CC(3) VS7

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

CC(3) 05-07 (p1): 7 Tachwedd 2007

Ymchwiliad i Gyllido Sefydliadau’r Sector Gwirfoddol yng Nghymru : tystiolaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru       

Maint y Sector Chwaraeon Gwirfoddol yng Nghymru

'Chwaraeon a Hamdden’ yw’r sector mwyaf ym mas data CGGC o Sefydliadau Gwirfoddol yng Nghymru, yn cyfrif am 24% o’r holl sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru (CGGC, 2007).  Dilynir hyn gan 'Gymuned’, sy’n cyfrif am 17% o’r sefydliadau gwirfoddol.  Mae mwyafrif y 6,275 o sefydliadau sy’n ymwneud â chwaraeon a hamdden yn sefydliadau 'lleol’ (93%); mae’r 7% arall yn cael eu diffinio fel rhai’n gweithredu ar lefel Genedlaethol, Rhanbarthol neu Gangen.  O edrych ar y data trefniannol lleol fesul ardal, yn Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Phowys mae’r nifer mwyaf o sefydliadau chwaraeon a hamdden, o gymharu â’r Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru; ac ar Ynys Môn ac yn Nhorfaen a Sir Fynwy mae’r nifer lleiaf (CGGC, 2007).

Aelodaeth o Glybiau Chwaraeon

Yn ogystal â bod yn ganolbwynt ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae clybiau chwaraeon yn adnodd cymdeithasol gwerthfawr: yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyfalaf cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer dinasyddiaeth egnïol a rhyngweithio cymdeithasol, ar gyfer gwirfoddolwyr a chyfranogwyr (CCPR, 2003).

Wrth adrodd yn ôl am y data yn eu harolwg bob dwy flynedd diwethaf ar gyfranogiad Oedolion mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n datgan bod 12% o oedolion Cymru’n perthyn i glwb neu sefydliad chwaraeon (CChC, 2008a).  Mae mwyafrif helaeth yr oedolion sydd yn perthyn i glwb yn perthyn i un clwb yn unig (11%), gyda’r gweddill (1%) yn aelodau o ddau neu fwy o glybiau.  Mae’r aelodaeth o glybiau’n amrywio’n sylweddol yn y gwahanol awdurdoddau lleol: o 16% yng Nghaerdydd i ddim ond 7% ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Ceir gwahaniaeth hefyd o ran rhyw: mae 15% o ddynion Cymru’n perthyn i glwb, o gymharu â dim ond 9% o’r merched.  Fodd bynnag, mae’r bwlch hwn rhwng y rhywiau’n amrywio’n helaeth yn y gwahanol awdurdodau lleol.  Yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ceir bwlch o ddim ond 2 bwynt canran rhwng y rhywiau ac yma mae’r gyfradd uchaf o aelodaeth o glybiau ymhlith y merched yng Nghymru (14%).  Yn Nhorfaen, ble ceir lefel uwch na’r cyfartaledd o aelodaeth gyffredinol hefyd, mae’r blwch rhwng y rhywiau’n llawer mwy: mae 20% o’r dynion yn aelodau o glwb chwaraeon o gymharu ag 8% o’r merched.

Mae’r aelodaeth o glybiau’n uwch ymhlith gweithwyr proffesiynol a rheoli (mae 20% o oedolion yng ngrwpiau cymdeithasol economaidd A a B yn aelodau o glybiau) ac ar ei isaf ymhlith y rhai yng ngrwpiau cymdeithasol economaidd D ac E (3.8%).

Mae’r Cyngor Chwaraeon hefyd yn nodi bod aelodaeth o glwb yn gostwng yn gyffredinol wrth i bobl fynd yn hŷn.

