Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad Pwyllgor: Cynllunio Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Galw am Dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gynllunio gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ac yn galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Ym maes gofal iechyd, bydd yr ymchwiliad yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru fel prinder meddygon teulu mewn rhai ardaloedd, lefel y swyddi nyrsio gwag sydd wedi’u llenwi gan staff cronfa ac asiantaeth, lleoliadau hyfforddi  ar gyfer meddygon iau a faint o swyddi sydd ar gael i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd newydd gymhwyso e.e. ffisiotherapyddion. Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod yr amrywiaeth amlwg yn nifer y gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd bob blwyddyn, sy’n arwain naill ai at ormod o weithwyr neu brinder gweithwyr.

Mae’r sector gofal cymdeithasol yn cyflogi 70,000 o bobl yng Nghymru, gyda’r sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yn darparu gwasanaethau. Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau gofal hyd y gellir rhagweld. Mynegwyd pryder yn y sector plant ynghylch prinder gweithwyr cymdeithasol i gyflawni gwaith ym maes amddiffyn plant. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar anawsterau staff gofal cymdeithasol o ran recriwtio a chadw ac effaith polisïau’r Llywodraeth yn y meysydd hyn.

Cylch Gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:

"Ymchwilio i effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer cynllunio gweithlu yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i wneud argymhellion ar gyfer y trefniadau yn y dyfodol, gan gyfeirio at:

  • Y ffordd y mae cyfrifoldeb wedi’i rannu ymhlith cyrff sy’n gyfrifol am gynllunio’r gweithlu a’r dulliau a ddefnyddiant

  • Y wybodaeth sydd ar gael a all gyfrannu at gynllunio’r gweithlu a safon y wybodaeth honno  

  • Rhan yr holl randdeiliaid perthnasol yn y broses gynllunio

  • Newidiadau ym mhatrwm y galw am wasanaethau (gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio) a’r ddarpariaeth sydd ar gael yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys ailgyflunio gwasanaethau, defnyddio technoleg newydd, trefniadau newydd ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus)  

  • Trefniadau trawsffiniol â’r GIG yn Lloegr

  • Newidiadau mewn swyddogaethau proffesiynol a rhaglenni hyfforddi

  • Y cydweithio rhwng asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol

  • Anghenion gweithlu’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat

  • Recriwtio gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru, gan gynnwys staff sy’n siarad Cymraeg a’r rheini o grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

  • Enghreifftiau o arfer da ac arloesol.”

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor i’r cyfeiriad isod, i gyrraedd ddydd Gwener 2 Tachwedd 2007 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Text, naill ai drwy e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad wedi hynny.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

28 Medi 2007

Partneriaid a Help