Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Gwasanaethau Cadeiriau Olwyn Yng Nghymru
Galwad Am Dystiolaeth
Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Gwasanaethau Cadeiriau Olwyn Yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru, ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.
Cefndir
Felly, mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi lansio ymchwiliad i’r gwaith o asesu a darparu gwasanaethau cadeiriau olwyn ac effeithiolrwydd y gwasanaethau hynny o ran diwallu anghenion defnyddwyr cadeiriau olwyn yng Nghymru.
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno’r cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ei ymchwiliad:
Ymchwilio i’r ddarpariaeth o wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru ar gyfer plant ac oedolion, gan gynnwys:
- Amseroedd aros am asesiad a darparu cadeiriau olwyn;
- Y trefniadau ar gyfer comisiynu a darparu cadeiriau olwyn drwy’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar a threfniadau lleol ar gyfer defnydd tymor byr a’r posibiliadau o ran datblygu trefniadau newydd o fewn strwythurau newydd y gwasanaeth iechyd gwladol;
- Effeithiolrwydd gwasanaethau cadeiriau olwyn o ran diwallu anghenion unigolion, megis anghenion plant a phobl ifanc, oedolion sydd yn gweithio, cyn-filwyr rhyfel a’r rhai sy’n dioddef cyflyrau sy’n gwaethygu, fel sglerosis ymledol;
- Y trefniadau ar gyfer adolygu anghenion unigolion ac ar gyfer diweddaru, cynnal a chadw ac atgyweirio cadeiriau olwyn;
- Ystyriaethau’n ymwneud â chydraddoldeb wrth ddarparu cadeiriau olwyn, gan gynnwys, er enghraifft, amrywiaethau daearyddol; darpariaeth ar draws y gwahanol oedrannau; materion sy’n effeithio ar grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a siaradwyr Cymraeg; a hygyrchedd gwasanaethau cadeiriau olwyn o ran lleoliad, amseroedd agor a gwybodaeth;
- Y defnydd o ddangosyddion perfformiad a dangosyddion ansawdd mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn ac effeithiolrwydd y dangosyddion hynny;
- Ariannu gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.
Cyflwyno tystiolaeth
Nid oes rhaid i gyflwyniadau roi sylw i'r holl feysydd uchod a bydd y Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau lle bydd cyfle i roi tystiolaeth lafar.
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor drwy ei hanfon i’r cyfeiriad isod erbyn Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 2009. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, naill ai mewn neges e-bost at health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhannu’r cais hwn am dystiolaeth ag eraill sydd â diddordeb neu, os yw hynny’n briodol, gydag unrhyw un o’ch aelod sefydliadau.
Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.
Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.
12 Tachwedd 2009
Aelodau’r Pwyllgor: Lorraine Barrett AC, Peter Black AC, Andrew R T Davies AC, Irene James AC, Ann Jones AC, Helen Mary Jones AC, Dai Lloyd AC, Val Lloyd AC, Darren Millar AC (Cadeirydd)