Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Galwad am Dystiolaeth

Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Y Ffordd y Gweithredir Cafcass yng Nghymru

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r ffordd y gweithredir CAFCASS yng Nghymru ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i’r ffordd y gweithredir CAFCASS yng Nghymru.

Prif ddiben ymchwiliad y Pwyllgor yw astudio gwaith CAFCASS Cymru ac adolygu’r trefniadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau CAFCASS ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru ers i’r corff gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2005.

Cylch gorchwyl

Dylai ymchwiliad y Pwyllgor ganolbwyntio ar y prif feysydd a ganlyn:

  • Pa mor effeithiol yw CAFCASS Cymru wrth gynnal asesiadau a dadansoddiadau er mwyn hwyluso cymryd penderfyniadau sydd fwyaf buddiol i’r plentyn.

  • Integreiddio CAFCASS Cymru i’r fframwaith diogelu plant yng Nghymru.

  • Y graddau y mae dull gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â hawliau plant yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae CAFCASS Cymru yn darparu a datblygu ei wasanaethau.  

  • Effeithiolrwydd CAFCASS Cymru wrth fynd i’r afael ag anghenion grwpiau amrywiol.

  • Effeithiolrwydd yr offerynnau rheoli perfformiad a ddefnyddir i asesu perfformiad gwasanaethau CAFCASS Cymru, gan gynnwys cydymffurfio â safonau cenedlaethol.  

  • Cyfeiriad ac arweiniad strategol wrth weithredu Strategaeth CAFCASS Cymru.

  • Dyrannu adnoddau i CAFCASS yng Nghymru gan Lywodraeth y Cynulliad, sy’n cynorthwyo i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol.

  • Argaeledd a hygyrchedd canolfannau cyswllt plant i blant a’u teuluoedd yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn awyddus i drafod y materion craidd a ganlyn:

  • I ba raddau y mae CAFCASS Cymru yn bodloni ei ddyletswyddau statudol o fewn y System Cyfiawnder Teuluol a beth yw’r prif heriau sy’n wynebu’r sefydliad?

  • Pa mor effeithiol yw CAFCASS Cymru wrth gynnal asesiadau a dadansoddiadau er mwyn hwyluso cymryd penderfyniadau sydd fwyaf buddiol i’r plentyn, gan gynnwys cyfraith breifat, cam-drin domestig a threfniadau cyswllt?

  • I ba raddau y mae gwasanaethau CAFCASS Cymru yn adlewyrchu dull gweithredu Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn?

  • Pa rôl y dylai CAFCASS Cymru ei chwarae o fewn y fframwaith diogelu ehangach yng Nghymru?

  • Pa mor effeithiol yw CAFCASS Cymru o ran diwallu anghenion grwpiau amrywiol?

  • Pa gamau ddylai Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd i sicrhau bod digon o  gyfleoedd i safbwyntiau defnyddwyr a rhanddeiliaid y gwasanaeth gael eu hystyried yng ngwaith CAFCASS Cymru, gan gynnwys safbwyntiau plant a phobl ifanc eu hunain a rhwydwaith y teulu ehangach?

  • Pa mor effeithiol yw CAFCASS Cymru wrth sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n effeithiol ac effeithlon ac wrth ddyrannu arian ar gyfer gweithgareddau fel canolfannau cyswllt plant?

Nid oes yn rhaid i gyflwyniadau roi sylw i'r holl feysydd uchod a bydd y Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys plant a theuluoedd sydd â phrofiad uniongyrchol o waith CAFCASS. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau lle bydd cyfle i roi tystiolaeth lafar.

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener 24 Ebrill 2009. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, un ai ar neges e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn rhannu’r cais hwn am dystiolaeth ag eraill sydd â diddordeb neu, os yw hynny’n briodol, gydag unrhyw un o’ch aelod sefydliadau.

Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.  

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

10 Mawrth 2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help