Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant

Galw am dystiolaeth

Ymchwiliad i Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i brofiad plant Cymru yn yr ystâd ddiogel.

Cylch gorchwyl

Bydd Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i Gyfiawnder Ieuenctid yn canolbwyntio ar brofiad plant Cymru yn yr ystâd ddiogel a bydd yn:
  • craffu ar gyflawni polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel;
  • dynodi meysydd lle mae problemau penodol o ran gweithredu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel, yn cynnwys grwpiau penodol o blant a phobl ifanc;
  • archwilio i ba raddau y caiff "agenda hawliau” Llywodraeth Cynulliad Cymru ei ddarparu i blant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel o ran cefnogaeth iddynt;
  • adolygu’r defnydd o’r ddalfa a chamau amgen i’w cadw, i blant sy’n gwrthdaro yn erbyn y gyfraith;
  • dynodi materion sy’n berthnasol i’r ddadl ar ddatganoli’r system cyfiawnder ieuenctid fel y nodwyd yn y cytundeb Cymru’n Un;
  • cynnig argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill fel bo angen.

Materion i’w hystyried:

Yn gymorth i’w ymchwiliad, hoffai’r Pwyllgor gael tystiolaeth ysgrifenedig ynglŷn â phrofiad plant Cymru yn yr ystâd ddiogel, yn benodol ar y materion canlynol:
  • Beth a ddylai Llywodraeth Cynulliad ei wneud i wella profiad plant Cymru yn yr ystâd ddiogel?
  • Pa mor effeithiol yw Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan wrth fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â’r ystâd ddiogel   
  • Pa broblemau penodol sy’n bodoli wrth weithredu a darparu gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel, yn cynnwys darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl, cefnogaeth i addysg a gwasanaethau adsefydlu?
  • I ba raddau y caiff "agenda hawliau” Llywodraeth Cynulliad Cymru ei ddarparu i blant a phobl ifanc yn yr ystâd ddiogel, o ran cefnogaeth iddynt?
  • A oes angen cymorth ychwanegol ar grwpiau penodol o blant a phobl ifanc ee grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc a chanddynt anabledd neu amhariad dysgu, siaradwyr Cymraeg, gofalwyr ifanc, a genethod a merched ifanc?
  • Pa weithredu pellach sy’n angenrheidiol i ostwng y defnydd o’r ddalfa ac i hyrwyddo camau amgen i’w cadw, i blant sy’n gwrthdaro yn erbyn y gyfraith?
  • Pa mor effeithiol yw trefniadau gweithredu a chyflawni darpariaethau sy’n cyfuno swyddogaethau a gadwyd a swyddogaethau datganoledig?
  • A ddylai cyfrifoldeb am yr ystâd ddiogel gael ei ddatganoli i Gymru?
  • A oes unrhyw argymhellion penodol y credwch ddylai gael eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad hwn?

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 29 Mai 2009 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig drwy e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn:  P

wyllgorCymunedauDiwylliant@Wales.gsi.gov.uk

Gofynnir i chi nodi a oes diddordeb gennych mewn dod i gyfarfod pwyllgor i gyflwyno’ch sylwadau.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Byddwch yn cael eich dynodi fel awdur y dystiolaeth oni byddwch yn nodi nad ydych am i hyn ddigwydd, ond ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol. Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych, er nad yw wedi’i chyhoeddi cyn hynny. Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am ddatgelu pwy ydych, fel awdur y dystiolaeth, dylid nodi hyn yn glir, a rhoi dadl resymol dros gadw’r deunydd yn ôl. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth. Stefan Sanchez
Clerc
Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerydd  CF99 1NA
Ffon: 029 20 898164
E-bost: stefan.sanchez@wales.gsi.gov.uk

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help