Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Gwasanaethau Strôc yng Nghymru
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r ddarpariaeth o wasanaethau strôc yng Nghymru ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.Cefndir
Cafwyd beirniadaeth dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch gwasanaethau strôc yng Nghymru, yn enwedig yn y gyfres o adroddiadau 'National Sentinel Stroke Audit’, a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr ac a fynegodd pryderon difrifol am ansawdd gwasanaethau. Roedd yr adroddiad mwyaf diweddar, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2009, yn cydnabod gwelliannau o ran gwasanaethau strôc ond mae Cymru yn parhau i berfformio’n wael o’i chymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r pryderon hyn drwy flaenoriaethu gwasanaethau strôc gyda rhaglen gwella ac ariannu ychwanegol. Felly, mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i archwilio’r ddarpariaeth o wasanaethau yng Nghymru.Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno’r cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ei ymchwiliad:
"Archwilio’r gwasanaethau cyfredol a ddarperir ar gyfer rhai sy’n dioddef strôc yng Nghymru ac effeithiolrwydd polisïau llywodraeth Cymru i roi sylw i unrhyw wendidau yn y gwasanaethau hynny, yn cynnwys:
a oes unedau strôc arbenigol ar gael mewn ysbytai drwy Gymru a’r gwahaniaethau daearyddol sy’n bodoli yn y gwasanaethau hyn
yr adnoddau a neilltuir i wasanaethau strôc yng Nghymru
a oes staff arbenigol ar gael mewn canolfannau aciwt, yn cynnwys edrych ar recriwtio a hyfforddi
a oes cyfarpar arbenigol ar gael, fel sganwyr, i benderfynu ar y math o strôc a ddioddefwyd
a oes gwasanaethau ôl-ofal a gwasanaethau adferiad ar gael, yn cynnwys therapi lleferydd ac iaith, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a gwasanaethau eraill a ddarperir yn y gymuned.
dynodi arferion da o ran trin a rheoli strôc yng Nghymru, y DU a gwledydd eraill a’r modd y gellid lledaenu arferion da o’r fath;
rhaglenni ar gyfer atal strôc a hybu ffyrdd o fyw sy’n lleihau’r perygl o gael strôc;
effeithiolrwydd dangosyddion a dulliau mesur perfformiad sy’n berthnasol i wasanaethau strôc;
effaith ail-strwythuro’r GIG ar wasanaethau strôc yng Nghymru; a
materion cydraddoldeb o ran darparu gwasanaethau strôc, yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig.”
Dyma rai materion allweddol eraill bydd yr ymchwiliad am eu hystyried:
darparu gwelyau wedi’u neilltuo a staff arbenigol i drin strociau a diffyg unedau strôc arbenigol o’r fath yng Nghymru
adsefydlu da yn syth ar ôl cael strôc a fydd yn parhau ar ôl gadael yr ysbyty, yn cynnwys gwasanaethau fel therapi lleferydd, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol ac addasu tai yn amserol, yn ôl yr angen
cefnogaeth i bobl sydd â phroblemau o ran cyfathrebu yn dilyn strôc
rhoi triniaeth 'chwalu clotiau’ (thrombylosis)
gwybodaeth am atal a thrin strociau ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Nid oes rhaid i gyflwyniadau roi sylw i'r holl feysydd uchod a bydd y Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau strôc. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau lle bydd cyfle i roi tystiolaeth lafar.
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor drwy ei hanfon i’r cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener, 28 Awst 2009. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, un ai ar neges e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhannu’r cais hwn am dystiolaeth ag eraill sydd â diddordeb neu, os yw hynny’n briodol, gydag unrhyw un o’ch aelod sefydliadau. Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar. Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.
12 Mehefin 2009