Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru I Bwyllgor Darlledu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn croesawu’r canfyddiadau ac yn cynnig yr ymateb canlynol i’r wyth ar hugain argymhelliad yn yr adroddiad.

Argymhellion

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu pwyllgor sefydlog ar gyfathrebu ac y dylai fod yn gyfrifol am graffu ar waith Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â darlledu a’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol cysylltiedig, datblygu band eang, IPTV a thechnolegau cysylltiedig.

Mater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Os byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu sefydlu pwyllgor sefydlog byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn barod i gynnig pob cymorth i’r pwyllgor â’i waith.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

2. Dylai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, ar y cyd â Gweinidogion eraill, ddatblygu strategaeth gyfathrebu ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dylai’r strategaeth hon gynnwys y meysydd polisi o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud â pholisïau ar ddarlledu, y diwydiannau creadigol, iaith, diwylliant a band eang. Dylai’r meysydd hyn gael eu dwyn ynghyd yn ffurfiol yn un uned bolisi drawsbynciol, gan weithio ar draws y strwythur adrannol presennol.

Derbynnir yr Argymhelliad yn Rhannol

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth gyfathrebu integredig. Bydd y strategaeth yn cynnwys datblygu seilwaith band eang ynghyd â’r diwydiannau creadigol a hefyd bennu blaenoriaethau ar gyfer darlledu. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried materion strwythurol a materion staff wrth ddatblygu’r strategaeth hon. Cyn hyn, sefydlwyd grŵp trawsbynciol yn cynnwys swyddogion o Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Adran Dreftadaeth er mwyn mynd i’r afael â gwaith yn y maes hwn. Bydd y grŵp hwn hefyd yn datblygu ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Gam 2 ail adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

3. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru feithrin perthynas agosach â darlledwyr a rheoleiddwyr. Dylai gydweithio â sefydliadau eraill, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch, cwmnïau band eang a chwmnïau IPTV arbenigol, a hynny er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth a chyfrannu’n effeithiol i’r broses o ddatblygu’r sector darlledu, y diwydiannau creadigol a’r defnydd effeithiol o dechnolegau newydd.

Derbynnir yr Argymhelliad

- Cred Llywodraeth Cynulliad Cymru y gall ystod eang o sefydliadau gyfrannu at weithredu strategaeth gyfathrebu integredig. Rydym yn cynnal cysylltiadau agos â’r darlledwyr ynghyd ag ystod eang o sefydliadau yn y sector darlledu a’r sector cyfathrebu. Byddwn yn anelu at ddatblygu’r cysylltiadau hyn yn y dyfodol a sicrhau y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng Gweinidogion a’r darlledwyr, y rheoleiddwyr a’r sefydliadau cysylltiedig.

4. Dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru ill dau fonitro proses ymgynghori Ofcom ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, ac ymateb yn amserol i adolygiad presennol Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus dros y flwyddyn nesaf.

Derbynnir yr Argymhelliad

- ymatebodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i gam cyntaf proses ymgynghori Ofcom ynghylch Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae’n fwriad gennym yn ogystal i ymateb i ail gam y broses honno a cheisio dylanwadu ar ymateb y Llywodraeth i argymhellion Ofcom maes o law. Er nad yw darlledu yn fater sydd wedi’i ddatganoli adlewyrcha hyn ein hymrwymiad i sicrhau y caiff buddiannau dinasyddion Cymru eu hadlewyrchu’n llwyr yn natblygiad polisi’r DU yn y maes hwn sy’n datblygu. Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn parhau i gyfarfod â Gweinidogion perthnasol Llywodraeth y DU er mwyn trafod yr agweddau hynny ar bolisïau darlledu sy’n berthnasol i Gymru.

5. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i chynrychioli gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar Grŵp Cydgyfeirio Llywodraeth y DU, sydd wrthi’n adolygu’r holl faes darlledu a rheoleiddio yn y DU. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael cynrychiolaeth uniongyrchol ar y Grŵp Cydgyfeirio, a hynny’n ddiymdroi.

Derbynnir yr Argymhelliad yn Rhannol

- sefydlwyd grŵp cydgyfeirio Llywodraeth y DU er mwyn cyfrannu mewnbwn technegol ar lefel uchel at y gwaith o ddatblygu polisi’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn y maes hwn. Rydym wrthi’n trafod â’r Adran hon sut y gallai gwaith y grŵp adlewyrchu yn y ffordd orau bosibl fuddiannau dinasyddion Cymru a chyfrannu’n fwyaf effeithiol at ddatblygu polisi ar gyfer cenedl a rhanbarthau’r DU.

