Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig
Ymchwiliad Craffu – Ad-drefnu Ysgolion yng nghefn gwlad Cymru
Ymateb Mae Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg, Iechyd a Lles, Cyngor Sir Ynys Môn
Mae Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg, Iechyd a Lles, Cyngor Sir Ynys Môn yn cydnabod yr angen i resymoli darpariaeth ysgolion gweledig yn ymateb i’r newid yn yr amgylchiadau o safbwynt:
lleihad yn niferoedd y disgyblion
cynnydd yn y lleoedd gweigion
lleihad yn y cyllid
cynnydd mewn costau, yn arbennig cost rheoli ysgolion
problemau recriwtio penaethiaid
cynnydd yn y risg i ansawdd yr addysgu mewn ysgolion bach
Anghenion y disgyblion ddylai fod y brif ystyriaeth wrth ystyried trefniadaeth ysgol.
Prif bwrpas a priod waith ysgol ydi addysgu plant ond mae’n rhaid cydnabod fod ysgol yn cyflawni rôl gymunedol hefyd ac, erbyn hyn, mewn aml i gymuned, yr ysgol ydi’r unig adnodd cymunedol.
Wrth ystyried darpariaeth ysgolion mewn ardaloedd cefn gwlad, yr ystyriaeth gyntaf ydi sicrhau amgylchiadau o safbwynt staffio, adnoddau ac adeiladau fydd yn caniatáu darparu addysg o’r safon uchaf.
Yn ddelfrydol credir mai ysgol o 4 dosbarth ydi’r maint lleiaf sydd yn caniatáu amgylchiadau priodol - ysgol o tua 90 o blant gyda 4 dosbarth o ddau oed o tua 22 yr un.
Er y credir mai 90 ddylai fod isafswm nifer disgyblion does dim tystiolaeth fod safonau yn is mewn ysgolion llai. Mae adroddiadau Estyn ar ysgolion bach yn adroddiadau canmoliaethus dros ben, ond mae hynny yn deillio o ymroddiad athrawon a phenaethiaid yn fwy nag o amgylchiadau ysgolion bychan.
Dim ond pan mae nifer y disgyblion dan 50 mae cost y pen yn mynd yn uwch na 125% o’r cyfartaledd.
Dan 50 o blant
mae gofynion ar athrawon o ran arbenigedd yn uchel
mae gofynion ar benaethiaid yn uchel - baich ofal dosbarth uchel + rheoli
risg i safonau yn uwch
cost y pen yn uchel
Os ydi rhesymoli yn arwain i dros 50 yn cael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol, mae cost cludiant yn dueddol o fod yn uwch nag arbedion rhesymoli, ac fel mae cost tanwydd yn cynyddu mae hyn yn mynd yn gynyddol wir.
Dan 50 yn golygu mai 2 ddosbarth a 2 athro/athrawes sydd yn yr ysgol. Y 2 athro yn gorfod sicrhau arbenigedd yn holl bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol + addysg grefyddol. 4 oed ym mhob dosbarth ac amrywiaeth iaith, a gallu.
Barn Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg, Iechyd a Lles, Cyngor Sir Ynys Môn ydi:
oni bai fod amgylchiadau cwbl eithriadol nad oes cyfiawnhad i barhau i gynnal ysgolion gyda llai na 20 o ddisgyblion. Lle mae ysgolion yn mynd yn llai na 20 o ddisgyblion, dylid ystyried eu cau neu ystyried cynllun rhesymoli fyddai yn arwain i gynyddu nifer y disgyblion yn yr ysgol dan sylw.
Dylai’r Cynulliad ddarparu cyllid ychwanegol i awdurdodau addysg i gynnal ysgolion bach dan 50 o ddisgyblion sydd yn cwrdd â meini prawf cadarn cytunedig, sydd yn golygu fod cytundeb y dylid parhau i’w cynnal, e.e.
ysgolion, pe byddent yn cael eu cau, fyddai yn golygu y byddai plant dan 8 oed yn gorfod teithio mwy na 1 awr y dydd i’r ysgol agosaf.
ysgolion, pe byddent yn cael eu cau fyddai yn golygu y byddai yn rhaid i’r disgyblion fynychu ysgol arall fyddai yn gwbl wahanol o ran iaith, diwylliant a chefndir.
ysgolion, sydd yn darparu yr unig gyfleusterau cymunedol o fewn pellter penodol.
ysgolion lle mae o leiaf 75% o blant yr ardal [y dalgylch] yn ei mynychu.
Os ydi awdurdod yn penderfynu parhau i gynnal ysgol dan 50 sydd ddim yn ateb y meini prawf cytunedig, ni fyddai cyllid ychwanegol ar gael i gynorthwyo i gynnal yr ysgolion hynny.
