Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad Pwyllgor: Caniatâd Tybiedig i Roi Organau
Galw am Dystiolaeth
13 Chwefror 2008Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Caniatâd Tybiedig i Roi Organau
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad ynghylch cyflwyno system caniatâd tybiedig i roi organau yng Nghymru ac mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.Cefndir
Mae’r syniad o gyflwyno system caniatâd tybiedig fel ffordd o gael organau i’w trawsblannu’n cael ei drafod fwyfwy’n gyhoeddus . Ar hyn o bryd does dim digon o bobl yn rhoi organau ac mae hynny’n golygu bod unigolion sy’n aros am drawsblaniad, a’u teuluoedd, yn dioddef yn sylweddol. Mae pryder hefyd y bydd tueddiadau cymdeithasol ac iechyd yn y dyfodol yn arwain at fwy o alw am drawsblaniadau.Ar y llaw arall, mae safbwynt y rheini sydd â phryderon moesol, moesegol neu grefyddol ynglyn â’r mater neu’r rheini sy’n teimlo mai mater i unigolion a’u teuluoedd yw’r penderfyniad i roi organau ac na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd yn y maes sensitif hwn.
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ei ymchwiliad ei hun gan edrych ar agweddau fel fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o ganiatâd tybiedig, barn y cyhoedd a’r rhai sydd a wnelont â’r mater, a sut y byddai unrhyw system yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â’r system yng ngweddill y DU.
Er nad oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn ar hyn o bryd, ymddengys nad oes unrhyw reswm sylfaenol pam na ddylai geisio’r pwerau y byddai eu hangen arno drwy gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad. Archwilio’r trefniadau ar gyfer rhoi organau yng Nghymru a gwneud argymhellion ynglŷn â chyflwyno system o ganiatâd tybiedig yng Nghymru gan gyfeirio at:- Safbwyntiau moesol, moesegol, crefyddol a chymdeithasol ar ganiatâd tybiedig
- Fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o’r fath
- Enghreifftiau gwael ac enghreiffitau da o systemau caniatâd tybiedig
- Y seilwaith, yr adnoddau a’r sefydliadau presennol
- Yr adnoddau ychwanegol a’r seilwaith y byddai eu hangen
- Y ffordd y byddai trefniadau trawsblannu Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r trefniadau yng ngweddill y DU
- Barn y cyhoedd, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol.
- Ffyrdd eraill o sicrhau bod mwy o organau ar gael heb gyflwyno system caniatâd tybiedig
Mae’n arferol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi tystiolaeth a gyflwynir i Bwyllgor. Gan hynny, gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth atodol i adroddiad. Ni fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth os yw’n ystyried ei bod yn wybodaeth bersonol.
Os daw cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, mae’n bosibl y bydd yn rhaid datgelu’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth na chafodd ei chynnwys gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w chyhoeddi cyn hynny.
Os ydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth, ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w gyhoeddi yn eich barn chi, rydych chi’n teimlo nad yw’n addas i’w datgelu’n gyhoeddus, rhaid i chi nodi’r rhannau hynny na ddylid eu cyhoeddi gan roi rhesymau da dros hynny. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried hyn pan fydd yn cyhoeddi gwybodaeth neu’n ymateb i gais am wybodaeth.