6. Dylai Gweinidogion Cymru sefydlu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gydag Ofcom, yn debyg i’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n bodoli rhwng Ofcom a Llywodraeth yr Alban.

Derbynnir yr Argymhelliad

- mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo er mwyn datblygu Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ofcom. Bydd y Memorandwm yn ceisio rhoi trefn ar y berthynas waith gynhyrchiol iawn sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddau sefydliad a’i datblygu.

7. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio’n agos â darlledwyr a’r sector annibynnol yng Nghymru er mwyn canfod a meithrin talent yng Nghymru a datblygu cynyrchiadau annibynnol.

Derbynnir yr Argymhelliad

- cred Llywodraeth Cynulliad Cymru fod ein nod o sicrhau bod cyfran uwch o waith comisiynu ar gyfer y rhwydweithiau yn deillio o Gymru yn cynrychioli her bwysig ar gyfer darlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol Cymreig. Ein nod fydd datblygu gwaith ar y cyd, gan geisio datblygu’r doniau a fydd yn ein galluogi i elwa i’r eithaf ar y cyfleoedd cyffrous sydd bellach ar y gweill.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio’n agos â Skillset, sef y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Cyfryngau Creadigol sy’n gynnwys teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau rhwyngweithiol er mwyn sicrhau bod anghenion penodol y diwydiant yng Nghymru yn cael eu bodloni ac y darperir hyfforddiant addas. Mae Skillset Cymru wedi datblygu a chymeradwyo Cytundebau Sgiliau Sector gyda rhanddeiliaid yng Nghymru (gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru) sy’n amlinellu’r materion penodol y mae angen i’r sector eu hystyried a chamau penodol sy’n cynnwys datblygu rhaglenni hyfforddiant newydd a gymeradwywyd gan fusnesau a datblygu darpariaeth ddysgu addas.

Mae’r Gronfa Eiddo Deallusol yn parhau’n agwedd ganolog ar y cymorth a ddarperir i’r sector annibynnol. Sefydlwyd y Gronfa hon fel rhan o Strategaeth Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cynulliad Cymru a lansiwyd yn 2004. Sefydlwyd y Gronfa Eiddo Deallusol er mwyn darparu cyllid bwlch ar gyfer prosiectau creadigol ac unigol ym maes Eiddo Deallusol, fel cyfres deledu neu ffilm, a leolir yng Nghymru. Cyllid Cymru sy’n rheoli’r Gronfa Eiddo Deallusol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae eisoes wedi buddsoddi dros £6m mewn 18 o asedau eiddo deallusol ym maes ffilm teledu a’r cyfryngau newydd. Mae hyn wedi arwain at wariant economaidd diwydiannol uniongyrchol gwerth dros £13m ar griwiau, lleoliadau, technegwyr, gwasanaethau ôl-gynhyrchu a doniau Cymreig.

8. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu a chyhoeddi asesiad blynyddol o’r modd y caiff Cymru ei phortreadu ar rwydweithiau pob un o’r prif ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ar y newyddion.

Derbynnir yr Argymhelliad yn Rhannol

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cryn bwyslais ar gryfhau portread y prif rwydweithiau darlledu o Gymru. Mater i Ymddiriedolaeth y BBC, awdurdod S4C ac Ofcom fydd asesu pa mor llwyddiannus fu’r ymdrechion hyn. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio ag Ofcom er mwyn gweld sut y gallai’r agwedd hon ar ei gwaith ddatblygu yn y dyfodol. Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i drafod y portread o Gymru ar allbwn y rhwydweithiau fel rhan o’u cyfarfodydd rheolaidd gyda’r darlledwyr.

9. O ran newyddion y BBC, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried ymateb uwch reolwyr y BBC i adroddiad King, gan fonitro’r modd y mae’r BBC yn rhoi ei chynllun gweithredu ar waith. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn.

