Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Ymchwiliad i Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru
Mae Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i brofiad plant Cymru yn yr ystâd ddiogel.
Cylch gorchwyl
Bydd Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i Gyfiawnder Ieuenctid yn canolbwyntio ar brofiad plant Cymru yn yr ystâd ddiogel a bydd yn:
- craffu ar gyflawni polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel;
- dynodi meysydd lle mae problemau penodol o ran gweithredu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel, yn cynnwys grwpiau penodol o blant a phobl ifanc;
- archwilio i ba raddau y caiff "agenda hawliau” Llywodraeth Cynulliad Cymru ei ddarparu i blant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel o ran cefnogaeth iddynt;
- adolygu’r defnydd o’r ddalfa a chamau amgen i’w cadw, i blant sy’n gwrthdaro yn erbyn y gyfraith;
- dynodi materion sy’n berthnasol i’r ddadl ar ddatganoli’r system cyfiawnder ieuenctid fel y nodwyd yn y cytundeb Cymru’n Un;
- cynnig argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill fel bo angen.
Tystiolaeth
Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn