Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Galw am Dystiolaeth

Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn y Gymuned

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Mae llawer o waith wedi’i wneud ar faterion iechyd meddwl mewn blynyddoedd diweddar a arweiniodd at ddeddfwriaeth newydd a deddfwriaeth arfaethedig a nifer o ddogfennau adolygu polisi a dogfennau strategaeth. Mae felly’n briodol bod Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned yng Nghymru.

Cylch gorchwyl

Mae’r pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:

Darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned yng Nghymru ar gyfer pobl 16-60 oed, gyda ffocws penodol ar:

  • Alluedd y gwasanaethau ac i ba raddau y maent ar gael yn ddaearyddol.

  • Darpariaeth gwasanaethau i bobl ifanc dros 16 oed yn y cyfnod pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion;

  • Y dylanwad a gaiff gwasanaethau effeithiol yn y gymuned ar dderbyniadau i ysbytai ac oedi wrth drosglwyddo gofal.

  • Bod yr elfennau gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned yn cael eu cydlynu’n effeithiol.

  • Materion cydraddoldeb mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig.

  • Esiamplau o arferion da wrth ddarparu gwasanaethau

Dyma rai o’r materion perthnasol y bydd y pwyllgor yn dymuno eu hystyried:

  • Y gwendidau yn y ddarpariaeth gwasanaethau cymunedol i oedolion ar hyn o bryd.

  • Bod yr elfennau iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u hintegreiddio’n wael o fewn rhai Timau Iechyd Meddwl Cymunedol.

  • Y problemau a gaiff pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed wrth geisio cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac yn y cyfnod pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion.

  • Y dewisiadau eraill sydd, ar wahân i dderbyn cleifion iechyd meddwl i ysbyty a’u rhyddhau o ysbyty yn brydlon ac yn ddiogel a dulliau o ymdrin â phroblemau sy’n deillio o wasanaethau annigonol yn y gymuned yn cynnwys datrys argyfyngau/triniaeth yn y cartref a gwasanaethau tai a chefnogaeth.

  • Pryderon mewn cysylltiad â’r Dull Rhaglen Gofal, yn cynnwys y gwahaniaethau o ran gweithredu’r Rhaglen drwy Gymru.

  • Pryderon mewn cysylltiad â pha mor ddigonol yw gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, rhai sydd yn anabl yn gorfforol a rhai sydd â phlant.

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener 3 Ebrill 2009. Os yn bosibl, a wnewch chi gyflwyno fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, un ai ar neges e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg? Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn rhannu’r cais hwn am dystiolaeth ag eraill sydd â diddordeb neu, os yw hynny’n briodol, gydag unrhyw un o’ch aelod sefydliadau.

Gall y pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r pwyllgor ei thrin fel eiddo’r pwyllgor. Bwriad y pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.  

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

26 Chwefror  2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help