Derbynnir yr Argymhelliad yn Rhannol

- Ymddiriedolaeth y BBC fydd yn gyfrifol am fonitro ymateb rheolwyr y BBC i adroddiad King. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl i Ymddiriedolaeth y BBC a Chyngor Cynulleidfa Cymru gyhoeddi ei asesiad o effeithiolrwydd ymateb y BBC i adroddiad King maes o law. Bydd

Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl trafod yr asesiad hwn ag Ymddiriedolaeth y BBC a Chyngor Cynulleidfa Cymru.

Y BBC

10. Dylai Ofcom a Llywodraeth Cynulliad Cymru fonitro cynnydd y BBC o ran cyrraedd y targed o 5% ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith. Dylid pennu targedau hefyd ar gyfer y sianeli eraill sy’n darparu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus.

Derbynnir yr Argymhelliad

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio ei fod o’r farn y dylai pob un o’r sianeli sy’n darparu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gomisiynu o leiaf 5% o raglenni’r rhwydwaith gan gynhyrchwyr Cymreig. Mater i Ymddiriedolaeth y BBC i ddechrau fyddai monitro targedau cynhyrchu’r BBC. Byddwn yn disgwyl i Ofcom bennu targedau ar gyfer ymestyn i’r sianeli eraill sy’n darparu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Dylid nodi mai targed mewnol a bennwyd gan BBC Cymru yw’r targed o 5% ar gyfer gwaith comisiynu’r rhwydwaith, ac nid yw Bwrdd Gweithredol y BBC wedi’i dderbyn hyd yma. Serch hynny, mae’r Bwrdd wedi cytuno y dylai o leiaf 17% o’r cynnyrch a gomisiynir ar gyfer y rhwydwaith ddeillio o Genhedloedd y DU.

11. Ni ddylai’r cynnydd yn nifer y cynyrchiadau o Gymru ar gyfer rhwydwaith y BBC fod wedi’i gyfyngu i gynyrchiadau mewnol y BBC. Dylid ymrwymo hefyd i gynnwys cynyrchiadau o’r sector annibynnol drwy Gymru, a dylid gallu mesur hyn.

Derbynnir yr Argymhelliad

- cred Llywodraeth Cynulliad Cymru y dylid cyflawni rhagor o waith comisiynu o Gymru ar gyfer y rhwydwaith drwy gyfuniad o gynhyrchwyr mewnol ac annibynnol. Croesawn benderfyniad diweddar Ymddiriedolaeth y BBC i sicrhau bod rhagor o waith cynhyrchu teledu rhwydwaith y BBC yn mynd rhagddo yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac y bydd o leiaf 17% (o dan ddiffiniad OFCOM) o’r gwaith a gomisiynir ar gyfer rhwydwaith y BBC yn deillio o’r cenhedloedd hynny yn y dyfodol. O fewn y targed hwn, byddem yn disgwyl i’r BBC sicrhau bod cyfran y gwaith a gomisiynir ar gyfer Cymru yn gyfwerth â’n rhan o boblogaeth y DU (5%) neu’n uwch. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r BBC ac eraill i gryfhau’r sector cynhyrchu annibynnol fel y gall fanteisio ar y cyfle pwysig hwn.

12. Dylai’r BBC ymchwilio i’r posibilrwydd o leoli ei ganolfannau cynhyrchu ar gyfer ei bortffolio o sianeli mewn gwahanol fannau yn y DU, a hynny er mwyn sicrhau bod cynyrchiadau’r rhwydwaith yn dod o bob rhan o’r DU.

Derbynnir yr Argymhelliad

- os yw’r BBC yn awyddus i ddatblygu safle cynhyrchu cynaliadwy yng Nghymru dylai’r BBC ystyried lleoli canolfan gynhyrchu fawr yng Nghymru. Croesawn y cyhoeddiad fod y BBC yn ystyried sefydlu "pentref drama” yng Nghymru ac adleoli cyfres ddrama sydd wedi rhedeg ers amser hir i Gaerdydd. Byddai canolfan gynhyrchu fawr o’r fath yn helpu i ddatblygu safle cynhyrchu cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym eisoes yn helpu â’r prosiect hwn, er enghraifft drwy bennu lleoliad addas. Mae Gweinidogion yn awyddus i sicrhau y gwneir popeth posibl er mwyn sicrhau bod y cynnig hwn yn dwyn ffrwyth.

