Y Pwyllgor Menter a Dysgu

Creu Swyddi yn yr Economi Werdd yng Nghymru

Cylch Gorchwyl:

  • Effaith debygol y dirwasgiad presennol a’r pwysau ar arian cyhoeddus ar: gymhellion ariannol, cymorth i fusnesau a chymorth grantiau; ac ar fuddsoddi mewn prosiectau mwy, fel ynni adnewyddadwy, prosiectau datblygu newydd a chymhellion i reoli gwastraff;

  • Agwedd busnesau tuag at fuddsoddi mewn mentrau carbon isel;

  • Cyfleoedd ar gyfer arloesi a gweithgynhyrchu technolegau yng Nghymru nad ydynt yn cynhyrchu carbon, a rôl gysylltiedig y sector Addysg Uwch.                                                        

  • Y cyngor a’r dulliau cefnogi sy’n angenrheidiol i wella defnyddio ynni’n effeithlon yng Nghymru (er enghraifft o ran tai, busnes a’r sector cyhoeddus) a’r gofynion o ran sgiliau a’r manteision economaidd posibl sy’n gysylltiedig â hynny.          

  • Effaith agwedd defnyddwyr ar boblogrwydd cynnyrch /technolegau gwyrdd;

  • Sut y mae’n bosibl gwneud y gorau o fanteision economaidd unrhyw brosiectau buddsoddi cyfalaf amgylcheddol mawr a ddisgwylir yng Nghymru?.

  • Faint o fentrau caffael sy’n bodoli a’u llwyddiant;

  • Effeithiolrwydd y strategaeth swyddi gwyrdd yn yr Alban;

  • Agenda’r UE a dyfodol strategaeth Lisbon ar gyfer swyddi a thwf.

Yn yr adran hon

    Partneriaid a Help