O blith yr oedolion 65+ oed sy’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd (ac eithrio biliards, snwcer a cherdded), mae ychydig dan eu hanner yn perthyn i glwb neu sefydliad chwaraeon; mae’r canran cyfatebol ar gyfer oedolion dan 65 oed oddeutu traean ac yn eithaf cyson ymhlith y grwpiau oedran iau.  Mae hyn yn awgrymu bod amgylchedd y clwb yn parhau’n ganolbwynt ar gyfer cyfranogiad ymhlith oedolion egnïol.

Hefyd, mae’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) yn darparu i Gyngor Chwaraeon Cymru ddata clwb a data am aelodaeth o CRhC.  Ar gyfer tymor 2005-06, roedd 4,120 o glybiau chwaraeon CRhC yng Nghymru; roedd y mwyafrif o’r rhain wedi’u dosbarthu fel 'Clybiau Hŷn’ (79%), 9% yn 'Glybiau Anabledd’, 8% yn 'Glybiau Iau’ a 4% yn 'Glybiau Hŷn gydag Adrannau Iau’.

O gymharu â data arolwg y Cyngor Chwaraeon Cymru, mae’r aelodaeth o glybiau CRhC yn dangos gwahaniaeth o ran y rhywiau. Wrth wahanu’r cyfanswm o aelodaeth o glybiau CRhC, gwelir bod mwyafrif yr aelodau clwb yn ddynion hŷn (51%), ac yna 30% o’r aelodau’n fechgyn iau.  Dim ond 19% o ferched a genethod sy’n aelodau o glwb chwaraeon CRhC (11% yn ferched hŷn ac 8% yn enethod iau).  Mae proffil rhyw clybiau chwaraeon y CRhC yn wrywaidd yn bennaf.         

Rôl y Gwirfoddolwr   

Mae gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o ddarparu chwaraeon mewn cymunedau ledled  Cymru.  Yn 2001, roedd 48% o oedolion Cymru’n ymwneud â gwirfoddoli; roedd 6% yn ymwneud â chwaraeon (LlCC, 2001).  Mae 51,840 o wirfoddolwyr yn ymwneud yn rheolaidd â chwaraeon.  Yn ôl LlCC (2001), treulir cyfartaledd o ddwy awr yr wythnos ar wirfoddoli mewn chwaraeon, gan arwain at 1,244,160 o oriau gwirfoddol y flwyddyn.  Er mwyn rhoi gwerth economaidd i hyn, a’i seilio ar y cyflog cyfartalog cenedlaethol ar gyfer Cymru yn 2001, gellir dweud bod yr oriau gwirfoddol hyn yn cyfateb i £12.9m.  Mae’r data’n chwe mlwydd oed, felly, gellir cymryd yn ganiataol bod y ffigyrau hyn braidd yn isel erbyn hyn.

Mae gwaith ymchwil gan Gyngor Chwaraeon Cymru’n dangos mai’r rôl fwyaf poblogaidd ar gyfer gwirfoddolwyr yw hyyfforddi - boed mewn clwb chwaraeon mewn ysgol neu yn y gymuned.  Gweinyddu yw’r prif weithgaredd arall ar gyfer gwirfoddolwyr, yn arbennig mewn clybiau chwaraeon cymunedol (CChC, 2008a).  

Mae dynion ychydig yn fwy tebygol o wirfoddoli na merched.  Hefyd, mae’r gwirfoddolwyr yn tueddu i ddod o’r grwpiau cymdeithasol economaidd uwch a chyda chyraeddiadau addysgol uwch.  Mae hyn yn cyd-fynd â’r patrwm ar gyfer cyfranogiad mewn chwaraeon (gweler y Cyngor Chwaraeon, 1996; CChC, 2008a).

