Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig
Ymchwiliad i Dyfodol Ucheldiroedd
Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig wrthi’n cynnal ymchwiliad i ddyfodol ucheldiroedd Cymru.
Mae ucheldiroedd Cymru yn llefydd heriol a phwysig am nifer o resymau, gan gynnwys ffermio, coedwigaeth, gweithgareddau hamdden, cadwraeth bywyd gwyllt a rheoli dwr. Mae’r ucheldiroedd hefyd yn dod yn fwyfwy pwysig yng nghyd-destun newid hinsawdd a materion sy’n ymwneud ag ynni.
Nod yr ymchwiliad yw:
Edrych ar ucheldiroedd Cymru yng nghyd-destun eu dyfodol economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol;
Ceisio dylanwadu, drwy’r Gweinidog yn y Cynulliad, ar y safbwynt y bydd y DU yn ei gymryd mewn trafodaethau â’r Comisiwn Ewropeaidd am y cynigion deddfwriaethol sy’n ymwneud â’r meini prawf newydd a ddefnyddir i ddynodi ardaloedd llai ffafriol;
Cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed sylwadau cynifer o bobl â phosibl sydd â diddordeb yn y maes, a hoffai’ch gwahodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau sydd yn yr atodiad.
Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig, ynghyd â chlywed tystiolaeth lafar mewn nifer o gyfarfodydd sydd i’w cynnal rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr eleni, er mwyn craffu ar faterion sy’n ymwneud ag ucheldiroedd Cymru a chyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cylch. Bydd y cyfarfodydd yn rhai cyhoeddus a byddant hefyd i’w gweld ar Senedd TV – sydd ar gael drwy ddilyn y linc o’n gwefan. Bydd cofnod llawn, gair-am-air o bob gwrandawiad ar gael hefyd. Bydd yr holl dystiolaeth ysgrifenedig a ddaw i law yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan (yn amodol ar yr ymwadiad a geir ar ddiwedd yr atodiad).
Gan ein bod yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl a sefydliadau â phosibl, a fyddech gystal ag anfon y llythyr hwn ymlaen at unrhyw un y credwch a hoffai ymateb. Gellir gweld copi electronig o’r llythyr hefyd ar ein gwefan yn:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-rd-home.htm
Rydym yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynwch eich tystiolaeth ar ffurf electronig, os yw hynny’n bosibl.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Mercher, 30 Medi 2009, drwy ei hanfon at Claire Morris, Clerc y Pwyllgor, i’r cyfeiriad hwn:
ruraldev.comm@wales.gsi.gov.uk
Dylid anfon copïau caled i’r cyfeiriad sydd ar frig tudalen gyntaf y llythyr hwn.
Cwestiynau ar gyfer yr ymchwiliad i ddyfodol ucheldiroedd Cymru:
Sut y dylai’r sector cyhoeddus gynorthwyo ucheldiroedd yn y dyfodol (gan gynnwys ystyried cynigion sydd ar y gweill gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dynodi ardaloedd llai ffafriol)?
Sut y gellir mesur cyfraniad yr ucheldiroedd yng nghyd-destun dyfodol cymdeithasol ac economaidd Cymru, ynghyd â’u cyfraniad at yr amgylcheddŵ
Sut y gellir defnyddio polisi’r Llywodraeth i weithio gyda rheolwyr tir a’u hanghenion er mwyn sicrhau bod ucheldiroedd Cymru’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl?
Sut y gellir mesur y prosesau naturiol sy’n rhan o’r ecosystem a ddarperir gan yr ucheldiroedd, fel storio carbon a rheoli llifogydd?
Sut y gellir cynnwys newid hinsawdd ac effeithiau posibl hynny yn rhan o’r broses o gynllunio ar gyfer dyfodol yr ucheldiroedd?
Beth fydd cyfraniad ffermio a choedwigaeth yng nghyd-destun dyfodol yr ucheldiroedd?
Pa gyfraniad sydd gan dir comin i’w wneud yng nghyd-destun dyfodol yr ucheldiroedd?
Sylwer:
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
