Y Pwyllgor Menter a Dysgu
Darpariaeth arbenigol i bobl ifanc sydd ag awtistiaeth mewn addysg bellach.
Cylch Gorchwyl
Diben yr ymchwiliad byr hwn yw rhoi cyfle i’r Pwyllgor Menter a Dysgu i archwilio’r ddarpariaeth arbenigol i bobl ifanc sydd ag awtistiaeth mewn addysg bellach, yn unol ag argymhelliad adroddiad y Grwp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth (Mai 2009).
Materion i’w hystyried
Y trefniadau pontio rhwng yr ysgolion a’r colegau ar gyfer pobl ifanc sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD): a ydynt yn amserol ac a yw’r holl sefydliadau allweddol, y bobl ifanc a’u cynrychiolwyr wedi’u cynnwys yn effeithiol?
Cefnogaeth o fewn colegau gan nodi bylchau yn y ddarpariaeth.
Cyllido swyddi penodol i gynorthwyo dysgwyr sydd ag ASD a’r angen i godi ymwybyddiaeth o safbwynt hyfforddiant ASD ar gyfer staff addysgu a staff nad ydynt yn dysgu yn y colegau.
Cyllid ar gyfer rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr ag awtistiaeth mewn addysg bellach.
Cyllid ar gyfer lleoedd mewn colegau arbenigol yng Nghymru a Lloegr.
Rôl yr awdurdodau lleol.
Potensial y cyfleoedd posibl a ddarperir gan raglen Llwybrau Dysgu 14-19 sy’n anelu at sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael darpariaeth ddysgu sydd wedi ei theilwra i’w hanghenion a’u dyheadau unigol.
Cefnogaeth o fewn colegau ar gyfer datblygu sgiliau bywyd a chymdeithasol ar gyfer pobl ifanc sy’n dioddef o ASD, yn enwedig y rhai sy’n dioddef o syndrom Asperger
Trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd ag awtistiaeth ac sy’n dilyn cyrsiau addysg bellach.
