Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Galwad am Dystiolaeth

Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Byrddau Gwasanaethau Lleol

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r cynnydd a wnaethpwyd gan chwe Bwrdd Gwasanaethau Lleol peilot yng Nghymru a sut y bydd y Byrddau’n datblygu yn y dyfodol ac mae’n galw ar y rhai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Gwnaeth Adroddiad Adolygiad Beecham, Ar Draws Ffiniau: Gwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd nifer o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Dau argymhelliad i Lywodraeth y Cynulliad oedd:

  • Profi set realistig ac uchelgeisiol o Gontractau Gweithredu mewn Partneriaeth (PACts) gyda’r canlyniadau yn cael eu trafod ar y cyd â sefydliadau darparu lleol.
  • Ystyried profi model o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus lleol wedi i ganlyniad y PACts gael ei werthuso.  (1)

Yn Cyflawni ar Draws Ffiniau, ei ymateb i Adroddiad Beecham, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSBs) yn 2007-08 (2). Mae’n rhagweld y bydd y rhain yn tyfu o’r partneriaethau strategaeth cymunedol sy’n bodoli’n awr. Eu swyddogaeth yw dilyn llwybr gweithredu ar y cyd lle bydd yn golygu gwell canlyniadau i ddinasyddion, yn seiliedig ar gyd-gynllunio uchelgeisiol a darparu gwasanaethau yn integredig.

Yn dilyn hyn cyhoeddwyd chwe phrosiect datblygu yng Nghaerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Gwynedd, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam.  

Cylch Gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl canlynol ar gyfer yr ymchwiliad:

Archwilio cynnydd cynnar y chwe Bwrdd Gwasanaethau Lleol peilot yng Nghymru a gwneud argymhellion gyda golwg ar ddatblygu Byrddau Gwasanaethau Lleol yn y dyfodol, gan gyfeirio at:

  • Y broses o ddwyn ynghyd “dimau arwain lleol” yn yr ardaloedd peilot ac effeithiolrwydd cyd-weithio rhwng y cyrff craidd a deiliaid diddordeb.
  • Monitro a gwerthuso’r cynnydd a wnaethpwyd wrth sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol hyd yma a’r broses “ddysgu gweithredol” wrth iddynt ddatblygu.
  • Cytundeb Cytundebau Darparu’n Lleol (LDAs) yn yr ardaloedd peilot, yn cynnwys edrych i ba raddau y mae pobl leol wedi ymwneud yn y broses.
  • Y berthynas rhwng Byrddau Gwasanaethau Lleol a strwythurau partneriaeth presennol, yn benodol y partneriaethau strategaeth cymunedol a’r strwythurau isranbarthol megis Byrddau Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • Y craffu ar ac atebolrwydd Byrddau Gwasanaethau Lleol.
  • Sut mae partneriaid sy’n cynnwys sawl awdurdod unedol yn ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Lleol niferus.
  • Rôl Awdurdodau Lleol mewn perthynas â’r Byrddau.
  • Rôl swyddogion Llywodraeth y Cynulliad gyda golwg ar y Byrddau.
  • Rôl y “Cynllun Gofodol” a Gweinidogion â Byrddau Gwasanaethau Lleol yn eu hardaloedd.
  • I ba raddau y mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a Chytundebau Ardaloedd Lleol yn Lloegr wedi bod yn sail i ddatblygu’r model yng Nghymru?

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, erbyn dydd Gwener, 26 Medi 2008 fan bellaf. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu fformat Rich Text naill ai ar yr e-bost at health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae canllawiau pellach ar gyflwyno tystiolaeth ynghlwm. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cais hwn gydag unrhyw rai o’ch aelod-sefydliadau.

Efallai y bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r rhai sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gyflwyno fel tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a fyddech yn fodlon cyflwyno’ch tystiolaeth yn bersonol os gwelwch yn dda.

Dylai tystion fod yn ymwybodol, unwaith bo tystiolaeth ysgrifenedig wedi’i chyflwyno i Bwyllgor y caiff ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw gosod papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac fe allant wedyn gael eu hargraffu gyda’r adroddiad.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor.  O ganlyniad gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Ond, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth sydd yn y gorffennol wedi’i thynnu gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, dylech nodi’n glir pa rannau na ddylid eu datgelu, ynghyd â’ch rhesymau dros atal y deunydd dan sylw.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

25 Mehefin 2008

Steve George
Clerc y Pwyllgor
Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad
Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8009
e-bost: stephen.george@wales.gsi.gov.uk

(1) Report of the Beecham Review, Beyond Boundaries: Citizen-Centred Local Services for Wales, 2006. http://new.wales.gov.uk/topics/improvingservices/newsevents/publications/beyondboundaries/?lang=en

(2) Welsh Assembly Government, Delivering Beyond Boundaries, 2006. http://new.wales.gov.uk/topics/improvingservices/strategypolicy/deliveringbb/?lang=en