Yr Is-bwyllgor Darlledu

Cofnodion (BSC(3)-04-09)

Dyddiad: 19 Mawrth 2009
Amser: 09.30 – 11.30
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol

Dai Lloyd, Gorllewin De Cymru (Cadeirydd)

Eleanor Burnham, Gogledd Cymru

Alun Cairns, Gorllewin De Cymru

Joyce Watson, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Stefan Sanchez, Clerc

Annette Millett, Diprwy Glerc

Eraill yn bresennol:

Gavin Steacy, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Newsquest

Gerry Keighley, Rheolwr Golygyddol Rhanbarthol, Newsquest

Spencer Feeney, Prif Olygydd, South West Wales Media Limited

Sara Wilde, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Media Wales, Trinity Mirror

Aled Eirug, Cynghorwr y Pwyllgor

1: Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon (9.30am – 09.35am)

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

2:  Casglu tystiolaeth ar gyflwr presennol y diwydiant papur newydd yng Nghymru (9.35am – 11.30am)

Tystiolaeth gan:

Newsquest

2.1  Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.

South West Wales Media Limited

2.2  Bu’r tyst yn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.

Trinity Mirror

Paper

BSC(3)-04-09 (Paper 1)

2.3  Bu’r tyst yn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.

3. Adroddiad yr Is-bwyllgor

3.1  Cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai’r adroddiad ar ei ymchwiliad i gyflwr y diwydiant papur newydd yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau er mwyn cytuno arno, gan mai hwn oedd cyfarfod ffurfiol olaf yr Is-bwyllgor.

Papur i’w nodi:

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Papur: BSC(3)-03-09

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2009

Gwasanaeth y Pwyllgorau
Mawrth 2009

Partneriaid a Help