Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Cyhoeddi ymchwiliad pwyllgor: gofal newyddenedigol
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i ofal newyddenedigol.
Rydym yn gwahodd unigolion, grwpiau neu sefydliadau sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.
Cefndir
Gofal newyddenedigol yw’r gangen arbenigol o feddygaeth sy’n edrych ar ôl babanod sydd newydd gael eu geni. Bydd llawer o’r babanod sy’n cael gofal newyddenedigol wedi cael eu geni’n gynnar neu â phwysau geni isel, a bydd angen help ychwanegol arnynt tan eu bod yn ddigon cryf i fynd adref. Bydd gan fabanod eraill broblemau meddygol penodol sydd angen gofal arbenigol brys neu lawdriniaeth.
Mae Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2008) yn cynnig gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau i fabanod gofal arbennig a’u teuluoedd, i’w chyflawni dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr a fydd yn edrych ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan a gweithredu argymhellion y grŵp arbenigol ar Wasanaethau Newyddenedigol.
Cylch gorchwyl
Rydym wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ein hymchwiliad:
Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion y grŵp arbenigol ar Wasanaethau Newyddenedigol a chyflawni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan; gan gynnwys:
Trefniadau ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, yn unol â safonau staffio Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain ac adolygiad Comisiwn Iechyd Cymru.
Strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal newyddenedigol ac a yw’r strategaeth honno’n cael ei hystyried yn rhan integredig o wasanaethau mamolaeth.
Ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y nyrsys newyddenedigol, bydwragedd ac ymgynghorwyr newyddenedigol.
Trefniadau ariannu ar gyfer datblygu gwasanaethau cludiant pwrpasol ar gyfer gofal newyddenedigol a rheini ar gael i’r holl unedau yng Nghymru 24 awr y dydd.
Mwy o gefnogaeth i rieni.
Effaith diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru.
Sgrinio am fyddardod.
Sut i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
Dylech gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor erbyn dydd Gwener 5 Mawrth 2010.
Os yw’n bosibl, anfonwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Text, naill ai drwy e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.
Os nad yw hyn yn bosibl, anfonwch eich tystiolaeth ysgrifenedig at:
Y Clerc, Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, CF99 1NA.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth ynghlwm.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cais hwn â grwpiau sydd â diddordeb neu, lle bo’n briodol, unrhyw un o’ch aelod-sefydliadau.
Aelodau’r Pwyllgor: Lorraine Barrett AC, Peter Black AC, Andrew R. T. Davies AC, Irene James AC, Ann Jones AC, Helen Mary Jones AC, Dai Lloyd AC, Val Lloyd AC, Darren Millar AC (Cadeirydd)
12 Chwefror 2010
Cyngor ar gyflwyno tystiolaeth
Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.
Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Caiff papurau ysgrifenedig eu cyhoeddi ar y wefan, ac efallai y caiff rhannau ohonynt eu cynnwys yn yr adroddiad.
Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol. Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
