Galw am Dystiolaeth

Ymchwiliad i Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Darlledu yn cynnal ymchwiliad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ac mae’n galw ar y rhai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Ar 5 Mawrth 2008, sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bwyllgor Darlledu i gynnal ymchwiliad i’r canlynol ac i adrodd yn ôl arnynt:

  • Dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg a Saesneg ei iaith yng Nghymru;

  • Effeithiau’r newid i ddigidol a chreu llwyfannau darlledu newydd ar gynhyrchu a darparu rhaglenni a chynnwys digidol o Gymru ac yng Nghymru.

Materion Allweddol

Wrth i natur y farchnad gyfryngau newid yn gyflym a chynnig ffrwydrad o ddewis o ran cynnwys, gall yr oblygiadau cenedlaethol a lleol fod yn heriol. Mae hyn yn arbennig o wir o ran y ffordd y gallai dinasyddion gael eu galluogi a’u hannog i gymryd rhan mewn materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol sydd o bwys lleol.

Er bod aelodau’r pwyllgor yn ymwybodol o rai o’r materion ehangach sy’n ymwneud â newidiadau i’r farchnad gyfryngau, maent am glywed sut y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y farchnad ddarlledu yng Nghymru, nid yn unig o ran y problemau sy’n ein hwynebu o ganlyniad i ddatblygiad y farchnad ond hefyd o ran y cyfleoedd a’r disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Er nad yw’r pwyllgor am gyfyngu aat y math o dystiolaeth y byddai cyfranwyr am ei darparu, mae’n awyddus iawn i ystyried sut y mae’r farchnad newidiol yn effeithio ar y broses o feithrin cysylltiadau â dinasyddion yng Nghymru a’r cyfleoedd ar gyfer diogelu elfennau hanfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar nifer o lwyfannau, a hynny er mwyn hwyluso marchnad gyfryngau lluosog iach yng Nghymru sy’n gallu meithrin cysylltiadau yn llawn â phobl Cymru ac sy’n atebol i bobl Cymru.

Camau i’w Cymryd

Gwahoddir partïon sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener 23 Mai 2008 fan bellaf.  Os yn bosibl, anfonwch fersiwn electronig dros yr e-bost i’r cyfeiriad isod: Community.Culture.Comm@Wales.gsi.gov.uk

Os hoffech drafod gwaith yr ymchwiliad, dylech gysylltu â Chris Reading, clerc y pwyllgor (manylion cyswllt isod), neu Aled Eirug, ymgynghorydd y pwyllgor, drwy anfon e-bost i aled.eirug@wales.gov.uk

Nodwch a fyddai diddordeb gennych mewn cyflwyno eich safbwyntiau i’r pwyllgor yn bersonol.

Noder

Mae’n arferiad gan y Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgorau. O ganlyniad, gallai eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth atodol i adroddiad. Nodir eich enw fel awdur y dystiolaeth os na wnewch gais i’r gwrthwyneb, er na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth arall sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y gallai fod angen datgelu gwybodaeth a ddarperir gennych os gwneir cais am wybodaeth a gyflwynir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 hyd yn oed os na chyhoeddwyd hyn.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw, yn eich barn chi, yn addas i’w datgelu’n gyhoeddus, neu os nad ydych am gael eich enwi fel awdur y dystiolaeth, dylech nodi hyn yn amlwg, ynghyd â’ch rhesymau dros beidio â datgelu’r wybodaeth dan sylw. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Daw’r pwyllgor i ben ar 18 Gorffennaf 2008.

Partneriaid a Help