu’r newyddion a’r rhaglenni "masnachol” fel ei gilydd.
Er mwyn darparu cyllid i gynhyrchu rhaglenni PSB o’r gronfa hon byddai’n rhaid wrth ryw ddull o dalu i/gorfodi darlledwyr i ddangos y rhaglenni, oblegid pa gymhelliad fyddai gan ITV, C4, Five ac yn y blaen i’w dangos, yn enwedig a hwythau’n cael eu cynhyrchu gan Gynhyrchwyr Annibynnol? Gallai’r darlledwyr ddadlau na fyddai rhaglenni PSB yn denu digon o refeniw hysbysebu i dalu am y slot o’u cymharu â’r rhaglenni y byddent hwy’n eu dangos ar yr amser hwn pe baent yn cael dewis o’u gwirfodd.
Lluosogrwydd
Mae’r cwmni’n pryderu ynghylch y gostyngiad yn y rhaglenni a gynhyrchir yn lleol gan ITV Wales (HTV). Rydym ni o’r farn ei bod yn bwysig i Gymru fel cenedl ei bod yn cael cyfle i'w gweld ei hun yn cael ei hadlewyrchu ar y teledu. Yn ogystal â chynnig cystadleuaeth greadigol a newyddiadurol i BBC Wales mewn rhaglenni newyddion, rydym ni o’r farn ei bod yn allweddol bwysig nad yw cynhyrchu rhaglenni Saesneg yng Nghymru’n dod i fod yn faes arbennig sy’n eiddo i’r BBC yn unig. O gofio sylwadau Cadeirydd Gweithredol ITV, Michael Grade, nid ydym yn ffyddiog ynglŷn â dyfodol ITV Wales fel endid ar wahân. Rydym yn pryderu ynghylch y ffaith bod cyllidebau ar gyfer y rhaglenni gan ITV Wales sydd yn bodoli wedi gostwng yn ddramatig dros y pedair blynedd ddiwethaf. Yn ogystal ag achosi dirywiad mewn safonau technegol - sy’n destun gofid i gwmni sy’n ymfalchïo mewn cynnal y safonau uchel - mae cyllidebau llai’n arwain at lai o ymchwil, llai o arloesi wrth gynhyrchu rhaglenni, fformatau saffach ac, yn y pen draw, llai o wylwyr. Hoffai Barcud Derwen weld astudiaeth yn cael ei chynnal i bwyso a mesur dichonolrwydd tynnu ITV Wales allan o fframwaith ITV. Mae Ulster TV, SMG yn yr Alban a Channel Television yn llwyddo i fodoli y tu allan i’r rhan o ITV sy’n eiddo i Granada, felly pam na all Cymru fod â’i sianel fasnachol annibynnol ei hun a allai fod â chylch gwaith PSB ac felly geisio cymhorthdal os yw’n berthnasol?
Cynhyrchu Rhaglenni ar Gyfer y Rhwydweithiau
Mae’n destun gofid bod cyn lleied o raglenni a gynhyrchwyd yng Nghymru’n cael eu gweld ar brif rwydweithiau’r DU. Mae Barcud Derwen yn darparu adnoddau’n gyson i gwmnïau sy’n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y rhwydweithiau yn ogystal â chynhyrchwyr sy’n gweithio i S4C a BBC Wales ac mae’n hyderus bod y sgiliau cynhyrchu ar gael yng Nghymru i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer y rhwydweithiau. Hoffem weld targedau penodol o ran rhaglenni a gynhyrchwyd yng Nghymru’n cael eu gosod ar gyfer BBC1/2, ITV1 a C4 yn hytrach na thargedau o ran "ardaloedd y tu allan i Lundain/y tu hwnt i’r M25”. Mae Barcud Derwen yn croesawu’r Cynllun Denu Talent ac yn hyderus y bydd y cynllun hwn yn arwain at welliant ym mhresenoldeb rhaglenni o Gymru ledled y DU.
Teledu Manylder-Uwch (HD)
Buddsoddi
Wrth i sianeli manylder-uwch ddod i fod yn fwyfwy amlwg, mae’r gofyn am adnoddau manylder-uwch wedi cynyddu. Megis gyda phob technoleg newydd, mae’n rhaid i’r cwmnïau sy’n addasu gyntaf ymdopi â chostau uwch. Wrth i’r dechnoleg ddod i fod ar gael yn fwy eang, mae’r costau’n gwastatáu. Mae camerâu a pheiriannau fideo bellach yn weddol gyffredin ond yn dal i gostio mwy nag offer manylder-safonol. Fodd bynnag, Barcud Derwen, trwy’i is-gwmni Omni, y mae’n llwyr berchen arno, yw’r unig gwmni yng Nghymru i ddylunio ac archebu "sganar” (ystafell reoli symudol) ar gyfer darlledu allanol mewn manylder uwch. Fodd bynnag, mae’r buddsoddiad hwn a gostiodd £3.7m yn fuddsoddiad sylweddol gan y cwmni. Rydym ni o’r farn ei bod yn orfodol bod adnoddau manylder-uwch ar gael yng Nghymru, nid yn unig o safbwynt economaidd, ond hefyd er mwyn galluogi pobl Cymru i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer pobl Cymru, yn hytrach na gorfod llogi'r adnoddau hynny’n gyson o'r tu allan.