Pwysigrwydd Economaidd y Sector Chwaraeon Gwirfoddol yng Nghymru

Yn 2004, roedd incwm y sector chwaraeon gwirfoddol yn dod i £112m (ac eithrio derbynebau bar) a’i gyfrifon gwariant cysylltiedig yn £98.2m (ac eithrio pryniadau bar) (CChC, 2008b).  Yn ei hadroddiad i CChC, mae Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon hefyd yn datgan bod y gwerth a ychwanegwyd i’r economi gan weithgarwch economaidd cysylltiedig â chwaraeon yn y sector gwirfoddol yng Nghymru yn cyfrif am £77m yn 2004.  O ystyried bod y data hwn yn berthnasol i 2004, mae’n debygol nad yw’r ffigyrau hyn yn creu darlun cywir o’r sefyllfa fel ag y mae erbyn hyn a bod cynnydd wedi’i wneud.

Buddsoddiad Cyngor Chwaraeon Cymru yn y Sector Chwaraeon Gwirfoddol

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n buddsoddi yn y sector chwaraeon gwirfoddol mewn nifer o ffyrdd:

Mae’r Gist Gymunedol yn gynllun grant a gyllidir gan y loteri sy’n cefnogi datblygiad chwaraeon yn lleol drwy ddosbarthu grantiau bychain drwy gyfrwng 22 o banelau yn yr awdurdodau lleol.  Mae pob panel yn cynnwys 12 aelod o’r gymuned leol; mae hyn yn cynnwys lleiafswm o 3 chynrychiolydd yr awdurdod lleol a’r gweddill o’r gymuned yn ehangach, gyda’r mwyafrif yn cynrychioli’r sector gwirfoddol.  Mae’r panelau wedi cael eu canmol gan Swyddfa Archwilio Cymru a DCMS am hwyluso’r gwaith o ddatganoli penderfyniadau.  

Mae Mân-Grantiau’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd, ychwanegol neu well i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol.

Defnyddir y cynllun Cyfalaf a gyllidir gan y Loteri i gynnig cefnogaeth strategol i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn bennaf yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, drwy gyllido prosiectau cyfalaf.  Yr egwyddorion sylfaenol sydd wedi bod yn sail i ddosbarthu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf ar lefel leol yw sicrhau: y budd gorau posibl, a budd parhaus, i chwaraeon a datblygiad cymunedol; gwerth am arian; a manteision ar gyfer yr ardaloedd a’r prosiectau gyda’r angen mwyaf o ran hamdden, chwaraeon ac arian.

Mae cynllun Sportsmatch Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru’n darparu cyswllt hanfodol rhwng y sector masnachol a datblygu chwaraeon ar lefel gyffredin.  Mae’r cynllun yn annog nawdd gan gwmnïau preifat drwy gyfateb eu buddsoddiad '£ am £’ wrth iddynt gefnogi prosiectau sy’n sicrhau twf y cyfranogiad ar lefel gyffredin.   

Buddsoddwyd rhyw 89% o’r dyfarniadau a wnaed gan y Cyngor Chwaraeon drwy gyfrwng cynllun grant Y Gist Gymunedol ers 99/00 mewn clybiau a chymdeithasau chwaraeon gwirfoddol (mae hyn yn cyfateb i £5.8m).  Buddsoddwyd £0.7m pellach mewn agweddau eraill ar y sector gwirfoddol.  Felly, mae cyfanswm y buddsoddiad yn y sector gwirfoddol, drwy gyfrwng y Gist Gymunedol, yn £6.5m.  Mae’r dosbarthiad yn gymharol gyfartal ledled pob ardal yng Nghymru.

Ers 2005, mae £28m wedi cael ei fuddsoddi drwy gyfrwng cynllun Cyfalaf y Cyngor Chwaraeon mewn cymdeithasau a chlybiau chwaraeon lleol.  Yn ystod yr un cyfnod, buddsoddwyd £1m mewn cymdeithasau a chlybiau chwaraeon lleol drwy gyfrwng y Mân-Grantiau a buddsoddwyd £230k drwy gyfrwng cynllun Sportsmatch Cymru.