13. Dylai’r £130 miliwn o’r ffioedd trwyddedu sydd wedi’i neilltuo gan y BBC ar gyfer hwyluso’r newid i’r digidol gael ei ddefnyddio’n rhannol ar ôl 2012 i gyllido Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus drwy’r DU. Dylid neilltuo cyfran briodol o’r swm hwn ar gyfer gwasanaeth prif ffrwd yng Nghymru, yn debyg i wasanaeth presennol Channel 3 yng Nghymru.

Derbynnir yr Argymhelliad yn Rhannol

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio ei bod o blaid BBC cadarn a ariennir gan ffi’r drwydded ac sy’n adlewyrchu buddiannau dinasyddion Cymru. Credwn mai ffi’r drwydded yw’r ffordd orau o sicrhau bod yr ystod bwysig o wasanaethau y mae’r BBC yn eu darparu yng Nghymru yn parhau. Dylai’r Llywodraeth fod yn barod i ystyried ystod o wahanol ddulliau o sicrhau cynnwys penodol i Gymru. Serch hynny, bydd angen i’r rhain gael eu hasesu yn unol â’r angen parhaus i sicrhau y caiff gwasanaethau penodol i Gymru eu darparu drwy ffi’r drwydded.

14. Dylai rhan o’r cyllid hwn gael ei neilltuo ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfryngau eraill a thrwy gyflenwyr eraill, gan gynnwys cefnogi gwasanaeth newyddion radio annibynnol ar gyfer radio masnachol yng Nghymru. Cytunwn y bydd angen cyllido Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gan ddarparwyr eraill ar wahân i’r BBC ar ôl 2012.

Derbynnir yr Argymhelliad yn rhannol

- am y rhesymau a amlinellir uchod. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio ei phryder na ddylai ymrwymiad ITV i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru leihau.

15. Dylai Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru gael ei benodi gan y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, a dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo hynny.

Ni dderbynnir yr Argymhelliad

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwarae rhan lawn ym mhroses benodi Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, sef proses a gynhelir yn unol ag egwyddorion Nolan. Mae uwch swyddog o Grŵp Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o’r panel penodi. Adlewyrcha’r broses bresennol ddiddordeb brwd Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn materion darlledu ac mae hefyd yn cydnabod nad yw’r mater hwn yn un sydd wedi’i ddatganoli. Nid ydym yn teimlo y byddai’n briodol cyflwyno lefel ychwanegol o waith craffu o safbwynt penodi Ymddiriedolaeth y BBC dros Gymru.

16. Rydym yn argymell i Reolwyr y BBC y dylai uwch reolwr Cymru fod yn aelod o fwrdd gweithredol y BBC.

Ni dderbynnir yr Argymhelliad

- Mater i reolwyr y BBC yw hwn ond bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i drafod â’r BBC sut y cynrychiolir Cymru ar ei strwythurau.

S4C

17. Dylai S4C ystyried a chyhoeddi cynigion ar gyfer cynorthwyo darpariaeth gwasanaethau Saesneg yn y dyfodol.

Ni dderbynnir yr Argymhelliad

- byddai’r arfer o rannu cyfleusterau technegol a swyddogaethau cefn swyddfa yn cyd-fynd â rhaglen Creu’r Cysylltiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Byddem yn croesawu menter gan ddarlledwyr Cymreig i leihau’r gorbenion sy’n gysylltiedig â darlledu o Gymru. Serch hynny, credwn fod hwn yn fater i holl ddarlledwyr Cymru ei ystyried, yn hytrach nag S4C yn unig. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru o blaid unrhyw newid i gylch gwaith S4C.

18. Dylai Cadeirydd Awdurdod S4C gael ei benodi gan y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, a dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo hynny.

Ni dderbynnir yr Argymhelliad

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwarae rhan lawn yn y broses o benodi Cadeirydd ac Aelodau Awdurdod S4C, sef proses a gynhelir yn unol ag egwyddorion Nolan. Mae uwch swyddog o Grŵp Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o’r panel penodi. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn y byddai’n briodol tynnu’r cyfrifoldeb am benodi’r Cadeirydd oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon yn niffyg unrhyw gamau i ddatganoli’r cyfrifoldeb am faterion darlledu yn fwy cyffredinol.

Ofcom

19. Dylai fod gan Ofcom gynrychiolydd o Gymru yn aelod ar ei fwrdd. Rydym yn argymell y dylai’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru benodi’r aelod hwn, ac y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo hynny.