Mae Barcud Derwen hefyd wedi bod yn falch o’r ffaith ein bod yn darparu criwiau a thechnegwyr Cymraeg eu hiaith ar gyfer rhaglenni lle mae’r gallu i siarad yr iaith yn bwysig. Mae’n allweddol bwysig bod hyn yn parhau yn ystod ac yn dilyn y newid i fanylder uwch.
Fodd bynnag, mae’n destun pryder i ni mai Derwen yw’r unig gwmni ôl-gynhyrchu annibynnol sydd ar ôl yng Nghaerdydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cwmnïau sefydledig megis Pyramid a POV wedi cau. Mae Mwnci wedi cael ei brynu gan gwmni cynhyrchu Boomerang. O ystyried y lefelau sylweddol o fuddsoddiadau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal canolfan ôl-gynhyrchu o’r ansawdd uchaf, ac yna o gofio’r buddsoddiad cynyddol sy’n angenrheidiol er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad teledu manylder-uwch, mae’n annerbyniol bod BBC Cymru, ac yntau’n cael ei gyllido trwy ffi’r drwydded, yn gwerthu’r gallu golygu sydd ganddo dros ben. Er bod y BBC wedi cynyddu ei adnoddau technegol yn sylweddol er mwyn gwasanaethu Dr Who, a bod y BBC yn rhoi pwyslais mawr ar y ffaith bod y gyfres hon a ddangosir ar y rhwydwaith wedi dod â swyddi a buddsoddiadau i Gaerdydd, ni all fod yn dderbyniol bod y gallu cynhyrchu hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i danseilio cwmnïau lleol sydd wedi buddsoddi arian preifat yn y sector ôl-gynhyrchu.
S4C
Er bod nifer o sianeli manylder-uwch ar gael ar deledu lloeren digidol, nid yw sianeli manylder-uwch ond newydd ddechrau bod ar gael ar deledu daearol digidol. Ymddengys y bydd gan Freeview ddigon o ystod tonfeddi ar gyfer 4 sianel mewn manylder uwch. Bydd un o’r sianeli hyn yn cael ei chadw ar gyfer sianel BBC HD. Rydym ni o’r farn bod yn rhaid i ystod tonfeddi fod ar gael ar gyfer sianel mewn manylder uwch yn Gymraeg - a honno’n cael ei rhedeg gan S4C. Heb hyn, bydd S4C mewn manylder safonol yn prysur ddod i gael ei hystyried yn sianel ail-ddosbarth sy’n hen-ffasiwn ac yn israddol - gan arwain at golli statws a gwylwyr.
Dosbarthu Rhaglenni
Mae Grŵp Barcud Derwen, trwy ei gydfenter Cymru International, yn dosbarthu rhaglenni o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Yn y 12 mis diwethaf mae’r cwmni wedi gwerthu rhaglenni â chyfanswm gwerth o fwy na $1.3m. Caiff yr arian hwn ei drosglwyddo’n ôl i gynhyrchwyr annibynnol a darlledwyr yng Nghymru fel elw ar eu buddsoddiad.
Cymru International yw’r unig gwmni dosbarthu rhaglenni yng Nghymru. Heb gwmnïau sy’n gwerthu rhaglenni wedi’u cwblhau, nid oes gwerth ar yr hawliau eiddo deallusol sydd yn y rhaglenni. Trwy ei gydfenter mae Grŵp Barcud Derwen yn sicrhau bod 50% o’r comisiwn a geir wrth werthu’n dychwelyd i Gymru.
Yn ogystal ag unrhyw fenthyciadau a roddir gan Cymru International ar gyfer dosbarthu rhaglenni, mae Grŵp Barcud Derwen yn buddsoddi mewn rhaglenni o Gymru sydd wedi’u bwriadu ar gyfer y farchnad ryngwladol. Mae’r buddsoddiad hwn fel arfer ar ffurf gohirio’r tâl am logi adnoddau - mae’r prosiectau diweddar sydd wedi elwa o hyn yn cynnwys "Yr Afon”, cyfres o 6 rhaglen 1 awr o hyd gan Green Bay (a werthwyd eisoes i National Geographic Channels International), "Iiiha”, cyfres o 10 rhaglen 15 munud o hyd gan Apollo (a werthwyd eisoes i Ffrainc). Mae hyn yn galluogi prosiectau na fyddent o bosib yn cael eu cynhyrchu neu’u cyllido fel arall i fynd rhagddynt ac, yn y pen draw, i ddwyn elw i’r cynhyrchwyr ac i Barcud Derwen fel buddsoddwyr. Byddai’r cwmni wedyn yn ceisio ail-fuddsoddi’r elw mewn cynyrchiadau pellach.
Barcud Derwen
Cyswllt
Bryn Roberts
b
ryn@barcudderwen.com07970112903