Hefyd mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n rhoi grantiau i CRhC er mwyn iddynt allu sicrhau sefydlogrwydd ariannol; cynnal a chynyddu aelodaeth; cefnogi addysg hyfforddwyr a gwella perfformiadau unigolion a thimau’n cynrychioli Cymru.  Ers 2005, mae’r buddsoddiad ariannol wedi cyfateb i £32.3m.

Hefyd, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n parhau i ddatblygu ei gyswllt â’r sector gwirfoddol heb gysylltiad â chwaraeon.  Mae’r portreadau a ganlyn yn tynnu sylw at ddau brosiect peilot sy’n defnyddio sgiliau a rhwydweithiau’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol i gefnogi gwaith y Cyngor Chwaraeon.

Cymdeithas Gwent o Sefydliadau Gwirfoddol (CGSG)

Yn y gorffennol, mae rhaglen Y Gist Gymunedol ym Mlaenau Gwent wedi profi’n llwyddiant mawr wrth weithio gyda’r sefydliadau chwaraeon gwirfoddol a chymunedol traddodiadol; fodd bynnag, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi wynebu sawl her wrth ennyn ceisiadau, yn enwedig gan y sector gwirfoddol heb gysylltiad â chwaraeon.

O gofio hyn, gofynnodd y Cyngor Chwaraeon i CGSG ei helpu i greu dull i oresgyn y broblem hon.  Mae’r fenter a ffurfiwyd ar y cyd yn mynd i ddefnyddio rhwydweithiau cyswllt a staff CGSG er mwyn codi proffil y cynllun ymhlith y sector gwirfoddol heb gysylltiad â chwaraeon ac i roi hwb i nifer y ceisiadau am gyllid.  

Er mwyn hwyluso hyn, mae’r Cyngor Chwaraeon yn cyllido gweithiwr datblygu cymunedol ar gyfer CGSG, i weithio ddiwrnod yr wythnos yn cyflwyno’r fenter.  Mae’r person hwn wedi treulio rhyw faint o amser eisoes yn gweithio gyda thîm datblygu chwaraeon yr awdurdod lleol a bydd yn ased wrth bontio’r bwlch rhwng y rhwydweithiau traddodiadol a’r rhai llai traddodiadol.

Cefnogir y fenter drwy gyfrwng y rhaglen Mân-Grantiau a bydd yn cael ei chynnal am gyfnod o ddeuddeg mis.  Mae adran Ymchwil a Gwerthuso’r Cyngor Chwaraeon yn ymgymryd â gwerthusiad o’r model adfocatiaeth a datblygu hwn.

Her yr Adeiladau Cymunedol: achos Powys

Mae pedwar cynllun peilot 'Her yr Adeiladau Cymunedol’ yn cael eu cyllido ar hyn o bryd gan y Cyngor Chwaraeon.  Mae’r rhain yn cynnwys: Powys, Castell-nedd Port Talbot, Llanelli a Wrecsam.  Y rhesymeg ar gyfer canolbwyntio ar Adeiladau Cymunedol (neuaddau pentref, sefydliadau glöwyr, clybiau cymdeithasol etc) er mwyn hybu gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion oedd bod y mannau hyn yn aml iawn yn ganolbwynt eisoes i ardaloedd, gyda llawer o grwpiau’n defnyddio’r cyfleusterau’n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau amrywiol.  Mae pob cynllun peilot wedi mabwysiadu dull gwahanol a dewiswyd amrywiaeth wrth weithredu er mwyn edrych ar a gwerthuso ffyrdd newydd o weithio.  

Ym Mhowys, er enghraifft, mae’r Cyngor Chwaraeon wedi rhoi £30,000 o gyllid uniongyrchol i Uned Datblygu Chwaraeon y Cyngor Sir, sy’n gweithio mewn partneriaeth â CPSG (Cymdeithas Powys o Sefydliadau Gwirfoddol) a Fforwm y Neuaddau Pentref er mwyn targedu 30 o Adeiladau Cymunedol gwledig.  Mae disgwyl i bob adeilad dderbyn grant o £1,000 i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol.