Derbynnir yr Argymhelliad

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Bwrdd Ofcom gynnwys aelod o Gymru. Credwn fod y pwysau cystadleuol cynyddol y mae’r sector darlledu yn eu hwynebu yn peri i’r mater hwn fod yn llai pwysig. Credwn y dylid ymdrin â’r mater hwn mewn unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar y gweill ym maes darlledu.

20. Er bod Ofcom wedi cynnig pedwar model gwahanol, rydym yn argymell dewis arall a fyddai’n canolbwyntio ar gynnal darlledwr gwasanaeth cyhoeddus arall ar wahân i’r BBC yng Nghymru, a hynny drwy sicrhau bod ITV Wales yn parhau â’i hymrwymiadau presennol ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus - o ran newyddion a rhaglenni eraill - tan o leiaf 2012.

Derbynnir yr Argymhelliad

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd ITV Wales o safbwynt cynnal amlblwyfaeth o fewn Cymru ar draws rhaglenni newyddion a materion cyfoes. Hyd 2012 credwn mai’r ffordd orau o ddiogelu’r amlblwyfaeth hon fyddai drwy sicrhau bod ITV Wales yn parhau â’i

hymrwymiadau presennol ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Rydym yn gryf o blaid cynnig y Pwyllgor y dylai Ofcom ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer darparu rhaglenni Saesneg masnachol yng Nghymru. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn edrych ymlaen at drafod y mater hwn ag Ofcom cyn gynted â phosibl.

ITV

21. Dylai Ofcom sicrhau bod lefel bresennol rhaglenni ITV plc ar gyfer Cymru yn parhau. Rydym yn gofyn i ITV wella’r modd y caiff Cymru ei phortreadu ar wasanaethau rhwydwaith ITV a chynyddu nifer y cynyrchiadau a gomisiynir o Gymru.

Derbynnir yr Argymhelliad

- bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gydweithio â’r darlledwyr a’r sector cynhyrchu annibynnol er mwyn sicrhau y gall cynhyrchwyr Cymreig gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am gomisiynau ar gyfer y rhwydwaith.

22. Yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill ar gyfer cyfathrebu, dylai Llywodraeth y DU greu trwydded ar gyfer Cymru sydd ar wahân i drwydded ITV yn Lloegr. Argymhellwn hefyd fod Ofcom ac ITV yn rhoi ystyriaeth bellach i’r posibilrwydd o greu trwydded gysylltiedig ar gyfer Cymru. Mewn sefyllfa o’r fath, credwn y dylai Ofcom sicrhau bod cronfa’n cael ei chreu ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, a honno’n cael ei gweinyddu gan awdurdod neu asiantaeth er mwyn sicrhau darpariaeth os bydd rhaglenni Darlledu Cyhoeddus ITV yn dod i ben.

Derbynnir yr Argymhelliad yn rhannol

- cytunai Llywodraeth Cynulliad Cymru y dylai Ofcom ystyried sefydlu trwydded ddarlledu ar wahân ar gyfer Cymru, a oedd yn cynnwys model enghreifftiol o drwydded gysylltiedig ar gyfer Sianel 3. Credwn y dylai posibilrwydd creu cronfa er mwyn cefnogi cynnwys Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gael ei ystyried ar wahân unwaith y cwblheir yr astudiaeth gychwynnol hon. Dylai cynllun busnes cyflawn gael ei greu yn ogystal er mwyn hyrwyddo unrhyw gronfa.

Channel 4

23. Dylai Ofcom ofalu bod Channel 4, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, yn cyrraedd y targed isaf o 5% ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith o Gymru erbyn 2012. Dylai Channel 4 hefyd ymrwymo i wella’r modd y mae’n portreadu Cymru ar y newyddion ac mewn rhaglenni eraill, a dylai Ofcom sicrhau bod Channel 4 yn atebol iddo am hyn.

Derbynnir yr Argymhelliad

- mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n croesawu’r ffaith y bydd Channel 4 ar gael i bob gwyliwr yng Nghymru am y tro cyntaf ar ôl y newid i’r digidol. Credwn felly y byddai’n briodol i Channel 4 gyd-fynd â rhwymedigaethau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n adlewyrchu’r statws newydd hwn.

Y Newid i’r Digidol

24. Dylai Ofcom sicrhau bod gwasanaethau S4C ar gael yn barhaus ar lwyfannau digidol drwy gydol y broses o newid i’r digidol ym mhob rhan o Gymru.

