Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Is-bwyllgor Darlledu

Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Darlledu ar 5 Tachwedd 2008 gyda chylch gwaith o gyflwyno adroddiad ar y cynigion yng Nghyfnod 2 Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ac adroddiad terfynol Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr, penderfynodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ddiwygio cylch gorchwyl yr Is-bwyllgor i’w alluogi i gynnal ymchwiliad i’r diwydiant papur newydd yng Nghymru. Y cylch gorchwyl newydd y cytunwyd arno yw:

Mae’r pwyllgor yn cytuno y dylid sefydlu Is-bwyllgor Darlledu. Cylch gorchwyl yr is-bwyllgor yw:

  • cyflwyno adroddiad, erbyn 4 Rhagfyr 2008, ar y cynigion yng Nghyfnod 2 Adolygiad Ofcom ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus
  • cyflwyno adroddiad ar gyflwr y diwydiant papur newydd yng Nghymru ar hyn o bryd
  • cyflwyno adroddiad ar adroddiad terfynol Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus o fewn 3 mis iddo gael ei gyhoeddi.

Bydd yr is-bwyllgor yn peidio â bod wedi iddo gyhoeddi ei adroddiad ar gasgliadau Ofcom ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Arweiniodd esblygiad cyflym y tirwedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yr Is-bwyllgor Darlledu i benderfynu yn ei gyfarfod ar 22 Ionawr y dylid ehangu ei ymchwiliad i ddarlledu i ystyried yr adolygiad o Brydain Ddigidol ac y byddai’r rhiant bwyllgor mewn sefyllfa well i ystyried hynny. Felly, cyfeiriodd yr Is-bwyllgor yr ymchwiliad darlledu yn ffurfiol i’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar 22 Ionawr.  

Bydd yr Is-bwyllgor yn parhau gyda’i ymchwiliad i’r diwydiant papur newydd yng Nghymru.

Mae Rheol Sefydlog 10.17 yn nodi bod yr Is-bwyllgor yn cael ei reoleiddio gan yr un Rheolau Sefydlog â’r rhiant bwyllgor. Felly, bydd yr Is-bwyllgor yn cyfarfod yn ffurfiol yn gyhoeddus (ar wahân i’r adegau lle bydd y pwyllgor, mewn sesiwn ffurfiol, yn penderfynu cwrdd yn breifat). Bydd unrhyw adroddiad a gyhoeddir gan yr is-bwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i’w gymeradwyo ac, os yw’n addas, i’w gyflwyno gerbron y Cynulliad.  

Newyddion Diweddaraf

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y Diwydiant Papurau Newydd yng Nghymru (PDF, 962KB).

Aelodaeth

Gellir gweld Aelodau'r pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Is-bwyllgor yma.
Mwy>>

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gallwch weld agendâu, papurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yma.
Mwy>>

Dyddiadau cyfarfodydd