Mae fframwaith monitro a gwerthuso wedi cael ei weithredu yn cynnwys casglu data meintiol am gyfraddau cymryd rhan ac amrywiaeth y gweithgareddau a gynigir, a data ansoddol gan y cyfranogwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am redeg y prosiectau unigol.

Hyd yma, mae £27,000 wedi cael ei neilltuo ar gyfer 29 o brosiectau amrywiol, yn cynnwys: Tai Chi, Dawnsio Bol, Cerdded a chlybiau hamdden fel bowlio, badminton a phêl rwyd.  Er ei bod yn rhy fuan i allu mesur llwyddiant y rhaglen hon, ceir tystiolaeth bod yr 'Her’ eisoes wedi sefydlu amrywiaeth eang o gyfleoedd lleol mewn ardaloedd gwledig.  Gobeithir y bydd y model hwn yn drosglwyddadwy ar gyfer awdurdodau gwledig eraill yng Nghymru.

Casgliad

Mae CChC yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol yn genedlaethol ac yn lleol.  Y sector gwirfoddol yw asgwrn cefn chwaraeon am ei fod yn darparu hyfforddiant, swyddogion dyfarnu a chystadlaethau.  Ni allai chwaraeon oroesi fel ag y mae heb y sector hwn.

Er mai gwlad fechan yw Cymru, mae hefyd yn gymysgryw.  Mae strwythur y sector gwirfoddol yn amrywio’n sylweddol ledled y wlad, nid yn unig o ran y ddarpariaeth o glybiau ond hefyd o ran pwysigrwydd cymharol y sector mewn gwahanol awdurdodau.  Er enghraifft, yng Ngheredigion, mae nifer o’r pyllau nofio’n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan ymddiriedolaethau gwirfoddol yn hytrach na’r awdurdod lleol.  

Yr her fwyaf i CChC wrth ddarparu cefnogaeth ariannol i’r sector yw ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng atebolrwydd a chyn lleied ag y bo modd o fiwrocratiaeth.  Cefnogir y sector oherwydd ei fod yn gallu cefnogi strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae’r ceisiadau am wybodaeth am gynnwys clybiau / grwpiau (rhyw, oedran, ethnigrwydd etc.) yn cael eu hystyried yn feichus gan wirfoddolwyr.  Gall yr wybodaeth a gesglir fod yn anghyflawn ac yn annibynadwy weithiau, gan ei gwneud yn anodd i ddatblygu cyngor ynghylch polisi.   

Nid oes llawer o amheuaeth chwaith bod y sector gwirfoddol wedi wynebu pwysau cynyddol dros y blynyddoedd: iechyd a diogelwch; amddiffyn plant; atebolrwydd y cyhoedd; bygythiad ymgyfreithiad sydd wedi cael effaith sylweddol ar wirfoddoli ac felly ar allu’r sector i gyflwyno.  

Cyfeiriadau:

CCPR (2003) Citizenship in Action: Voluntary Sector - Sport and Recreation, CCPR: Llundain

Y Cyngor Chwaraeon (1996) Valuing Volunteers in UK Sport: a Sports Council survey into the voluntary sector in UK sport, Y Cyngor Chwaraeon: Llundain      

CChC (2008a) Cyfranogiad Oedolion mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghymru: 2004/05, CChC: Caerdydd (i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2008)

CChC (2008b) Pwysigrwydd Economaidd Chwaraeon yng Nghymru: adroddiad a baratowyd gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon, CChC: Caerdydd (i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2008)

LlCC (2001) Gwirfoddoli yng Nghymru yn 2001, LlCC: Caerdydd

CGGC (2007): w

ww.wcva.org.uk

- mynediad yn Hydref 2007

RGH

30 Hydref 2007

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help