Derbynnir yr Argymhelliad

- nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu y dylai fod unrhyw leihad yn y gwasanaethau a gynigir i wylwyr yng Nghymru ar ôl y newid i’r digidol. Bydd Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gyfarfod â Digital UK, Ofcom a Grŵp Newid i’r Digidol Llywodraeth y DU yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r datblygiadau perthnasol o ran y newid i’r digidol.

Radio

25. Dylai Ofcom roi argymhelliad y Gweithgor Radio Digidol ar waith - sef na ddylid newid i’r digidol oni bai bod 97% o bobl Cymru yn gallu derbyn Darlledu Sain Digidol.

Derbynnir yr Argymhelliad

- ni fyddai Llywodraeth Cynulliad Cymru o blaid y newid i’r digidol oni bai y byddai o leiaf 97% o bobl Cymru yn gallu derbyn Darlledu Sain Digidol. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn teimlo bod yr achos dros newid i’r digidol ym maes radio wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus hyd yma. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda chynrychiolwyr y Gweithgor Radio Digidol.

26. Dylai Gweinidogion Cymru, ar y cyd ag Ofcom, adolygu’r posibilrwydd o ddatganoli’r broses ar gyfer rhoi trwyddedau radio masnachol a chymunedol yng Nghymru.

Ni dderbynnir yr Argymhelliad

- gŵyr Llywodraeth Cynulliad Cymru fod y trwyddedau radio masnachol yng Nghymru eisoes wedi’u rhoi. O ystyried y ffaith bod y gwahanol gyfryngau digidol yn cydgyfarfod nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn teimlo y byddai’n briodol ceisio datganoli agweddau unigol ar y seilwaith darlledu heb ystyried ar yr un pryd yr agweddau eraill. Am resymau topograffig a logisteg, efallai nad rhoi trwyddedau radio cymunedol ar lefel Cymru’n unig yw’r arfer gorau bob amser gan fod llwybrau darlledu yn gorgyffwrdd mewn sawl ardal ar hyd y ffin, a ger sianel Bryste. Mae system gyfredol Ofcom yn ystyried y gorgyffwrdd yma ac yn rhoi trwyddedau ar lefel fwy ranbarthol.

Band Eang

27. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu ymchwiliad annibynnol i ymarferoldeb a goblygiadau ariannol y gwahanol ddewisiadau a’r cyfuniadau ar gyfer datblygu band eang yng Nghymru yn y dyfodol.

Derbynnir yr Argymhelliad yn Rhannol - Cynhaliwyd ymchwiliad annibynnol o’r opsiynau posibl o ran ail genhedlaeth band eang gan Analysis ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw bolisïau a ddatblygir yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cydnabod ei bod yn bwysig sicrhau y gall busnesau a dinasyddion ar draws Cymru fanteisio ar fand eang fforddiadwy a diogel.

Mae’n bwysig sicrhau y gall seilwaith telathrebu Cymru wynebu’r her hon, gan felly greu economi ffyniannus ar gyfer Cymru sy’n mynd o nerth i nerth. At y diben hwn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydweithio â’r diwydiant telathrebu a’r rheoleiddiwr cyfathrebu, Ofcom, ac mae’n parhau i wneud hynny, er mwyn rhannu gwybodaeth am y seilwaith cyfathrebu, deall y rhwystrau i fuddsoddiad, gan gynnwys materion rheoleiddio a materion economaidd, a chyfrannu at lunio polisïau ar gyfer y dyfodol yn y maes hwn. Ystyrir penderfyniad ynghylch a ddylid adnewyddu’r ymchwil a amlinellir uchod fel rhan o waith pwyso a mesur parhaus ynghylch materion cyfathrebu.

Isdeitlau ac Iaith Arwyddion

28. Dylai pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ddarparu gwasanaethau o ansawdd cyson i bobl fyddar. Rydym yn argymell y dylai Ofcom fonitro’r modd y mae darlledwyr yn darparu gwasanaethau i bobl fyddar, a sicrhau bod gan ddarlledwyr weithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion mewn ffordd agored ac amserol.

Derbynnir yr Argymhelliad

- cred Llywodraeth Cynulliad Cymru y dylai safon y gwasanaethau a gynigir i bobl fyddar fod yr un mor uchel yng Nghymru ag ydynt yng ngweddill y DU.

Partneriaid a Help